Sunday, September 16, 2007

Planed Rygbi

Y bêl hirgron biau hi’r dyddiau hyn. Ac er bod Dylan Ebenezeriaid yn byd yn lladd ar obsesiwn y Western Mule a’n Sianel Genedlaethol gyda rygbi ar draul y bêl gron, dwi wrth fy modd. Ac mae’r sianeli teledu yn benderfynol o elwa ar y twrnamaint, neb llai nag S4C â’u 25 o gemau byw a llu o sioeau sbin-offs.

 

Cymysg ydi’r ymateb. Mae Gareth Roberts ganmil gwell na’i gyd-Fonwysyn trwsgl Arthur Emyr wrth lywio’r rhaglenni byw, ac mae barn ffrindiau’n awgrymu bod Mr Slaymaker allan ohoni’n llwyr yng nghanol llanast Monde Gary a Beti. A tydi Jonathan ddim hanner cystal yn absenoldeb gwir gymêr y sioe honno, Rowland Philips. Fe welsom y Bonwr Philips yn cadw reiat wrth feicio efo Robin McBryde yn Gwesty Cymru (SMS), rhaglen bry-ar-y-wal sy’n bwrw golwg ddifyr ar y garfan yn eu llety tair seren yn Naoned, Llydaw. Roedd hi’n greisus arnyn nhw’r wythnos diwethaf, gan fod y trefnwyr wedi cael bws heb dŷ bach i gludo’r garfan ar gyfer siwrne awr i’r stadiwm cyn gêm Canada. Yn y diwedd, aeth aelod o staff arlwyo Cymru ati i wneud lle chwech DIY hefo potel a pheipen blastig. ’Mond gobeithio ei fod wedi golchi’i ddwylo cyn paratoi Coq au Vin i swper noson honno!! A da gweld Mark Jones, mab fferm o Lanfair-ym-muallt yn cadw’r cliché Cymreig yn fyw, trwy ddwyn dafad o dir y gwesty a’i chloi yn stafell Dwayne Peel. Dw’n i’m os oedd staff y gwesty yn chwerthin mor harti â’r hogia, a’r ôl i’r cyfaill gwlanog adael ei hôl ar hyd a lled y carpedi. O leiaf roedden nhw i’w gweld yn byhafio fel dirwestwyr (dim golwg o far y gwesty!), yn wahanol iawn i chwaraewyr Bon-y-maen yn The Rugby Club ar BBC2W nos Iau. Ar ôl gêm gynta’r tymor, roedd y cyw chwaraewyr a’r hyfforddwr newydd, Max, yn gorfod clecian sawl coctel o gwrw a fodca fel rhan o sesiwn gynefino! Cyfres bry-ar-y-wal arall sy’n bwrw golwg go iawn ar glwb rygbi lleol, gyda chryn dipyn o dynnu coes ym mar y clwb a lot fawr o ddiawlio a bytheirio yn y sesiynau hyfforddi. Ond yng nghanol miri noson gwisg ffansi i godi arian anhepgor i’r clybhows - lle’r ‘Borgy’ y prop boliog yn parêdio fel panto dame - roedd ’na olygfeydd i sobri rhywun hefyd. Hanes trist ‘CJ’ a fethodd prawf cyffuriau cyn gêm dyngedfennol - nid am ei fod wedi cymryd rhyw bilsen anghyfreithlon chwaith, ond oherwydd bod ganddo ganser y gaill. Ac fe’i welsom yn mynd trwy driniaeth gemotherapi blin mewn ysbyty yn Llundain, a bron â thorri’i fol eisiau camu ar y maes rygbi eto.  

Cyfuniad o’r dwys a’r doniol i’r dim.

 

Posted by Gog y Cwm at 16:55:56 | Permalink | Comments (1) »