Ddy Hôm of Welsh Rygbi
Dwi’n ama weithiau beth ydi diben S4C. Ai sianel gwbl Gymraeg ar gyfer yr oes ddigidol sydd ohoni (pan fydd rhaglenni Saesneg Channel 4 yn diflannu’n gyfan gwbl cyn hir) neu sianel ddwyieithog fel rhan o’r Gymru newydd/new Wales wleidyddol gywir/political correct bondibethma/bollax sydd ohoni. Gyda chymaint o graffeg newydd, trendi’r Sianel, sy’n hysbysebu rhaglenni Cymraeg yn ddwyieithog (e.e. 17.30 Sul/Sunday ac ati), dwi’n amau mai’r ail fersiwn sydd agosaf ati.
Gweler yr hys-bys i hyrwyddo arlwy’r Sianel ar gyfer cystadleuaeth Coupe du Monde de Rugby 2007 - lle mae Cymry Cymraeg fel Gwyn Jones, Ieuan Evans, Arthur Emyr a Rhian Gibson (Cyfarwyddwr Comisiynu Es-Ffôr-Slash-Sî) yn defnyddio’r iaith fain yn bennaf. Be di hyn? Rhyw feddylfryd hen ffasiwn a chul mai iaith y stafell ddosbarth yn unig ydi’r Gymraeg, nid iaith gwaith na marchnata? Pam ddiawl na fysa nhw ’di siarad â’r camera yn eu mamaith, a rhoi isdeitlau Saesneg ar y sgrîn??
Mae’n amlwg fod Susnag dal yn ‘essential’ ym Mharc Tŷ Glas.

Alfie wedi bod yng nghanol sgarmes arall efo’r wasg?