Sunday, April 13, 2008

Cwm Llwm?

Mae’r sianel ddigidol arfaethedig yn yr iaith Aeleg, ffrwyth partneriaeth rhwng BBC Alba a Seirbheis nam Meadhanan Gàidhlig, eisiau sioe sebon newydd - rhywbeth tebyg i Machair a ddarlledwyd ar STV rhwng 1992-96. Wrth gwrs, mae’r syniad o ddefnyddio opera sebon fel asgwrn cefn sianel deledu yn hen, hen syniad, ac yn dacteg effeithiol fel porth i ddenu pobl i wylio rhaglenni eraill y sianel honno. Ond mae’n ymddangos fod goruchafiaeth Pobol y Cwm fel prif raglen S4C yn dechrau edwino. Mae’r ffigurau gwylio diweddaraf am yr wythnos hyd at 16 Mawrth yn dangos mai Codi Canu ddaeth i’r brig, er gwaetha shambyls sain y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm; yna’r gyfres ddrama ryfeddol o boblogaidd Teulu (mae priodas yn garantîd o ddenu); a chyfres natur epig Iolo Williams. Digon teg, castiau criw Cwmderi oedd pump o raglenni mwyaf poblogaidd y Deg Uchaf (ynghyd â ffigurau ailddarlledu’r pnawniau canlynol ac omnibws y Sul), ond roedd adeg pan arferai penodau unigol ddenu dros gan mil yn gyson - a nod rhaglenni eraill oedd curo PYC. Bellach, mae Dai Jôs yn fwy poblogaidd na Dai Ashurst bob tro y ceir cyfres newydd o Cefn Gwlad. Dyma’r Deg Uchaf:

1. CODI CANU             (SUL)                          101,000

2. TEULU                    (SUL)                          100,000

3. NATUR CYMRU         (LLUN)                         94,000

4. POBOL Y CWM         (IAU)                           85,000

5. POBOL Y CWM         (MERCHER)                   76,000

6. POBOL Y CWM         (LLUN)                         76,000

7. POBOL Y CWM         (GWENER)                    71,000

8. JONATHAN               (GWENER)                   69,000

9. CERYS NôL ADRE       (MAWRTH)                  65,000

10. POBOL Y CWM         (MAWRTH)                  63,000

Dim lladd er mwyn lladd ar PYC ydw i. Yn wir, hon yw’r unig sioe sebon dwi’n ei gwylio’n rheolaidd bellach. Mae straeon difyr y dyddiau hyn yn cynnwys perthynas gymhleth Nesta/Hywel/Ffion, carwriaeth Kevin a Sheryl, y Deri ar ei newydd wedd, a chymeriadau newydd fel Gaynor Evans, pennaeth Ysgol y Mynach a’i ddwy ferch (sy’n actoresau syndod o dda, o gofio’r plant prennaidd sydd fel arfer yn bla ym myd sebon). Ac mae’n braf croesawu Eileen (Sera Cracroft) yn ôl i Benrhewl. Ar y llaw arall, mae cymeriadau wedi gadael Cwmderi fel y Marie Celeste yn ddiweddar, rhwng Stacey, Julie, Kath, Jason, Katie, Erin a Sabrina; ac mae ganddi’r arferiad anffodus o gyflwyno cymeriadau o nunlle a’u hanfon i dir neb wedyn - Evie a Rhian Haf sy’n dod i’r cof. Ac mae ‘na golli cyfle a photensial aruthrol gyda chymeriadau cryf eraill, fel yr archddihiryn Ieuan Griffiths a’i wraig Hazel. Er gwaetha’r gwelliannau mawr, mae arna i ofn fod PYC wedi colli lot fawr o’r ffyddloniaid ers canol y nawdegau, pan roedd Cwmderi’n gartref i gangstyrs, gwerthwyr cyffuriau a lapddawnswyr. Neu efallai bod trefniant seiloffon-a-phiano-plant-Yamaha uffernol Owen Powell (Mr Waw Ffactor, gynt o Catatonia) o’r arwyddgan yn ddigon i wneud i bobl droi am Deadenders.




