Blydi Torchwood!
Lwc owt. Maen nhw’n ôl. Ydy, mae cefndryd Cymreig Doctor Who wedi dychwelyd am ail gyfres ar BBC2 bob nos Fercher. A sôn am bennod gyntaf! Yn yr olygfa agoriadol, cafodd hen wreigan (Menna Tussler) fraw o weld ’sgodyn mewn car yn stopio wrth y golau coch cyn cael ei erlid gan Gwen Cooper a gweddill y giang. A’r hen wreigan yn ysgwyd ei phen mewn anobaith, gan ddiawlio “Bloody Torchwood!”
Heb os, mae hiwmor yn rhan anhepgor o’r gyfres newydd, megis Capten John (James Marsters o’r cyfresi poblogaidd Americanaidd Angel a Buffy yn ôl pob tebyg) yn galw canolfan Torchwood yn “sewer chic”. Roedd ‘na gyffro, gyda’r golygu a’r gwaith camera yn gwibio o un olygfa i’r llall. Ac ydy, mae Caerdydd yn dal i edrych yn ffantastig fin nos, gan wneud defnydd da o’r unig ddau nendwr (skyscraper i chi a fi) sydd yn y brifddinas! Ac ar ôl cwynion am y cyfresi cyntaf, mae’r sgriptwyr wedi rhoi’r gorau i regi gymaint, pan roedd hynny mor ddibwrpas yn lle cyntaf dim ond i gyfiawnhau’r slot hwyr.
Ac er bod John Barrowman hunanfoddhaol yn mynd dan fy nghroen i, a’r holl gyfeiriadau at ryw a rhywioldeb amwys y cymeriadau, dwi’n dal i wylio. Ac mae’n sicr y bydd y gyfres yn denu mwy o ddiddordeb gydag ymddangosiad hen gyfaill poblogaidd Doctor Who, sef Martha Jones (Freeman Agyeman), yn y dyfodol - cymeriad poblogaidd a gafodd ei gwaredu er mwyn gwneud lle i Catherine Tate… sy’n gythraul o gamgymeriad i lawer o’r ffans pybyr. Mae’n debyg fod y bennod gyntaf wedi denu 3.7 miliwn o wylwyr, gan ddenu ymateb cymysg fel arfer ar wefan Digitalspy a blogwyr y Guardian.