Sunday, April 13, 2008

Cwm Llwm?

Mae’r sianel ddigidol arfaethedig yn yr iaith Aeleg, ffrwyth partneriaeth rhwng BBC Alba a Seirbheis nam Meadhanan Gàidhlig, eisiau sioe sebon newydd - rhywbeth tebyg i Machair a ddarlledwyd ar STV rhwng 1992-96. Wrth gwrs, mae’r syniad o ddefnyddio opera sebon fel asgwrn cefn sianel deledu yn hen, hen syniad, ac yn dacteg effeithiol fel porth i ddenu pobl i wylio rhaglenni eraill y sianel honno. Ond mae’n ymddangos fod goruchafiaeth Pobol y Cwm fel prif raglen S4C yn dechrau edwino. Mae’r ffigurau gwylio diweddaraf am yr wythnos hyd at 16 Mawrth yn dangos mai Codi Canu ddaeth i’r brig, er gwaetha shambyls sain y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm; yna’r gyfres ddrama ryfeddol o boblogaidd Teulu (mae priodas yn garantîd o ddenu); a chyfres natur epig Iolo Williams. Digon teg, castiau criw Cwmderi oedd pump o raglenni mwyaf poblogaidd y Deg Uchaf (ynghyd â ffigurau ailddarlledu’r pnawniau canlynol ac omnibws y Sul), ond roedd adeg pan arferai penodau unigol ddenu dros gan mil yn gyson - a nod rhaglenni eraill oedd curo PYC. Bellach, mae Dai Jôs yn fwy poblogaidd na Dai Ashurst bob tro y ceir cyfres newydd o Cefn Gwlad. Dyma’r Deg Uchaf:

1. CODI CANU             (SUL)                          101,000

2. TEULU                    (SUL)                          100,000

3. NATUR CYMRU         (LLUN)                         94,000

4. POBOL Y CWM         (IAU)                           85,000

5. POBOL Y CWM         (MERCHER)                   76,000

6. POBOL Y CWM         (LLUN)                         76,000

7. POBOL Y CWM         (GWENER)                    71,000

8. JONATHAN               (GWENER)                   69,000

9. CERYS NôL ADRE       (MAWRTH)                  65,000

10. POBOL Y CWM         (MAWRTH)                  63,000

Dim lladd er mwyn lladd ar PYC ydw i. Yn wir, hon yw’r unig sioe sebon dwi’n ei gwylio’n rheolaidd bellach. Mae straeon difyr y dyddiau hyn yn cynnwys perthynas gymhleth Nesta/Hywel/Ffion, carwriaeth Kevin a Sheryl, y Deri ar ei newydd wedd, a chymeriadau newydd fel Gaynor Evans, pennaeth Ysgol y Mynach a’i ddwy ferch (sy’n actoresau syndod o dda, o gofio’r plant prennaidd sydd fel arfer yn bla ym myd sebon). Ac mae’n braf croesawu Eileen (Sera Cracroft) yn ôl i Benrhewl. Ar y llaw arall, mae cymeriadau wedi gadael Cwmderi fel y Marie Celeste yn ddiweddar, rhwng Stacey, Julie, Kath, Jason, Katie, Erin a Sabrina; ac mae ganddi’r arferiad anffodus o gyflwyno cymeriadau o nunlle a’u hanfon i dir neb wedyn - Evie a Rhian Haf sy’n dod i’r cof. Ac mae ‘na golli cyfle a photensial aruthrol gyda chymeriadau cryf eraill, fel yr archddihiryn Ieuan Griffiths a’i wraig Hazel. Er gwaetha’r gwelliannau mawr, mae arna i ofn fod PYC wedi colli lot fawr o’r ffyddloniaid ers canol y nawdegau, pan roedd Cwmderi’n gartref i gangstyrs, gwerthwyr cyffuriau a lapddawnswyr. Neu efallai bod trefniant seiloffon-a-phiano-plant-Yamaha uffernol Owen Powell (Mr Waw Ffactor, gynt o Catatonia) o’r arwyddgan yn ddigon i wneud i bobl droi am Deadenders.




