Saturday, June 28, 2008

Bilić, Roli a Kylie

Mi fydd hi’n haf a hanner i fabolgampwyr cadair freichiau eleni. Rhwng Ewro 2008, y tenis a’r Gemau Olympaidd mi fydd yr ardd fel jyngl, y car dan fynydd o lwch, y cynhaeaf ar ei hanner a’r barbeciw’n segur. Mae’n bleser gwylio’r cystadlu o dir mawr Ewrop eleni, yn absenoldeb heip a jingoistaidd Jac Sais a llwyddiant cenhedloedd bychain fel Croatia dan arweiniad Slaven Bilić. Ond waeth inni heb ag ymhyfrydu yn absenoldeb Rooney gan nad ydy Ramsey a’r giang yno chwaith. Er hynny, trueni nad oes yna raglen wythnosol arbennig gan griw Sgorio i roi’r ongl Gymraeg ar bethau. Ac er nad wyf am godi hen, hen, grachod, mae’r bêl hirgron yn amlwg iawn ar S4C eto’r haf hwn. Efallai bod cynnal Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn bluen yn het Cymru, ond faint ohonon ni sydd wir eisiau gwylio gêm fyw rhwng Iwerddon a Seland Newydd yn ystod yr oriau brig? Er ‘mod i’n barod i wylio uchafbwyntiau’r brif garfan a’u hymdrechion glew yn yr ail brawf yn Ne Affrica, dwi ddim mor barod i wylio rwtsh fel Rowland ac Eleri ar y Boks. Yr unig beth clyfar am hon oedd ei theitl. Os oedd cynhyrchwyr Avanti wedi gobeithio efelychu llwyddiant Jonathan, heb y dyn ei hun yn Hemisffer y De, fe wnaethon nhw glamp o gamsyniad. Roedd hyd yn oed Nigel Owens wedi’i dallt hi a’i heglu i ddyfarnu gemau Seland Newydd. Roedd hi’n boenus gwylio Eleri Siôn yn dilyn sgript hiwmor tŷ bach ac actio’r cymeriad strêt wrth i Rowland ‘Roli’ Phillips chwarae’r bili-ffŵl arferol. Gyda chymaint o bwyslais ar jôcs rhechu a thrôns Mr Phillips, mae’n addas dweud bod hon yn gachfa go iawn.

Ymddiheuriadau am yr iaith, ond dwi newydd wylio ail bennod o gyfres newydd Tipyn o Stad. Beiwch Iona (Janet Aethwy) yn enwedig, sy’n bytheirio fod y cyngor wedi’i symud o ‘Faes-Jî’ i Faes Menai. Ar ôl cael ei thraed yn rhydd o’r carchar, mae’n cael ei thraed dani ar y stâd drwy werthu mwg drwg i griw o hogia ysgol. Gyda thafod miniog a wyneb miniocach, dyw hon ddim yn ddynes i’w chroesi. A gwae Susan druan, sy’n troi’i thrwyn ar y “rafins” newydd drws nesaf am “dynnu’r lle i lawr yn ofnadwy”. Mae Elen Gwynne yn ei helfen fel y snob o fam ifanc sy’n ymhyfrydu yn ei chyfoeth newydd ar ôl ennill y bingo. Ond mae ei byd pinclyd perffaith yn chwalu’n rhacs wrth i’w merch bymtheg oed, Kylie, gyhoeddi ei bod yn feichiog yn ei pharti syrpreis. Chav-tastic! 

                                        Cofi Hills 90210


Posted by Gog y Cwm at 15:11:28 | Permalink | Comments (1) »

Wednesday, November 21, 2007

Werth y byd yn grwn

Roedd dechrau’r 80au yn gyfnod go llwm. Cyfnod unbennaeth Thatcher a’i rhyfel yn erbyn yr Archentwyr, y glowyr a chymdeithas yn gyffredinol. Digon llwm oedd hi ym myd ffasiwn hefyd, a barnu yn ôl rhaglen olaf Teledu’r Cymry wythnos ddiwethaf. Dwi’n siŵr fod y cyflwynwyr yn gwingo o weld eu hunain ym mabandod S4C - rhai fel Robin Jones, Gwyn Llywelyn a Tweli Griffiths yn eu lifrai llwydfrown mewn stiwdio lwydaidd fyth megis sianel wladwriaethol Albania. Rhyfedd fel mae pethau’n heneiddio mor gyflym. Cefais flas arbennig ar y rhaglen hon, oedd yn codi hiraeth am glasuron fel sgets ‘66 Chemical Gardens’ Torri Gwynt. A braf clywed Caryl Parry Jones yn ddigon onest i gyfaddef ei bod wedi creu rhaglenni gwael iawn yn ogystal â champweithiau fel Steddfod! Steddfod! ac Ibiza! Ibiza! Soniodd Huw Eic am ei falchder o weld enw S4C ymhlith darlledwyr cenedlaethol eraill yng nghystadleuaeth gyntaf Cwpan Rygbi’r Byd ym 1987; ac Euryn Ogwen yn cofio am boblogrwydd un rhaglen arbennig ymhlith y Sgowsars.

Mae’r rhaglen dan sylw, Sgorio, ‘nôl ar ei newydd wedd am awr gyfan bob nos Fawrth - er gwaetha’r sïon ar un adeg ei bod wedi cael y cerdyn coch gan benaethiaid y Sianel. Mae’r teitlau a’r arwyddgan wedi cael eu hymbincio, a’r hen law Morgan Jones yn swnio’n debycach i hombre o Toledo nag un o hogia Trefor wrth ynganu’r enwau Sbaenaidd i’r dim - sylwer, ddarlledwyr BBC Lloegr! Dangoswyd pigion o’r goliau gorau o bedwar ban byd mewn slot newydd o’r enw Goalissimo, gan gynnwys cynghrair Portiwgal â’r enw difyr, y ‘Liga Bet & Win’! Mae’r gamp yn yr Unol Daleithiau hyd yn oed yn cael sylw, sef ymgais i elwa ar boblogrwydd Mr Posh Spice gyda thîm LA Galaxy o bosib. Roedd uchafbwyntiau gêm gwpan rhwng DC United a Chicago (neu Chicargo, yn ôl y gohebydd Rhodri Tomos) yn agoriad llygad, gyda’r stadiwm dan ei sang o gefnogwyr swnllyd yn chwifio’u baneri fel ffans Serie A yr Eidal. Ac i gloi’r awr, cafwyd trafodaeth fyw ar y soffa rhwng Dylan Llywelyn, Marc Lloyd Williams (Jiws) a Ywain ‘Frizbee’ Gwynedd, ac Alun Williams Planed Plant braidd yn nerfus wrth gadw sedd Nic Parri yn gynnes am y tro. Mae wyneb cyfarwydd arall wedi dychwelyd i’r garfan hefyd, gydag Amanda Protheroe Thomas yn cyflwyno eitem ddibwrpas o fyr ar gasglwr posteri gemau rhyngwladol Cymru. Ddim bod Sgowsars yn cwyno…

                                                     


Posted by Gog y Cwm at 20:15:39 | Permalink | Comments (1) »