Friday, April 25, 2008

Cysurwrs Job


Un o ffans swnllyd a meddw Joe Calzaghe yn Vegas

Dyma ni, chwarter ffordd drwy’r flwyddyn sydd eisoes yn dipyn o glasur. Rhwng y paffiwr o Drecelyn, pencampwr dartiau o Ddinbych a’r gantores o Nefyn, Camp Lawn annisgwyl, dathliad dwbl Abertawe, a’r Bluebirds yn hofran i Wembley, ry’n ni’n prysur adael ein hôl ar y byd. Draw dros yr Iwerydd, mae Matthew Rhys yn mynd o nerth i nerth yng nghyfres boblogaidd Brothers & Sisters (E4, bob nos Sul) ac mae buddugwyr BAFTA Gavin and Stacey wrthi’n addasu’r fformat hynod lwyddiannus ar gyfer sianel NBC America. Mae Torchwood (“CSI Cardiff”) yn fwy poblogaidd na Doctor Who ar BBC America, tra bod gwylwyr o Siapan i Seland Newydd yn dilyn anturiaethau Tennant a Tate yn y Tardis. Ac mi glywaf eiriau ‘International Velvet’ Catatonia yn fy mhen…

Ond howld on Now Jon. Mae un neu ddau sy’n mynnu rhoi stop tap ar y siampên. Ac nid Saeson nac Albanwyr cenfigennus mohonynt chwaith. Y cyntaf yw’r actor o Ferthyr, Richard Harrington. Wrth siarad â’r Western Mail wythnos diwethaf, dywedodd nad yw Doctor Who wedi cael fawr ddim effaith ar y diwydiant yng Nghymru, a bod y cynhyrchwyr yn mewnforio criw Llundain i weithio arni yn stiwdios anferthol Trefforest. Waeth iddi fod wedi’i gosod ym Mirmingham, meddai. Hyn gan actor sydd wedi gorfod mabwysiadu acen Seisnig ar gyfer ei ran yn Holby Blue. Yr ail gysurwr Job yw Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad. Yn lle ymfalchïo yn llwyddiannau’r awdur Russell T Davies a Phennaeth Drama BBC Cymru, Julie Gardner, fe alwodd Ieuan Wyn Jones ar Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC i sicrhau bod mwy fyth o ddramâu gwreiddiol yn hanu o Gymru.

Haws dweud na gwneud, fel y sylweddolais ar gwrs sgriptio yng Nghaerdydd dros y Sul. Un o’r uchafbwyntiau oedd sesiwn gyda’r awdures ysbrydoledig Lucy Gannon a greodd gyfresi poblogaidd fel Peak Practice a Soldier Soldier pan oedd gan ITV adran ddrama gwerth sôn amdani. A gwnaf, mi wnai faddau iddi am ddod â  Robson a Jerome i’r byd. Yn frodor o Swydd Derby, mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Aberteifi ac wedi dotio at ei hwyresau’n parablu’n braf yn Gymraeg. Dywedodd ei bod ar dân eisiau gwerthu cyfres ddrama am y Gymru gyfoes i brif gomisiynwyr BBC ac ITV… ond yn ofer. I ben (bach) bandits y rhwydweithiau, dyw drama Gymreig ddim ar frig eu hagenda ar hyn o bryd. Teg edrych tua Llundain a Manceinion yw hi o hyd i rai..

Falle bod y Cysurwrs Job nes ati wedi’r cwbl.


Posted by Gog y Cwm in 18:58:57 | Permalink | Comments (1) »

Monday, April 21, 2008

Pwy sy’n perthyn?

Ar ôl plastro’r papurau newydd a hysbysebion lu ar y bocs, gan gynnwys benthyca broliant Jonzey ar Radio Cymru (“o Gymru, i Gymru, gan Gymru, efo un neu ddau o Gymry”), dychwelodd Doctor Who i’n dychryn a’n diddanu bob nos Sadwrn. Ac er ‘mod i’n amheus o’r gomedïwraig Catherine Tate yn gymar i David Tennant, roedd hi’n dda ym mhennod fendigedig Pompeii wythnos diwethaf. Mae rhai’n dal i hiraethu am Rose (Billie Piper), a’m nai bum mlwydd oed yn ymwybodol nad oes lle i Martha (Freema Agyeman) yn y Tardis mwyach. Er hynny, trodd 8.4 miliwn o’r ffyddloniaid i wylio’r bennod gyntaf - sy’n ffigur da, er nad cystal â’r record o 13 miliwn a welodd Tom Baker wrth y llyw ym 1979.  

