Friday, April 25, 2008

Cysurwrs Job


Un o ffans swnllyd a meddw Joe Calzaghe yn Vegas

Dyma ni, chwarter ffordd drwy’r flwyddyn sydd eisoes yn dipyn o glasur. Rhwng y paffiwr o Drecelyn, pencampwr dartiau o Ddinbych a’r gantores o Nefyn, Camp Lawn annisgwyl, dathliad dwbl Abertawe, a’r Bluebirds yn hofran i Wembley, ry’n ni’n prysur adael ein hôl ar y byd. Draw dros yr Iwerydd, mae Matthew Rhys yn mynd o nerth i nerth yng nghyfres boblogaidd Brothers & Sisters (E4, bob nos Sul) ac mae buddugwyr BAFTA Gavin and Stacey wrthi’n addasu’r fformat hynod lwyddiannus ar gyfer sianel NBC America. Mae Torchwood (“CSI Cardiff”) yn fwy poblogaidd na Doctor Who ar BBC America, tra bod gwylwyr o Siapan i Seland Newydd yn dilyn anturiaethau Tennant a Tate yn y Tardis. Ac mi glywaf eiriau ‘International Velvet’ Catatonia yn fy mhen…

Ond howld on Now Jon. Mae un neu ddau sy’n mynnu rhoi stop tap ar y siampên. Ac nid Saeson nac Albanwyr cenfigennus mohonynt chwaith. Y cyntaf yw’r actor o Ferthyr, Richard Harrington. Wrth siarad â’r Western Mail wythnos diwethaf, dywedodd nad yw Doctor Who wedi cael fawr ddim effaith ar y diwydiant yng Nghymru, a bod y cynhyrchwyr yn mewnforio criw Llundain i weithio arni yn stiwdios anferthol Trefforest. Waeth iddi fod wedi’i gosod ym Mirmingham, meddai. Hyn gan actor sydd wedi gorfod mabwysiadu acen Seisnig ar gyfer ei ran yn Holby Blue. Yr ail gysurwr Job yw Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad. Yn lle ymfalchïo yn llwyddiannau’r awdur Russell T Davies a Phennaeth Drama BBC Cymru, Julie Gardner, fe alwodd Ieuan Wyn Jones ar Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC i sicrhau bod mwy fyth o ddramâu gwreiddiol yn hanu o Gymru.

Haws dweud na gwneud, fel y sylweddolais ar gwrs sgriptio yng Nghaerdydd dros y Sul. Un o’r uchafbwyntiau oedd sesiwn gyda’r awdures ysbrydoledig Lucy Gannon a greodd gyfresi poblogaidd fel Peak Practice a Soldier Soldier pan oedd gan ITV adran ddrama gwerth sôn amdani. A gwnaf, mi wnai faddau iddi am ddod â  Robson a Jerome i’r byd. Yn frodor o Swydd Derby, mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Aberteifi ac wedi dotio at ei hwyresau’n parablu’n braf yn Gymraeg. Dywedodd ei bod ar dân eisiau gwerthu cyfres ddrama am y Gymru gyfoes i brif gomisiynwyr BBC ac ITV… ond yn ofer. I ben (bach) bandits y rhwydweithiau, dyw drama Gymreig ddim ar frig eu hagenda ar hyn o bryd. Teg edrych tua Llundain a Manceinion yw hi o hyd i rai..

Falle bod y Cysurwrs Job nes ati wedi’r cwbl.


Posted by Gog y Cwm at 18:58:57 | Permalink | Comments (1) »

Clod a bri a bonc!

 

Llongyfarchiadau gwresog i G&S ar ennill dwy wobr BAFTA, am y perfformiwr comedi orau a thlws y gwylwyr - tipyn o gamp i raglen a ddatblygodd o fod yn dipyn o gwlt ar sianel leiafrifol BBC Three i ennill calonnau’r mwyafrif. A thra ‘mod i’n croesawu hyn, efallai bod lle i boeni am boblogrwydd rhyfeddol y sioe. Eisoes, mae deiseb ar Gweplyfr yn galw am drydedd gyfres er bod y crewyr yn gobeithio ffarwelio gyda rhifyn Nadoligaidd; tôn ffôn hynod boblogaidd “Oh, what’s ocurring?” a’r son arswydus fod Bryn a Nessa (Rob Brydon a Ruth Jones) am ryddhau’r sengl “Islands in the Stream” ar gyfer siartiau’r Dolig. O hec.

Ar y llaw arall, mae’r comedïwr Steve Coogan a’i gwmni cynhyrchu Baby Cow yn bwriadu cyflwyno cyfres o dair drama-gomedi fer ar gyfer y BBC, gyda Bob Hoskins, Sheila Hancock a Rhys Ifans. Bydd y monologau hanner awr yr un yn cwmpasu rhywun sydd ar fin llofruddio neu am gael eu lladd eu hunain. Yn ‘Six Days One June’, bydd Rhys Ifans yn chwarae rhan ffarmwr sy’n ceisio torri’n rhydd o’i deyrn o fam. Rhyw fath o Ffarmwr Ffowc gwaedlyd efallai? Mi fydd hi’n braf gweld y Br.Ifans ar y bocs unwaith eto, yn lle cael ei drin fel gwrthrych serch Sienna Miller gan y tabloids byth a hefyd.



Felly hefyd cyfres ddrama Sex and the Senedd (Caerdydd), sydd wedi cael mwy na’i siâr o sylw gan bapurau Lloegr oherwydd yr olygfa ‘sgwrsio’ amheus yn nhai bach y Cynulliad. Sôn am wneud môr a mynydd a hysbys wych i’r sianel Gymraeg ac i gartref llywodraeth Cymru. Diolch i’r drefn nad golygfa gnychu Ryland Teifi a Sue Roderick a gafodd sylw, a oedd yn ddigon i wneud i rywun droi at bali Heartbeat ar nos Sul!

Posted by Gog y Cwm at 18:46:14 | Permalink | Comments (1) »