Saturday, February 23, 2008

Plaid Angharad Mair

Anghofiwch am blaid wleidyddol newydd y Gwyneddigion. Mae gan Geredigion Blaid y Bobl hefyd, dan arweiniad Angharad Mair. Efallai bod ganddi fwriad i adael stiwdios Tinopolis am y Senedd pren-a-llechi yn y Bae? Felly’r oedd pethau’n ymddangos ar Pawb a’i Farn (BBC Cymru) nos Iau ddiwethaf beth bynnag.

Roedd cyflwynwraig boblogaidd Wedi 7 yn amlwg yn taro tant gyda’r gynulleidfa, ac yn llwyddo i ddenu llawer mwy o gymeradwyaeth na’r hen wleidyddion llwyd oedd wedi ymuno â seiat Dewi Llwyd ym Mhafiliwn y Bont. Buasai peiriant ‘clap-o-meter’ wedi chwalu’n rhacs jibidêrs bob tro’r oedd Angharad Mair wrthi. Fel yn ei cholofn yn y papur Sul cenedlaethol, roedd hi’n dweud pethau oedd wrth fodd y gynulleidfa Gymraeg, wledig. Er enghraifft, penderfyniad dadleuol rhyw arolygwr anhysbys yng Nghaerdydd i wrthod tri chais cynllunio gan Gymry Cymraeg Ceredigion, a’r angen i ddifa moch daear sy’n lledu TB yng nghadarnle’r diwydiant llaeth. Diawch, roedd y ddau wleidydd, Rhodri Glyn Thomas a Paul Davies (pwy?) yn eilbeth i Ms Mair; ac Efa Gruffudd Jones, prif weithredwraig yr Urdd, yn ddi-son-amdani! A chafwyd bonllefau o chwerthin ar ôl i wyneb cyfarwydd lleol, Lyn Ebenezer, awgrymu y dylid “difa’r cadwraethwyr” er mwyn datrys problemau cefn gwlad.

Dyna sy’n dda am raglen drafod S4C. Barn ddi-flewyn-ar-dafod pobl gyffredin, anwleidyddol gywir - yn ffermwyr, athrawon a myfyrwyr chweched dosbarth hyderus - am bynciau o bwys lleol a chenedlaethol, o gymharu â chynulleidfa fwy ecsentrig ac ymhongar ‘middle-England-aidd’ Question Time. Wrth gwrs, mae safon y drafodaeth yn dibynnu ar newyddion mawr y dydd. Os yw hi’n dlawd o ran sgandals seneddol, yna mae perygl i’r drafodaeth droi’n blwyfol ar y naw. Ac mae’n sicr yn fwy poblogaidd na CF99, sy’n cael ei darlledu’n rhy hwyr i rai ohonom. Syndod oedd deall bod Pawb a’i Farn bellach yn bymtheg oed. Os felly, pam nad yw’r Bîb wedi rhoi cot o baent ffres i’r gyfres? Beth am deitlau agoriadol newydd, sét newydd a - a feiddia’i awgrymu hyn - cyflwynydd newydd? Er cystal hwyl mae Dewi Llwyd ddibynadwy, saff, yn ei gael o lywio’r drafodaeth, alla i ddim peidio â meddwl weithiau fod angen gwaed newydd. Beth am gyflwynydd gwadd bob wythnos? Rhywun â thafod miniog a mwy o dân yn ei fol? Mae Bethan Rhys Roberts yn rhy ddieithr o’r hanner yn y cyfryngau Cymraeg. Neu beth am rywun arall â chefndir newyddiadurol a gwleidyddol sy’n fistar cron ar gorddi’r dyfroedd? Rwy’n cynnig Rod Richards. Oes yna rywun yn eilio?

                                               … Aelod Cynulliad y dyfodol?


Posted by Gog y Cwm at 10:38:02 | Permalink | Comments (1) »