Tuesday, March 25, 2008

Tra bo dau

alt : http://www.youtube.com/v/BBK2KhgslSo&hl=en
 

Dwi wedi canmol Gavin & Stacey i’r cymylau o’r blaen yn y tudalennau hyn. A chyda’r ail gyfres newydd ddychwelyd i lonni nosweithiau Sul ar BBC Three, mae’n esgus perffaith i roi mensh bach arall i’r perl o gyfres gomedi hon. Gyda chlod a bri gan y British Comedy Awards a’r South Bank Show Awards, a chynulleidfa deilwng o 1.7 miliwn ar sianel ddigidol leiafrifol, mae’n ymddangos fod y mis mêl yn parhau! A newydd ddychwelyd yn ôl o’u mis mêl y mae’r cwpl cariadus, yn syth i groeso mawr gan y ddau deulu a ffrindiau o’r Barri a Billericay, Essex. A’r tro hwn, mae gan y forwyn briodas (Nessa) a’r gwas priodas (Smithy) ran tipyn mwy amlwg fel darpar rieni anfoddog. Mae perthynas cas a chariad y ddau yn destun chwilfrydedd, gyda Nessa yn lleisio ei hofnau am y dyfodol yn ei ffordd gynnil arferol: “He’s vile and he’s English”. Mae Smithy wedi pwdu gyda Gavin ei ffrind gorau am anwybyddu ei negeseuon a galwadau ffôn dros dair wythnos y mis mêl, a Stacey wedi pwdu efo’i mam am gynnig ei hen lofft i Nessa feichiog sydd ar hyn o bryd yn cydfyw gydag aelodau “The Distance” - band newydd tri aelod o Catatonia “and the little Welsh one from Hear’Say”. Am ddelwedd hunllefus! Mae Uncle Bryn (Rob Brydon) yr un mor annwyl gyda’i obsesiwn trist â system llywio lloeren ei Citroën Picasso, a Pamela Shipman (Alison Steadman) yn dal i ddioddef bod yn llysieuwraig-cogio-bach er mwyn creu argraff dda ar y teulu-yng-nghyfraith o Gymru. Cymeriadau yr ydych chi’n malio amdanynt, pobl gyffredin â thwtsh o’r absẃrd sydd eto’n gredadwy; cyfres sy’n codi gwên heb orfod dibynnu ar iaith groch na chwarddiad ffals ar dâp. Ac yn ôl canolwr Cymru, Tom Shanklin, roedd ef a’i gydchwaraewyr wrth eu boddau’n gwylio fideos Gavin and Stacey wrth deithio ar fws y garfan i’r sesiynau hyfforddi. Dyna i chi bluen arall yn het y gyfres!

Go brin y caiff Llŷr a Manon gystal fis mêl. Daeth cyfres sebon y Sul, Teulu, i ben gyda’r briodferch yn gadael ei pharti nos er mwyn ymuno â’i brawd-yng-nghyfraith a’i gwir gariad wrth wely angau eu bos/tad siawns yn yr ysbyty. Wedi’ch drysu’n lân? Na phoener, bydd ‘Ewings’ Aberaeron yn siŵr o gloddio mwy o dwll iddyn nhw’u hunain erbyn y gyfres nesaf. I mi’n bersonol, un o’r cymeriadau ar y cyrion oedd seren y sioe - Eirlys (Eiry Thomas), hen drwyn y feddygfa â’i thafod siarp sydd eto’n meddwl y byd o Dr John. Ac chyda phwy oedd fy nghydymdeimlad mwyaf? Cleifion y cylch wrth gwrs! A ’styried bod y staff naill ai’n rhy brysur yn slochian siampen ym Mhen-y-cei neu’n chwarae doctors a nyrsys efo’i gilydd, pa ryfedd fod stafell aros y feddygfa’n orlawn?!

Posted by Gog y Cwm at 19:17:03 | Permalink | Comments (1) »