Posted by Gog y Cwm at 10:40:30 | Permalink | Comments (1) »

Tuesday, March 25, 2008

Tra bo dau

alt : http://www.youtube.com/v/BBK2KhgslSo&hl=en
 

Dwi wedi canmol Gavin & Stacey i’r cymylau o’r blaen yn y tudalennau hyn. A chyda’r ail gyfres newydd ddychwelyd i lonni nosweithiau Sul ar BBC Three, mae’n esgus perffaith i roi mensh bach arall i’r perl o gyfres gomedi hon. Gyda chlod a bri gan y British Comedy Awards a’r South Bank Show Awards, a chynulleidfa deilwng o 1.7 miliwn ar sianel ddigidol leiafrifol, mae’n ymddangos fod y mis mêl yn parhau! A newydd ddychwelyd yn ôl o’u mis mêl y mae’r cwpl cariadus, yn syth i groeso mawr gan y ddau deulu a ffrindiau o’r Barri a Billericay, Essex. A’r tro hwn, mae gan y forwyn briodas (Nessa) a’r gwas priodas (Smithy) ran tipyn mwy amlwg fel darpar rieni anfoddog. Mae perthynas cas a chariad y ddau yn destun chwilfrydedd, gyda Nessa yn lleisio ei hofnau am y dyfodol yn ei ffordd gynnil arferol: “He’s vile and he’s English”. Mae Smithy wedi pwdu gyda Gavin ei ffrind gorau am anwybyddu ei negeseuon a galwadau ffôn dros dair wythnos y mis mêl, a Stacey wedi pwdu efo’i mam am gynnig ei hen lofft i Nessa feichiog sydd ar hyn o bryd yn cydfyw gydag aelodau “The Distance” - band newydd tri aelod o Catatonia “and the little Welsh one from Hear’Say”. Am ddelwedd hunllefus! Mae Uncle Bryn (Rob Brydon) yr un mor annwyl gyda’i obsesiwn trist â system llywio lloeren ei Citroën Picasso, a Pamela Shipman (Alison Steadman) yn dal i ddioddef bod yn llysieuwraig-cogio-bach er mwyn creu argraff dda ar y teulu-yng-nghyfraith o Gymru. Cymeriadau yr ydych chi’n malio amdanynt, pobl gyffredin â thwtsh o’r absẃrd sydd eto’n gredadwy; cyfres sy’n codi gwên heb orfod dibynnu ar iaith groch na chwarddiad ffals ar dâp. Ac yn ôl canolwr Cymru, Tom Shanklin, roedd ef a’i gydchwaraewyr wrth eu boddau’n gwylio fideos Gavin and Stacey wrth deithio ar fws y garfan i’r sesiynau hyfforddi. Dyna i chi bluen arall yn het y gyfres!

Go brin y caiff Llŷr a Manon gystal fis mêl. Daeth cyfres sebon y Sul, Teulu, i ben gyda’r briodferch yn gadael ei pharti nos er mwyn ymuno â’i brawd-yng-nghyfraith a’i gwir gariad wrth wely angau eu bos/tad siawns yn yr ysbyty. Wedi’ch drysu’n lân? Na phoener, bydd ‘Ewings’ Aberaeron yn siŵr o gloddio mwy o dwll iddyn nhw’u hunain erbyn y gyfres nesaf. I mi’n bersonol, un o’r cymeriadau ar y cyrion oedd seren y sioe - Eirlys (Eiry Thomas), hen drwyn y feddygfa â’i thafod siarp sydd eto’n meddwl y byd o Dr John. Ac chyda phwy oedd fy nghydymdeimlad mwyaf? Cleifion y cylch wrth gwrs! A ’styried bod y staff naill ai’n rhy brysur yn slochian siampen ym Mhen-y-cei neu’n chwarae doctors a nyrsys efo’i gilydd, pa ryfedd fod stafell aros y feddygfa’n orlawn?!

Posted by Gog y Cwm at 19:17:03 | Permalink | Comments (1) »

Monday, January 14, 2008

Lawr ar lan y môr…


Teulu. Weithiau’n fwrn weithiau’n fendith. Anodd plesio a hawdd pechu. Naill ai’n cyd-dynnu neu’n cythruddo’i gilydd. Yn destun balchder neu’n berwi’ch gwaed. A dyna fel mae hi yn nrama newydd sbon nos Sul o’r enw, ym, Teulu (Boomerang) wrth gwrs! Anwybyddwch y teitlau agoriadol sy’n debycach i fideo addysg rhyw. Anghofiwch y ffaith ei bod megis gêm o “pwy ‘di pwy Pobol y Cwm“, gyda Nerys, Barry John, Llew, Karen, Lisa, Fiona, a Jason oll wedi’u hatgyfodi yn Aberaeron. Gyda golygfeydd godidog o Geredigion ganol haf, ac awduron sy’n hen lawiau ar greu dramâu poblogaidd - Meic Povey (Talcen Caled) a Branwen Cennard (Iechyd Da) - mae yma rysáit am gyfres lwyddiannus, gyda lwc!
 