Croesawyd cyfres boblogaidd arall o stabl BBC Wales wythnos diwethaf hefyd. Mae Belonging yn ôl gyda’r gymysgedd arferol o helbulon a hiwmor iach pobol y cwm - gyda golygfeydd a deialog tipyn mwy coch na fersiwn Cwmderi. Mae’n anodd credu mai’r flwyddyn nesaf fydd degfed pen-blwydd y gyfres, a fydd yn ffarwelio gyda ffilm arbennig yn ôl y sôn. Efallai y bydd mwy o’r Lewisiaid, teulu craidd y cyfresi gwreiddiol, yn dychwelyd i’w cynefin bryd hynny gan mai dim ond Ceri Lewis (Eve Torchwood Myles) a’i mab Jake sy’n byw ym Mryncoed bellach. On’d oedden nhw’n ddyddiau da, gyda’r penteulu Margaret Lewis yn codi stŵr wrth garu â motobeiciwr ifanc, a’r triongl serch rhwng Ruth Lewis, ei merch a Moz! Collais rywfaint o ddiddordeb wedi chwalu’r teulu Lewis, a dyw cymeriadau newydd fel Des ag Asbo (Rebecca Harries, neu Sali Mali mewn hwdi!) a theulu’r dafarn heb gydio gymaint. Efallai ei bod hi’n ddoeth dod â’r cyfan i ben yn ei flas.

Gwahaniaeth arall rhwng hon a’r gyfres wreiddiol yw’r prinder enwau ‘mawr’ o Loegr. Gyda Gwen Taylor (Duty Free), Charles Dale (Coronation Street) a Jesse Birdsall (Eldorado druan) yn rhan o’r cast cychwynnol, y bwriad mae’n debyg oedd apelio at Brydain gyfan. Ond ar ôl sylweddoli nad oedd gan Lundain ‘run iot o ddiddordeb fel arfer, daeth pen bandits Llandaf at eu coed a chanolbwyntio ar eu hactorion a’u cynulleidfa gynhenid. A dau o wynebau cyfarwydd y gyfres newydd yw cyn-actorion Pobol y Cwm - gyda Jason/Rhys ap Hywel yn denu sylw’r merched lleol fel hyfforddwr ffitrwydd; a’r Parch Sabrina/Gillian Elisa yn hanner borcyn ar wely massage. Dim gair wrth Sara ac Anti Marian!


Wil a Vanessa (William Thomas a Di Botcher)


Posted by Gog y Cwm in 18:27:23 | Permalink | Comments (1) »

Friday, March 28, 2008

Y Doc, y Brawd a’r Canwr

Cofiwch yr amser a’r dyddiad - 6.20 o’r gloch nos Sadwrn, 5 Ebrill ar BBC One. Ydy, mae Doctor Who yn ôl am bedwaredd gyfres. Mae’r hysbysebion i’w gweld eisoes (gyda broliant BBC Wales yn benthyca slogan Jonezy Radio Cymru “o Gymru, i Gymru, am Gymru, dros Gymru” etc), a chryn edrych ymlaen am awran o ddihangfa lwyr. Ac eto, mae gen i f’ofnau ac amheuon ynglŷn â’r gyfres hon. Fel y dywedodd Siôn, fy nai bum mlwydd oed wythnos ddiwethaf, “dydi Martha ddim arno fo ‘ŵan”. Hen ben ar sgwydda’ ifanc. Yn hytrach, Catherine Tate fydd cymar David Tennant eleni. Fel ddeudais i, mae gen i gryn amheuon ohoni. ‘Sdim dwywaith ei bod hi’n berfformwraig gomedi heb ei hail - a dyna’r drwg falle. Roedd ei pherfformiad tafod-yn-y-boch ym mhennod Dolig 2006 (The Runaway Bride) yn adleisio ei chymeriadau comig yn ormodol, a ddim yn argyhoeddi. Ond dyna ni. Efallai y cawn ni’n siomi ar yr ochr orau. Fel arall oedd hi pan ymddangosodd Ceilliau Miniog (fel y bedyddiwyd Kylie gan fy mós ffraeth!) yn rhifyn Nadolig diwethaf. Ar ôl cymaint o edrych ymlaen, fe brofodd y benfelen fach pam nad yw wedi “actio” llawer ers gadael Ramsay Street.

