Americana
Un o gyfresi anhepgor Sky+ ar hyn o bryd yw Mad Men (bob nos Sul ar BBC4). Cyfres orwych gan Matthew Weiner, cynhyrchydd ac awdur cyfresi olaf The Sopranos, a enillodd dwy wobr Golden Globes 2007 am y ddrama orau, a’r actor gorau mewn drama deledu. Jon Hamm oedd yr actor dan sylw, a fo ydy Don Draper - un o gyfarwyddwyr asiantaeth hysbysebu Sterling Cooper, Madison Avenue, (sy’n esbonio teitl y gyfres) yn Efrog Newydd y 1960au. Byd o swyddfeydd myglyd, lle mae dynion croenwyn dosbarth canol yn rheoli yn y swyddfa a’r stafell wely, a lle mae’r merched yn sicr o’u lle fel ysgrifenyddesau a gwragedd tŷ. Byd o smocio sigarets Lucky Strike fel stemar ac wfftio adroddiadau’r Readers Digest am beryglon tybaco, byd y bariau coctel ac yfed a gyrru, byd lle mae pobl dduon yn gweithio yn y stafell gotiau ac yn glanhau’r tai bach. A’r cyfan yn digwydd ac yn dadlennu mewn ¾ awr hamddenol braf, lle nad yw’r cyfarwyddwr yn rhuthro o olygfa i olygfa nac yn ofni seibiau a golygfeydd hirion. Gwrthgyferbyniad llwyr i Dirty Sexy Money, sydd wedi’i ddileu o’m Sky+ er gwaethaf pedigrî actio fel Peter Krause (Six Feet Under) a Donald Sutherland, mewn drama-gomedi dros ben llestri am gyfreithiwr ifanc i deulu gwarthus o gefnog yn Efrog Newydd. Rhyw Dynasty ar speed, os leiciwch chi.

A chan fod y bali Bîb yn dal i chwarae mig hefo amserlen Damages, diolch byth fod gen i Sky+ i gofnodi gweddill y gyfres fendigedig hon sy’n prysur tynnu tua’i therfyn gwaedlyd. Gyda mwy o droadau annisgwyl na gwaith ffordd yr A470 ym Mlaenau Ffestiniog y dyddiau hyn, mae tynged y twrna ifanc Ellen Parsons (Rose Byrne) dan law’r arch-ast Patty Hews (Glenn Close) yn hoelio’r sylw o wythnos i wythnos.

Glenn Close a Rose Byrne ‘Damages’ - diawl o dîm da