Posted by Gog y Cwm at 10:40:30 | Permalink | Comments (1) »

Monday, January 14, 2008

Lawr ar lan y môr…


Teulu. Weithiau’n fwrn weithiau’n fendith. Anodd plesio a hawdd pechu. Naill ai’n cyd-dynnu neu’n cythruddo’i gilydd. Yn destun balchder neu’n berwi’ch gwaed. A dyna fel mae hi yn nrama newydd sbon nos Sul o’r enw, ym, Teulu (Boomerang) wrth gwrs! Anwybyddwch y teitlau agoriadol sy’n debycach i fideo addysg rhyw. Anghofiwch y ffaith ei bod megis gêm o “pwy ‘di pwy Pobol y Cwm“, gyda Nerys, Barry John, Llew, Karen, Lisa, Fiona, a Jason oll wedi’u hatgyfodi yn Aberaeron. Gyda golygfeydd godidog o Geredigion ganol haf, ac awduron sy’n hen lawiau ar greu dramâu poblogaidd - Meic Povey (Talcen Caled) a Branwen Cennard (Iechyd Da) - mae yma rysáit am gyfres lwyddiannus, gyda lwc!
 

Hanes Morganiaid Bryncelyn sydd yma, teulu braf eu byd lle mae pwyslais ar wneud yn dda a chadw enw da. Mae Hywel (Geraint Morgan) y mab hynaf, dan bwysau i adael ei syrjeri yn Llundain bell a dychwelyd yn anfoddog i’w gynefin wedi marwolaeth ddisymwth tad ei wraig. Llinos (Rhian Jones) ei chwaer wedyn, sy’n rhedeg tafarn a bwyty moethus Pen-y-cei ar y cyd â’i chymar Danny, sydd wedi ysgaru (er mawr siom i’w mam!). Ac yn olaf, Llŷr (Rhys ap Hywel), cyw melyn ola’r teulu a channwyll llygad ei fam sy’n gyfrifol am faes carafannau’r teulu. Ac yn y cefndir, criw o gymeriadau brith fel meddyg meddw, derbynyddes flin, a chlown o labrwr.


Rhyw bortread opera sebon o deulu a chymdeithas dosbarth canol Cymraeg sydd yma, yn cwmpasu’r byd meddygol a’r diwydiant gwyliau glan môr. Ond mae yma ddigonedd o wrthdaro a thyndra personol a rhywiol, a mân awgrymiadau yma ac acw i ennyn chwilfrydedd. Er enghraifft, y golygfeydd o Dr Manon yn llygadu Dr Hywel, brawd ei chariad Llŷr, o bell; a’r awgrym bod gan hyd yn oed y fam haearnaidd a’r ddraig o ddynes Margaret Morgan (Mair Rowlands) rywbeth i’w guddio - ynghylch Dr John (Rhys Parry Jones) efallai? Er na chaiff hon lawer o farciau am dorri tir newydd ym myd y ddrama Gymraeg, mae yna sglein yn perthyn iddi. Mae’r deialogi’n llifo’n naturiol braf, a’r seibiau rhwng y cymeriadau yn dweud cyfrolau. Prawf nad oes angen cyfieithu sgript Saesneg na golygfeydd gwaedlyd o gangstyrs drama i greu drama dda. Ac am unwaith, mae’n braf gweld tai mawr, ceir drud, a phobl drwsiadus mewn drama Gymraeg - yn lle trueiniaid tai cyngor y gogledd sy’n crafu byw rownd y rîl ym ‘Mhen-tennyn-uffar-o-stad-amdani’ fel y dychanwyd mor wych gan griw Cnex ar un adeg.


Cymharer safon S4C â chyfres sebon I(diot)TV wedi’i gosod mewn tref glan môr arall, Echo Beach. Traethau euraidd, syrffwyr a merched fwy euraidd byth, awyr las a moroedd braf? Dyna chi Home and Away. Yn anffodus, Cernyw ac un o hafau gwlypaf yn hanes Prydain sy’n gefndir i’r gyfres Seisnig. Do, mi wastraffais awr werthfawr o ‘mywyd yn gwylio’r cachbeth anhygoel hwn, yn dilyn drama gomedi y tu ôl i’r llenni, Moving Wallpaper gyda’r digrifddyn Ben Miller. Be’ gafwyd oedd Jason Donovan yn ein hatgoffa pam mai hysbysebion Iceland yw pinacl diweddar ei yrfa, a Martine McCutcheon famol a glamyrys yn llwyddo i ymddangos fel rhyw forfil blewog mewn cardigan binc. Ychwanegwch Mike Baldwin Coronation Street gynt mewn het wlanog yn mwrdro acen Cernyw a Mrs McCluskey o Grange Hill oes yr arth a’r blaidd; a golygfa ddoniol o griw ifanc yn dawnsio fel fflamiau i drio cadw’n gynnes mewn parti traeth ar ddiwrnod amlwg o aeafol. Mwy o Golwyn Bê na Summer Bay felly! Mae barn y beirniaid yn unfrydol, o Sam Wollaston yn y Guardian i Rob Buckley, blogiwr difyr byd y teledu.