Mi fyddai’n gwylio efo’r miliynau eraill, heb os… ond gyda rhywfaint o sinigiaeth y tro yma.


‘Da ni’n ‘bovvered’ efo cymar newydd Doctor Who?


Newyddion drwg i ffans Matthew Rhys. Os oeddech chi’n un o ffyddloniaid (prin) Brothers and Sisters  llynedd (fel Anti Delythwen o’r swyddfa acw) mae Channel 4 yn mynd i brofi’ch amynedd i’r eithaf. Ar ôl cael eu siomi gyda’r ffigurau gwylio, a gwympodd o 2.22 miliwn am y bennod gyntaf i ryw 600,000 tua’r diwedd, mae’r bosys teledu wedi rhoi chwip dîn iddi trwy ddarlledu’r ail gyfres i slot marwaidd 11 o’r gloch nos Sul, 30 Mawrth, ar E4. O diâr. Efallai bydd gan Anti Delyth lygaid panda yn y swyddfa ‘cw ar foreau Mawrth o hyn ymlaen…



Ac mae’r bumed sianel am wneud yr un peth i’m hoff gyfres gomedi ers oes pys, 30 Rock, trwy ei symud i’r is-sianeli digidol Five US/Five Life/Fiver yn ddiweddarach eleni. Diolch byth ‘mod i wedi buddsoddi mewn Sky+ felly.


Pam, o pam eu bod nhw’n gwneud hyn? Beth yw’r pwynt talu symiau sylweddol ar fewnforion Americanaidd, dim ond i’w cuddio nhw yn oriau mân y bore wedyn? Efallai bod hyn yn rhatach na chynhyrchu dramâu a chomedïau cynhenid.



Newyddion gwell i ffans Cân i Gymru (ym, na, sgin i’m clem pwy ‘da chi). Cyhoeddodd Uned 5 fod Aled Myrddin wedi cyrraedd y brig yn Dhún na nGall. Llongyfarchion eto, ond ble mae’r hanes ar newyddion radio a theledu Cymraeg? I feddwl bod S4C yn rhoi cymaint o fri i’r gystadleuaeth flynyddol â gwobr ariannol o £10,000; mae’r diffyg sylw i’r llwyddiant Celtaidd yn od ar y naw.


Posted by Gog y Cwm in 20:30:18 | Permalink | Comments (1) »

Friday, January 18, 2008

Blydi Torchwood!

 

Lwc owt. Maen nhw’n ôl. Ydy, mae cefndryd Cymreig Doctor Who wedi dychwelyd am ail gyfres ar BBC2 bob nos Fercher. A sôn am bennod gyntaf! Yn yr olygfa agoriadol, cafodd hen wreigan (Menna Tussler) fraw o weld ’sgodyn mewn car yn stopio wrth y golau coch cyn cael ei erlid gan Gwen Cooper a gweddill y giang. A’r hen wreigan yn ysgwyd ei phen mewn anobaith, gan ddiawlio “Bloody Torchwood!”

Heb os, mae hiwmor yn rhan anhepgor o’r gyfres newydd, megis Capten John (James Marsters o’r cyfresi poblogaidd Americanaidd Angel a Buffy yn ôl pob tebyg) yn galw canolfan Torchwood yn “sewer chic”. Roedd ‘na gyffro, gyda’r golygu a’r gwaith camera yn gwibio o un olygfa i’r llall. Ac ydy, mae Caerdydd yn dal i edrych yn ffantastig fin nos, gan wneud defnydd da o’r unig ddau nendwr (skyscraper i chi a fi) sydd yn y brifddinas! Ac ar ôl  cwynion am y cyfresi cyntaf, mae’r sgriptwyr wedi rhoi’r gorau i regi gymaint, pan roedd hynny mor ddibwrpas yn lle cyntaf dim ond i gyfiawnhau’r slot hwyr.