Hanes Morganiaid Bryncelyn sydd yma, teulu braf eu byd lle mae pwyslais ar wneud yn dda a chadw enw da. Mae Hywel (Geraint Morgan) y mab hynaf, dan bwysau i adael ei syrjeri yn Llundain bell a dychwelyd yn anfoddog i’w gynefin wedi marwolaeth ddisymwth tad ei wraig. Llinos (Rhian Jones) ei chwaer wedyn, sy’n rhedeg tafarn a bwyty moethus Pen-y-cei ar y cyd â’i chymar Danny, sydd wedi ysgaru (er mawr siom i’w mam!). Ac yn olaf, Llŷr (Rhys ap Hywel), cyw melyn ola’r teulu a channwyll llygad ei fam sy’n gyfrifol am faes carafannau’r teulu. Ac yn y cefndir, criw o gymeriadau brith fel meddyg meddw, derbynyddes flin, a chlown o labrwr.


Rhyw bortread opera sebon o deulu a chymdeithas dosbarth canol Cymraeg sydd yma, yn cwmpasu’r byd meddygol a’r diwydiant gwyliau glan môr. Ond mae yma ddigonedd o wrthdaro a thyndra personol a rhywiol, a mân awgrymiadau yma ac acw i ennyn chwilfrydedd. Er enghraifft, y golygfeydd o Dr Manon yn llygadu Dr Hywel, brawd ei chariad Llŷr, o bell; a’r awgrym bod gan hyd yn oed y fam haearnaidd a’r ddraig o ddynes Margaret Morgan (Mair Rowlands) rywbeth i’w guddio - ynghylch Dr John (Rhys Parry Jones) efallai? Er na chaiff hon lawer o farciau am dorri tir newydd ym myd y ddrama Gymraeg, mae yna sglein yn perthyn iddi. Mae’r deialogi’n llifo’n naturiol braf, a’r seibiau rhwng y cymeriadau yn dweud cyfrolau. Prawf nad oes angen cyfieithu sgript Saesneg na golygfeydd gwaedlyd o gangstyrs drama i greu drama dda. Ac am unwaith, mae’n braf gweld tai mawr, ceir drud, a phobl drwsiadus mewn drama Gymraeg - yn lle trueiniaid tai cyngor y gogledd sy’n crafu byw rownd y rîl ym ‘Mhen-tennyn-uffar-o-stad-amdani’ fel y dychanwyd mor wych gan griw Cnex ar un adeg.


Cymharer safon S4C â chyfres sebon I(diot)TV wedi’i gosod mewn tref glan môr arall, Echo Beach. Traethau euraidd, syrffwyr a merched fwy euraidd byth, awyr las a moroedd braf? Dyna chi Home and Away. Yn anffodus, Cernyw ac un o hafau gwlypaf yn hanes Prydain sy’n gefndir i’r gyfres Seisnig. Do, mi wastraffais awr werthfawr o ‘mywyd yn gwylio’r cachbeth anhygoel hwn, yn dilyn drama gomedi y tu ôl i’r llenni, Moving Wallpaper gyda’r digrifddyn Ben Miller. Be’ gafwyd oedd Jason Donovan yn ein hatgoffa pam mai hysbysebion Iceland yw pinacl diweddar ei yrfa, a Martine McCutcheon famol a glamyrys yn llwyddo i ymddangos fel rhyw forfil blewog mewn cardigan binc. Ychwanegwch Mike Baldwin Coronation Street gynt mewn het wlanog yn mwrdro acen Cernyw a Mrs McCluskey o Grange Hill oes yr arth a’r blaidd; a golygfa ddoniol o griw ifanc yn dawnsio fel fflamiau i drio cadw’n gynnes mewn parti traeth ar ddiwrnod amlwg o aeafol. Mwy o Golwyn Bê na Summer Bay felly! Mae barn y beirniaid yn unfrydol, o Sam Wollaston yn y Guardian i Rob Buckley, blogiwr difyr byd y teledu.

Dyma Eldorado ITV, heb os!

Posted by Gog y Cwm at 20:10:54 | Permalink | Comments (1) »