Dyma Eldorado ITV, heb os!

Posted by Gog y Cwm at 20:10:54 | Permalink | Comments (1) »

Monday, January 7, 2008

Arlwy gymysg ar aelwyd S4C

Mae tymor y gormodedd drosodd ac Ifan Twrci Tenau yn saff am flwyddyn arall. A thymor y gormodedd fuodd hi ar S4C hefyd.

 

Dyna i chi’r arlwy arferol o fyd y gân, rhwng cyngerdd rhewllyd Carolau Llangollen, cyngerdd epig Dennis a Kiri o Ganolfan y Mileniwm a chyngerdd chwyslyd Dafydd Iwan ac Ar Log o Brifwyl Sir y Fflint. Cafodd rhai o’n cymeriadau sebon Ddolig i’w anghofio, gyda Meical yn gandryll ar ôl i Michelle gyfaddef iddi gael siec o £10,000 fel arian tadolaeth hirhoedlog gan Wyn yn Rownd a Rownd. Roedd blas cas iawn ym mhriodas Pobol y Cwm, wrth i Nesta niwrotig (Catrin Mara), dan anogaeth ei mam sbeitlyd (Morfudd Hughes), ddweud wrth ei chyfnither Ffion ei bod yn disgwyl babi Hywel Llywelyn. Heglodd Jason i Awstralia bell, a chefnodd Kath Jones (Siw Hughes) ar ei theulu a’i thacsis am fywyd gyda’r tarmaciwr crwydrol Johnny Mac.

 

Bu gormod o bwdin Dai Jones dros yr ŵyl hefyd. Tra’r oedd Cefn Gwlad o Lydaw gyda Chantorion Colin Jones yn plesio, roedd cyfres tair rhan Dai yn y Dŵr yn siomedig ar y naw. Gyda Mr Llanilar yn mynd i’r afael ag un arall o’i ofnau niferus (nofio) yng nghwmni ei hen gyfaill Wil Hafod, mae’n amlwg fod y cynhyrchwyr wedi gobeithio efelychu llwyddiant Dai ar y Piste. Ond yn wahanol i Dai yn y Môr Coch, bu bron i mi foddi mewn diflastod gyda chyfres y gellid fod wedi’i chwtogi i un rhaglen yn hawdd.

Diolch byth, felly, am ddôs o ddiwylliant go iawn yng nghwmni Bois Parc Nest (Apollo). Dyma bortread personol tri brawd o Gastellnewydd Emlyn - Aled Gwyn, T James Jones (Jim) a John Gwilym Jones - sy’n dychwelyd i dalu gwrogaeth i’w hen gynefin a lywiodd eu bywydau personol, proffesiynol a chreadigol am byth. Cawn straeon bendigedig am blentyndod hapus, rhwng chwarae criced ar fuarth y fferm gyda’u mam-gu; canu a dysgu adnod gyda’u mam, a ‘Dat’ yn barddoni ar gefn amlen wrth odro gyda llaw - er gwaetha cwyn rhyw forwyn ynglŷn â’r “hen boetry hyn”. Ond mae rhyw dristwch a hiraeth yn britho’r rhaglen hefyd. Hiraeth am draddodiad y gymanfa ganu, dosbarthiadau cynganeddu T Llew Jones ac eisteddfodau capel oedd yn para tan amser godro ben bore wedyn. Cymdeithas na ddoi fyth yn ôl. A thristwch personol iawn Aled Gwyn wedyn o golli ei wraig Menna a’i wyres fach Gwenan i salwch creulon, a’i sbardunodd i gyfansoddi cerdd fuddugol Eisteddfod Bro Colwyn ’95: “Ei choron hi yw hi, nid fy nghoron i”. Ond mae yma gyfeiriad at droeon trwstan steddfodol hefyd. Dyna chi brofiad John Gwilym o gwrdd â meistres y gwisgoedd (a chymdoges i’r teulu) a ddaeth i’w gyrchu ym Mhrifwyl Maldwyn ’81, ac a oedd yn poeni na fyddai neb gartref i roi’r biniau allan ar gyfer y lori ludw! A hanes coron sigledig Abergwaun ’86, am na aeth Jim ati i fesur ei ben cyn y seremoni fawr. Does dim angen troslais gan ryw actor anhysbys, cerddoriaeth ddramatig na graffeg ffansi yma. Mae lleisiau’r tri yn ddigon. Rhaglen i godi gwên a thynnu deigryn. 
 

