Tuesday, September 4, 2007

Ymadawiadau

Wps a deis. Mae’n debyg fod Sara wedi gadael dan gwmwl wedi’r cwbl, a’i bod wedi penderfynu mynd cyn cael ordors i glirio’i desg newyddion. A bod bosys y Bîb hyd oed rhy arw i gynnal parti ffarwel i’r graduras. Dychmygwch y penawdau petai ’na racsyn tebyg i’r Welsh Heat yn dechrau rhyfel ffug rhyngddi hi a Liwsi Lân.

 Dyddiau da… Sara Edwards tua 1987

Mae’n bryd ffarwelio ag un arall o wynebau cyfarwydd BBC Cymru. Bydd Belonging yn dod i ben mewn nawfed cyfres y flwyddyn nesaf, a “grande finale” yn 2009 i ddathlu dengmlwyddiant y sioe. Yr opera sebon hon oedd ymateb y Gorfforaeth i ddrama gyffelyb, amaturaidd HTV ar y pryd, Nuts and Bolts, am drigolion ‘Ystrad’ yng nghanol mwynder Merthyr. Yn eironig, un o wynebau newydd y gyfres honno a ddaeth yn un o brif sêr Belonging wedyn – Eve Torchwood Myles.

Ro’n i’n ddilynwr brwd o’r cyfresi cyntaf am deulu Lewisiaid Bryncoed - gyda Gwen Taylor fel y penteulu, Margaret (ymgais aflwyddiannus i ddenu sylw a chynulleidfaoedd BBC Prydain efallai??) ei mab Steve (Charles Dale) a’i merch Ceri (Eve Myles) eu partneriaid a’u plantos. Roedd y golygfeydd rhwng William (William Thomas) a Vanessa (Di Botcher) wastad yn sicrhau llond bol o chwerthin iach. Ond yn raddol, dechreuais golli diddordeb wrth i’r gyfres ganolbwyntio fwyfwy ar y gymuned leol a chymeriadau newydd anodd cnesu atynt fel Asbo a Desiree. Difyr nodi bod tua hanner y cast yn Gymry Cymraeg, ac wedi bod trwy ysgol brofiad Pobol y Cwm. Diawch, roedd Dic Deryn a Lisa yn bâr priod cecrus ym Mryncoed!

 Pwy sy’n Perthyn?

Falle ei bod hi’n hen bryd cael cyfres newydd, ffres, o’r Gymru Ddi-Gymraeg… y tu hwnt i Valleywood am unwaith!  Beth am gyfres ddrama/sebon wedi’i gosod mewn maes carafannau neu barc gwyliau ar arfordir y gogledd neu’r gorllewin? Digon o ddeunydd gwrthdaro fan’no, rhwng y trigolion/gweithwyr lleol a’r ymwelwyr neu’r mewnfudwyr. Be amdani, Julie Gardner, Pennaeth Drama BBC Cymru?

 

 

 

 

 

Posted by Gog y Cwm at 21:37:23 | Permalink | Comments (1) »

Wednesday, August 15, 2007

Cymdogion Cêdiff

Mae tad-yng-nghyfraith Charlene yn dod i’r De hefyd. Ydy, mae Alan “Jim Robinson” Dale, sy’n enwog ym Mericia yn sgil cyfresi Ugly Betty a The OC (’rioed wedi gweld ‘run o’r ddwy) yn mynd i chwarae rhan y dihiryn yn Torchwood – a fydd yn hwb pellach i’r gyfres ’nôl adref yn Seland Newydd ac Awstralia.

Ond och a gwae! Sylwer ar sylwadau’r Bonwr Dale: “I am thrilled to be working on Torchwood and delighted to be in England again. I am a huge fan of British drama.”

Inglynd, wir! Bydd rhaid i Eve Myles roi’r boi yn ei le, a mynd â fo allan o stiwdios Trefforest am sesh rownd Ponty i ddysgu lle mae o go iawn!

Posted by Gog y Cwm at 11:15:55 | Permalink | Comments (1) »