Lawr ar lan y môr…

Teulu. Weithiau’n fwrn weithiau’n fendith. Anodd plesio a hawdd pechu. Naill ai’n cyd-dynnu neu’n cythruddo’i gilydd. Yn destun balchder neu’n berwi’ch gwaed. A dyna fel mae hi yn nrama newydd sbon nos Sul o’r enw, ym, Teulu (Boomerang) wrth gwrs! Anwybyddwch y teitlau agoriadol sy’n debycach i fideo addysg rhyw. Anghofiwch y ffaith ei bod megis gêm o “pwy ‘di pwy Pobol y Cwm“, gyda Nerys, Barry John, Llew, Karen, Lisa, Fiona, a Jason oll wedi’u hatgyfodi yn Aberaeron. Gyda golygfeydd godidog o Geredigion ganol haf, ac awduron sy’n hen lawiau ar greu dramâu poblogaidd - Meic Povey (Talcen Caled) a Branwen Cennard (Iechyd Da) - mae yma rysáit am gyfres lwyddiannus, gyda lwc!
Hanes Morganiaid Bryncelyn sydd yma, teulu braf eu byd lle mae pwyslais ar wneud yn dda a chadw enw da. Mae Hywel (Geraint Morgan) y mab hynaf, dan bwysau i adael ei syrjeri yn Llundain bell a dychwelyd yn anfoddog i’w gynefin wedi marwolaeth ddisymwth tad ei wraig. Llinos (Rhian Jones) ei chwaer wedyn, sy’n rhedeg tafarn a bwyty moethus Pen-y-cei ar y cyd â’i chymar Danny, sydd wedi ysgaru (er mawr siom i’w mam!). Ac yn olaf, Llŷr (Rhys ap Hywel), cyw melyn ola’r teulu a channwyll llygad ei fam sy’n gyfrifol am faes carafannau’r teulu. Ac yn y cefndir, criw o gymeriadau brith fel meddyg meddw, derbynyddes flin, a chlown o labrwr.
Rhyw bortread opera sebon o deulu a chymdeithas dosbarth canol Cymraeg sydd yma, yn cwmpasu’r byd meddygol a’r diwydiant gwyliau glan môr. Ond mae yma ddigonedd o wrthdaro a thyndra personol a rhywiol, a mân awgrymiadau yma ac acw i ennyn chwilfrydedd. Er enghraifft, y golygfeydd o Dr Manon yn llygadu Dr Hywel, brawd ei chariad Llŷr, o bell; a’r awgrym bod gan hyd yn oed y fam haearnaidd a’r ddraig o ddynes Margaret Morgan (Mair Rowlands) rywbeth i’w guddio - ynghylch Dr John (Rhys Parry Jones) efallai? Er na chaiff hon lawer o farciau am dorri tir newydd ym myd y ddrama Gymraeg, mae yna sglein yn perthyn iddi. Mae’r deialogi’n llifo’n naturiol braf, a’r seibiau rhwng y cymeriadau yn dweud cyfrolau. Prawf nad oes angen cyfieithu sgript Saesneg na golygfeydd gwaedlyd o gangstyrs drama i greu drama dda. Ac am unwaith, mae’n braf gweld tai mawr, ceir drud, a phobl drwsiadus mewn drama Gymraeg - yn lle trueiniaid tai cyngor y gogledd sy’n crafu byw rownd y rîl ym ‘Mhen-tennyn-uffar-o-stad-amdani’ fel y dychanwyd mor wych gan griw Cnex ar un adeg.
Cymharer safon S4C â chyfres sebon I(diot)TV wedi’i gosod mewn tref glan môr arall, Echo Beach. Traethau euraidd, syrffwyr a merched fwy euraidd byth, awyr las a moroedd braf? Dyna chi Home and Away. Yn anffodus, Cernyw ac un o hafau gwlypaf yn hanes Prydain sy’n gefndir i’r gyfres Seisnig. Do, mi wastraffais awr werthfawr o ‘mywyd yn gwylio’r cachbeth anhygoel hwn, yn dilyn drama gomedi y tu ôl i’r llenni, Moving Wallpaper gyda’r digrifddyn Ben Miller. Be’ gafwyd oedd Jason Donovan yn ein hatgoffa pam mai hysbysebion Iceland yw pinacl diweddar ei yrfa, a Martine McCutcheon famol a glamyrys yn llwyddo i ymddangos fel rhyw forfil blewog mewn cardigan binc. Ychwanegwch Mike Baldwin Coronation Street gynt mewn het wlanog yn mwrdro acen Cernyw a Mrs McCluskey o Grange Hill oes yr arth a’r blaidd; a golygfa ddoniol o griw ifanc yn dawnsio fel fflamiau i drio cadw’n gynnes mewn parti traeth ar ddiwrnod amlwg o aeafol. Mwy o Golwyn Bê na Summer Bay felly! Mae barn y beirniaid yn unfrydol, o Sam Wollaston yn y Guardian i Rob Buckley, blogiwr difyr byd y teledu.
Dyma Eldorado ITV, heb os!