O fyd steddfodol i fyd selebs yn Sioe PC Leslie Wyn (Boomerang) ar noson San Steffan. Do, mae plisman campus Cricieth wedi llwyddo i gael ei sioe ei hun ar y bocs megis Jonathan Ross Cymraeg. Mae ganddo hyd yn oed ei fand ei hun o’r enw Two Asbos on Probation! Ac fel Mr Ross, mae’r rhaglen yn frith o fwyseiriau lle mae’r gwesteion dewr/dwl yn destun gwawd a thafod miniog, anfwriadol, Mr Wyn. Mae ambell wyneb cyfarwydd yng nghanol cynulleidfa Llangefni, fel Jonsi (“hefo hwn fydda i’n codi’n bora”), Elin Fflur (“ma’ chwaer fi’n addolio chdi”) a Malcolm Alan sydd “efo mwy o points na Wrecsam” wrth gyfeirio at ei drwydded yrru. Ac mae’r cyflwynydd wedi gwirioni’n lân ar rannu soffa efo Rhodri Ogwen ac yn bachu ar y cyfle i’w gofleidio mewn eitem o’r enw ‘Hygio Hwdi’ fel rhan o nod yr heddlu o wrando a bod yn agosach at y bobl gyffredin. A gwae Heledd Cynwal am gyfeirio at liw-haul-gwneud y dyn ei hun… Does dim dwywaith mai Tudur Owen yw un o brif ddigrifwyr Cymraeg ar hyn o bryd, a bod un o’i greadigaethau gorau yn haeddu ei raglen ei hun. Ond peidiwch â gofyn i mi fod yn un o’r gynulleidfa, rhag ofn i mi gochi cymaint â ’ngwallt.

 

Blwyddyn arall, rhaglen arall am Batagonia. O na! meddech chi. Ar ôl rhaglenni arbennig o’r paith gan Aled Jones a Matthew Rhys yn y gorffennol, tro Eiry Palfrey yw hi nawr. Ond roedd Poncho Mam-gu (Tracrecord) yn werth ei gweld. Cyfuniad effeithiol o ffilm ddogfen a drama sydd yma, wedi’i seilio ar atgofion teuluol am wraig dra arbennig ar droad yr ugeinfed ganrif - Ellen Thomas, neu Nel Fach y Bwcs. Hanes teulu a ddenwyd gan ddelfryd Michael D Jones o’r Wladfa Gymreig, a’r cyfle i brynu can erw o dir am £12 mewn man gwyn man draw saith mil o filltiroedd i ffwrdd - ond a wynebodd paith didostur o ddrain a cherrig. Hanes Nel, merch y teulu, a aberthodd ei phlentyndod i gadw tŷ a magu ei brodyr a’i chwiorydd yng nghanol unigeddau’r paith, ac a siomwyd dro ar ôl  tro gan ddynion. Ond dysgodd i garu ei gwlad fabwysiedig hefyd, a meithrin perthynas glos gyda brodorion gwreiddiol Patagonia - gan gyfnewid bara am y poncho, neu siôl arbennig, yn rhodd o gyfeillgarwch oes gan yr Indiaid. Ac mae’r hanesyn hyfryd am yr Indiaid yn adrodd “poco bara” (darn o fara) yn rhan o lên gwerin y Wladfa heddiw. Fiw i chi beidio â chael eich cyffwrdd gan yr olygfa emosiynol tua’r diwedd, pan ddaw Eiry Palfrey wyneb yn wyneb ag un o ddisgynyddion Pennaeth yr Indiaid a gyflwynodd y Poncho gwreiddiol i’w nain.

 

Posted by Gog y Cwm at 20:15:40 | Permalink | Comments (1) »

Friday, December 7, 2007

Wastad ar y tu fas?

Ym 1974, cafodd myfyriwr ifanc 18 oed ei anfon i ysbyty meddwl Dinbych am driniaeth ‘therapi anghymell’. Mewn geiriau eraill, triniaeth sioc hanner awr y dydd, bum niwrnod yr wythnos, am dri mis. Yr ail dro, cafodd ei roi dan glo yng nghanol cleifion wirioneddol sâl; “lŵnis” yn ei eiriau ef. Fe’i carcharwyd ar sail ei rywioldeb. Tri deg a thri o flynyddoedd yn ddiweddarach, dychwelodd John Sam Jones i safle’r seilam segur. Er ei fod yn amlwg dan deimlad, roedd criw ffilmio Fel Arall (Green Bay) yno i gofnodi pob deigryn wrth gwrs. ‘Sdim ots am urddas personol rhywun, mae’n gwneud diawl o deledu da, tydy?