Ac er bod John Barrowman hunanfoddhaol yn mynd dan fy nghroen i, a’r holl gyfeiriadau at ryw a rhywioldeb amwys y cymeriadau, dwi’n dal i wylio. Ac mae’n sicr y bydd y gyfres yn denu mwy o ddiddordeb gydag ymddangosiad hen gyfaill poblogaidd Doctor Who, sef Martha Jones (Freeman Agyeman), yn y dyfodol - cymeriad poblogaidd a gafodd ei gwaredu er mwyn gwneud lle i Catherine Tate… sy’n gythraul o gamgymeriad i lawer o’r ffans pybyr. Mae’n debyg fod y bennod gyntaf wedi denu 3.7 miliwn o wylwyr, gan ddenu ymateb cymysg fel arfer ar wefan Digitalspy a blogwyr y Guardian.
  

 

Posted by Gog y Cwm in 11:56:36 | Permalink | Comments (1) »

Tuesday, July 3, 2007

Doctor Minogue

 

“Especially for you” gan Dai a Kylie - yn eich siop recordiau leol Nadolig 2007 

Newydd da o lawenydd mawr! Bydd Cymraes alltud enwocaf Maesteg yn serennu mewn pennod arbennig o Doctor Who y Nadolig hwn, Voyage of the Damned. Yn ôl si papur newydd Ddy Syn, fe fydd hi’n actio rhan gweinyddes ar fwrdd llong y Titanic a welwyd yn taro yn erbyn y Tardis ar ddiwedd pennod ola’r gyfres ddiweddara nos Sadwrn 31 Mehefin - a ddaeth i ben gyda golygfeydd eto fyth o Ganolfan y Mileniwm a’r bur hoff Fae, a 9 miliwn o wylwyr selog. Cadwch lygad allan am David Tennant a Miss Minogue yn ddiweddarach y mis hwn, pan fydd strydoedd Caerdydd yn cael eu ‘Doligeiddio. Mae’r sgwennwr Russell T Davies yn addo mai hon fydd “pennod Nadolig gorau a mwyaf uchelgeisiol hyd yma”. Edrych ‘mlaen yn eiddgar…

A thra bod Kylie yn stiwdios Llandaf, beth am ymddangosiad arbennig ar Pobol y Cwm noson Dolig, fel ffrind Cai ag Emma o Oz bell?

Yn y cyfamser, mae’r chwaer gyfres Torchwood (aka CSI Cardiff) wedi codi gwrychyn y Cêdiffians. Bnawn Sul diwetha, aeth BBC Wêls ati i fomio hen lys barn ar Stryd Westgate, nepell o Stadiwm y Mileniwm. Hynny prin deuddeg awr ar ôl digwyddiadau dramatig maes awyr Glasgow. Clyfar iawn(!) Cawn weld ffrwyth eu llafur ffrwydrol ar BBC2 ryw ben flwyddyn nesaf.

Y Bib yn creu llanast - a helynt - ar Stryd Westgate, Caerdydd

A thra ‘mod i wrthi, yn tydi’r cyfryngau wedi mynd dros ben llestri braidd efo terfysgwrs drama Llundain a Glasgow?  Wrth bendilio o BBC News 24 i Sky News ddydd Sadwrn, roedd penawdau breision fel “TERROR ATTACK ON UK” yn fflachio’n ddramatig ar y sgrîn a’r cyflwynwyr sobor o ddifrifol yn ymddwyn fel petai “9/11″ neu “7/7″ arall newydd daro Prydain. Calliwch hogia. Mae gan bobl Prydain fwy o ofn cael eu mygio ar y ffordd adref, sy’n fygythiad llawer mwy real na bomia-gneud nytars Islamaidd. 

O leiaf mae hanesion yr hulpan Paris Hilton wedi diflannu o’r newyddion teledu am y tro…

 

Posted by Gog y Cwm in 20:06:44 | Permalink | Comments (1) »