Doctor Minogue

“Especially for you” gan Dai a Kylie - yn eich siop recordiau leol Nadolig 2007
Newydd da o lawenydd mawr! Bydd Cymraes alltud enwocaf Maesteg yn serennu mewn pennod arbennig o Doctor Who y Nadolig hwn, Voyage of the Damned. Yn ôl si papur newydd Ddy Syn, fe fydd hi’n actio rhan gweinyddes ar fwrdd llong y Titanic a welwyd yn taro yn erbyn y Tardis ar ddiwedd pennod ola’r gyfres ddiweddara nos Sadwrn 31 Mehefin - a ddaeth i ben gyda golygfeydd eto fyth o Ganolfan y Mileniwm a’r bur hoff Fae, a 9 miliwn o wylwyr selog. Cadwch lygad allan am David Tennant a Miss Minogue yn ddiweddarach y mis hwn, pan fydd strydoedd Caerdydd yn cael eu ‘Doligeiddio. Mae’r sgwennwr Russell T Davies yn addo mai hon fydd “pennod Nadolig gorau a mwyaf uchelgeisiol hyd yma”. Edrych ‘mlaen yn eiddgar…
A thra bod Kylie yn stiwdios Llandaf, beth am ymddangosiad arbennig ar Pobol y Cwm noson Dolig, fel ffrind Cai ag Emma o Oz bell?
Yn y cyfamser, mae’r chwaer gyfres Torchwood (aka CSI Cardiff) wedi codi gwrychyn y Cêdiffians. Bnawn Sul diwetha, aeth BBC Wêls ati i fomio hen lys barn ar Stryd Westgate, nepell o Stadiwm y Mileniwm. Hynny prin deuddeg awr ar ôl digwyddiadau dramatig maes awyr Glasgow. Clyfar iawn(!) Cawn weld ffrwyth eu llafur ffrwydrol ar BBC2 ryw ben flwyddyn nesaf.

A thra ‘mod i wrthi, yn tydi’r cyfryngau wedi mynd dros ben llestri braidd efo terfysgwrs drama Llundain a Glasgow? Wrth bendilio o BBC News 24 i Sky News ddydd Sadwrn, roedd penawdau breision fel “TERROR ATTACK ON UK” yn fflachio’n ddramatig ar y sgrîn a’r cyflwynwyr sobor o ddifrifol yn ymddwyn fel petai “9/11″ neu “7/7″ arall newydd daro Prydain. Calliwch hogia. Mae gan bobl Prydain fwy o ofn cael eu mygio ar y ffordd adref, sy’n fygythiad llawer mwy real na bomia-gneud nytars Islamaidd.
O leiaf mae hanesion yr hulpan Paris Hilton wedi diflannu o’r newyddion teledu am y tro…