Cyfres o straeon personol iawn a gafwyd yn y ffilm ddogfen hon, yn amrywio o Gareth, perchennog ifanc “yr unig dafarn hoyw” yn y gogledd; i’r cwpl Beca a Gwawr. Roedd y ddwy wedi uno mewn glân bartneriaeth sifil ac eto ddim yn teimlo’n ddigon cyfforddus i gerdded law yn llaw ‘lawr y stryd. Roedd Liz o Aberhonddu yn ddigon o gês i gyfaddef ei bod yn ymgnawdoliad o’r lesbiaid ystrydebol (torri’i gwallt yn fyr, cneifio, gwylio tîm rygbi merched yn y mwd) a Catrin o Aberystwyth yn trafod ei bywyd rhywiol fel petai’n trafod y tywydd! Yng nghanol hyn i gyd, bu John Bwlchllan a Richard Crowe yn trafod y cyd-destun hanesyddol a llenyddol, i gyfeiliant cerddoriaeth go sinistr. Doedd dim angen cyfraniad yr ysgolheigion mewn gwirionedd. Roedd hanes y gyflwynwraig/cynhyrchydd/cyfarwyddwraig Nia Dryhurst yn ddifyr ac yn ddigon yno’i hun. Rhyw damaid i aros pryd a gafwyd ganddi rhwng y pytiau personol eraill, o’i deffroad rhywiol o weld Olivia Newton John ar boster ‘Grease’ i’r ymdeimlad o ryddid wrth fynd i’r coleg a chefn ar fyw celwydd Caernarfon. A’r tro bach yng nghynffon ei stori ar y diwedd, oedd ei gweld yn chwarae gyda’i mab bach blwydd oed ym Mharc y Rhath - ffrwyth triniaeth IVF lwyddiannus.

Er ei bod braidd yn rhy hir (90 munud), roedd hon fel chwa o awyr iach o gofio fod Cymry Cymraeg yn dueddol o fod yn swil o flaen y sgrin ac ofn pechu’r byd a’r ddynes drws nesaf. Y cyngor ar y diwedd oedd bod hyder a hunan-barch mor bwysig yn y gymdeithas hollgynhwysol, honedig, sydd ohoni heddiw.

Ac i chwalu’r hyder hwnnw’n llwyr, wele’r cyfryngau’n eu portreadu fel y cymeriad pantomeim Carl ar Pobol y Cwm sy’n gwneud i Mr Humphreys Are you being served? ymddangos fel Hulk Hogan.


Posted by Gog y Cwm at 17:58:03 | Permalink | Comments (1) »

Tuesday, September 4, 2007

Ymadawiadau

Wps a deis. Mae’n debyg fod Sara wedi gadael dan gwmwl wedi’r cwbl, a’i bod wedi penderfynu mynd cyn cael ordors i glirio’i desg newyddion. A bod bosys y Bîb hyd oed rhy arw i gynnal parti ffarwel i’r graduras. Dychmygwch y penawdau petai ’na racsyn tebyg i’r Welsh Heat yn dechrau rhyfel ffug rhyngddi hi a Liwsi Lân.

 Dyddiau da… Sara Edwards tua 1987

Mae’n bryd ffarwelio ag un arall o wynebau cyfarwydd BBC Cymru. Bydd Belonging yn dod i ben mewn nawfed cyfres y flwyddyn nesaf, a “grande finale” yn 2009 i ddathlu dengmlwyddiant y sioe. Yr opera sebon hon oedd ymateb y Gorfforaeth i ddrama gyffelyb, amaturaidd HTV ar y pryd, Nuts and Bolts, am drigolion ‘Ystrad’ yng nghanol mwynder Merthyr. Yn eironig, un o wynebau newydd y gyfres honno a ddaeth yn un o brif sêr Belonging wedyn – Eve Torchwood Myles.

