Thursday, January 24, 2008

Llygaid sgwâr a blinedig!


 

Dwi’n filain efo BBC One a Channel Five. Dyma lle rydw ’n dilyn dwy raglen newydd Americanaidd yn slafaidd am y tro cyntaf ers Heroes, a beth sy’n digwydd? Mae’r pen bandits yn penderfynu potsian a’u symud i slotiau gefn liw nos. Ar y Bîb, mae’r gyfres orwych am hen gnawes galed o dwrna yn Efrog Newydd, Damages, lle mae Glenn Close (a enillodd deitl ‘Actores Orau’ yn y Golden Globes eleni) yn gwneud i Cruella De Ville ymddangos fel tedi bêr bach del, wedi symud i nosweithiau Lun am 10.35pm - a chyda phob pennod bron awr o hyd, mae hi braidd yn hwyr er mwyn codi cyn cŵn Caer(dydd) drannoeth. Pam na ffeindian nhw slot gall 9 o’r gloch iddi ar BBC2 neu BBC Four hyd yn oed? 

Mae’r bumed sianel, sydd fel arfer yn destun clod (CSI newydd sbon a gwaredwyr mawr Neighbours o’r Bîb), yn fwy euog byth am focha o gwmpas efo’r mewnforion Americanaidd. 30 Rock ydi’r rhaglen gomedi ddoniolaf dwi wedi’i weld ers hydoedd, wedi gosod mewn stiwdio deledu yn adeilad enwog 30 Rockerfeller Plaza, Efrog Newydd (eto!) ac sy’n dilyn hynt a helynt Liz Lemon (Tina Fey), prif sgwennwr sioe gomedi, i gael trefn mâs o anhrefn llwyr yn ei bywyd proffesiynol a chymdeithasol. Rhwng pawb a phopeth, gan gynnwys prif weithredwr ecsentrig y rhwydwaith, Jack Donaghy (Alec Baldwin pesgedig!), mae ganddi fynydd Hiraethog o dasg o’i blaen. Mae’n amlwg fod y ffigurau gwylio’n go giami, gan fod Five wedi’i symud o 10.40 i 11.05pm a’i thynghedu i bydru nes cael ei gwaredu’n llwyr. Damia damia damia nhw.

Stori debyg yw hi yn yr UDA hefyd, gyda Tina Fey yn herian wrth ddiolch “i’r dwsinau o wylwyr am gefnogi’r sioe” wrth dderbyn gwobr Emmy am y Gyfres Gomedi Orau yn 2007.



 

Posted by Gog y Cwm at 18:22:45 | Permalink | Comments (1) »

Thursday, August 30, 2007

Ar derfyn hirddydd…

Ar ôl sbel o segurdod, mae’n amser ailymuno â’r blogfyd. Ac ar ôl cymaint o edrych ‘mlaen, mae cyfresi’r haf wedi bod lawn mor siomedig â’r tywydd chwit chwat. Fe rois i’r gorau i Brothers & Sisters ar ôl y drydedd bennod, sy’n debycach i fersiwn drutach o Dynasty am deulu o fethdalwyr sy’n dal i fyw’r bywyd bras yn Beverly Hills. O leia mae Matthew Rhys wedi llwyddo i wneud ei farc yn Hollyweird o’r diwedd…

Tân siafins arall oedd Cape Wrath, oedd yn addo cymaint ond ddim cweit yn siŵr beth oedd yn trïo bod - rhyw Dwin Peaks wedi’i chroesi efo Despryt Howsweiffs. Mae’n amlwg fod Channel 4 yn teimlo’r un peth, gan eu bod nhw wedi rhoi’r fwyell i’r gyfres. Sy’n golygu dim mwy o’r hyfryd Lucy Cohu. Sy’n golygu hefyd na chawn ni fyth wybod y gwir tu ôl i’r gymuned arbrofol hon, a pham ei bod yng nghanol diffeithwch diddiwedd o dywod yn y diwedd wrth i Danny (David Morrissey) ddengyd yn ei gar. Ydy’r newid yn yr hinsawdd wedi cael effaith mor ddramatig â hynna ar dirwedd de Lloegr??

Lucy Cohu

 Diolch byth am Heroes (cynhyrchiad NBC America) bob nos Fercher ar BBC2 (cyfres 23 pennod! Ta ta i fywyd cymdeithasol a sgyrsiau ffôn ar y noson honno o rŵan tan Dolig). Ydw, dwi’n gwybod mod i ar ei hôl hi braidd, a’r gyfres gyntaf eisoes wedi’i darlledu ar sianel Sci Fi UK, ond dwi ddim am danysgrifio a llenwi mwy o goffrau boliog Mr Murdoch a Sky. Iawn, ocê, mae’r cymeriadau i gyd yn annaturiol o ddel ond mae hanesion cymhleth pobl gyffredin sy’n debyg i gymeriadau comics Marvel ac sy’n meddu ar rymoedd goruwchnaturiol yn cydio, ac yn dri chwarter awr o ddihangfa a diddanwch pur. Y Mabinogi ym Manhattan os leiciwch chi.

Bydd wyneb cyfarwydd y Brits yn ymddangos ym mhennod 12 y gyfres hon - Christopher Eccleston, fel y cymeriad Claude Rains sydd â’r gallu i droi’n anweledig.

Mi fydd yr Iancs lwcus yn cael gweld yr ail gyfres ar 24 Medi.

Hyn oll pan fo’n Sianel hoff yn dal i ailddarlledu’r Sioe, Steddfod yr Urdd a’r Genedlaethol, Sesiwn Fawr, Llangollen, Jazz Aberhonddu - ac Orji Flynyddol Bryn Terfel toc - yn yr oriau brig. Heb sôn am ffilmiau Y Chwarelwr/Y Weithred bob cyfle gân nhw ar ôl penawdau newyddion naw.

Gwarthus? Siomedig? Ffwcedig.

‘Repeats’ di-ri ar Es-Ffor-Si, sy’n para tra bo Dai

 

Posted by Gog y Cwm at 11:30:51 | Permalink | No Comments »