Ro’n i’n ddilynwr brwd o’r cyfresi cyntaf am deulu Lewisiaid Bryncoed - gyda Gwen Taylor fel y penteulu, Margaret (ymgais aflwyddiannus i ddenu sylw a chynulleidfaoedd BBC Prydain efallai??) ei mab Steve (Charles Dale) a’i merch Ceri (Eve Myles) eu partneriaid a’u plantos. Roedd y golygfeydd rhwng William (William Thomas) a Vanessa (Di Botcher) wastad yn sicrhau llond bol o chwerthin iach. Ond yn raddol, dechreuais golli diddordeb wrth i’r gyfres ganolbwyntio fwyfwy ar y gymuned leol a chymeriadau newydd anodd cnesu atynt fel Asbo a Desiree. Difyr nodi bod tua hanner y cast yn Gymry Cymraeg, ac wedi bod trwy ysgol brofiad Pobol y Cwm. Diawch, roedd Dic Deryn a Lisa yn bâr priod cecrus ym Mryncoed!

 Pwy sy’n Perthyn?

Falle ei bod hi’n hen bryd cael cyfres newydd, ffres, o’r Gymru Ddi-Gymraeg… y tu hwnt i Valleywood am unwaith!  Beth am gyfres ddrama/sebon wedi’i gosod mewn maes carafannau neu barc gwyliau ar arfordir y gogledd neu’r gorllewin? Digon o ddeunydd gwrthdaro fan’no, rhwng y trigolion/gweithwyr lleol a’r ymwelwyr neu’r mewnfudwyr. Be amdani, Julie Gardner, Pennaeth Drama BBC Cymru?

 

 

 

 

 

Posted by Gog y Cwm at 21:37:23 | Permalink | Comments (1) »

Tuesday, July 3, 2007

Doctor Minogue

 

“Especially for you” gan Dai a Kylie - yn eich siop recordiau leol Nadolig 2007 

Newydd da o lawenydd mawr! Bydd Cymraes alltud enwocaf Maesteg yn serennu mewn pennod arbennig o Doctor Who y Nadolig hwn, Voyage of the Damned. Yn ôl si papur newydd Ddy Syn, fe fydd hi’n actio rhan gweinyddes ar fwrdd llong y Titanic a welwyd yn taro yn erbyn y Tardis ar ddiwedd pennod ola’r gyfres ddiweddara nos Sadwrn 31 Mehefin - a ddaeth i ben gyda golygfeydd eto fyth o Ganolfan y Mileniwm a’r bur hoff Fae, a 9 miliwn o wylwyr selog. Cadwch lygad allan am David Tennant a Miss Minogue yn ddiweddarach y mis hwn, pan fydd strydoedd Caerdydd yn cael eu ‘Doligeiddio. Mae’r sgwennwr Russell T Davies yn addo mai hon fydd “pennod Nadolig gorau a mwyaf uchelgeisiol hyd yma”. Edrych ‘mlaen yn eiddgar…

A thra bod Kylie yn stiwdios Llandaf, beth am ymddangosiad arbennig ar Pobol y Cwm noson Dolig, fel ffrind Cai ag Emma o Oz bell?

Yn y cyfamser, mae’r chwaer gyfres Torchwood (aka CSI Cardiff) wedi codi gwrychyn y Cêdiffians. Bnawn Sul diwetha, aeth BBC Wêls ati i fomio hen lys barn ar Stryd Westgate, nepell o Stadiwm y Mileniwm. Hynny prin deuddeg awr ar ôl digwyddiadau dramatig maes awyr Glasgow. Clyfar iawn(!) Cawn weld ffrwyth eu llafur ffrwydrol ar BBC2 ryw ben flwyddyn nesaf.

Y Bib yn creu llanast - a helynt - ar Stryd Westgate, Caerdydd

A thra ‘mod i wrthi, yn tydi’r cyfryngau wedi mynd dros ben llestri braidd efo terfysgwrs drama Llundain a Glasgow?  Wrth bendilio o BBC News 24 i Sky News ddydd Sadwrn, roedd penawdau breision fel “TERROR ATTACK ON UK” yn fflachio’n ddramatig ar y sgrîn a’r cyflwynwyr sobor o ddifrifol yn ymddwyn fel petai “9/11″ neu “7/7″ arall newydd daro Prydain. Calliwch hogia. Mae gan bobl Prydain fwy o ofn cael eu mygio ar y ffordd adref, sy’n fygythiad llawer mwy real na bomia-gneud nytars Islamaidd. 

O leiaf mae hanesion yr hulpan Paris Hilton wedi diflannu o’r newyddion teledu am y tro…

 

Posted by Gog y Cwm at 20:06:44 | Permalink | Comments (1) »