Ailfyw’r Oes Aur?
Am Sadwrn bythgofiadwy. Gŵyr Gatland yn bachu’r bencampwriaeth ganrif ar ôl camp lawn gyntaf Cymru, a 30 mlynedd ers gornest debyg arall yn erbyn Ffrainc. Pawb yn rhyfeddu ar seren wib Shane, yn canmol capteiniaeth Ryan Jones, a thac-tics amddiffynnol Shaun Edwards mor gadarn â gafael haearnaidd China ar Tibet. A diwrnod emosiynol dros ben, o weld Manon a Gwenan Gravell yn camu i’r cae gyda thlws y Goron Driphlyg. Ac i’r rhai di-docyn o’n plith nad oedd am giwio am beint yng nghanol dilyw’r brifddinas, y teli bocs adre amdani. Diolch i griw’r Clwb Rygbi dan arweiniad solet Gareth Roberts, cafwyd darllediad cynhwysfawr o’r gic gyntaf tan y dathliadau tanllyd olaf - er y byddem wedi gwerthfawrogi llai o ddadansoddi/ail-ddangos clipiau’r gorffennol/lladd amser am awr cyn y gêm; a mwy o’r awyrgylch ar strydoedd Caerdydd gyda Sarra Elgan-Easterby a mwy o ganu ac adloniant o’r Stadiwm. Beth am opsiwn ‘botwm coch’ ar ddigidol tro nesa, i glywed y corau’n diddanu’r dorf? A diolch hefyd (neu ddim diolch!) i Huw Eic am gyhoeddi mai Côr y Gogledd enillodd gystadleuaeth Codi Canu noson cyn y rhaglen ganlyniadau ei hun!
Wedi’r fuddugoliaeth fawr, roeddwn i’n edrych ymlaen at Noson Chis a Meinir (Cwmni Da) a oedd yn addo sgyrsiau difyr, caneuon a phytiau o’r archif am gerddor arbennig yr wythnos. A phan glywais mai’r trwbadŵr o Solfach oedd y cerddor dan sylw, dyma agor potel o gwrw Tomos Watkin a setlo’n eiddgar ar y soffa. Am siom. Yr hyn a gafwyd mewn gwirionedd oedd fersiynau cantorion eraill - Gwilym Morus, Lleuwen Steffan a’r ddau gyflwynydd - o rai o glasuron Meic Stevens. Oll wedi’u perfformio mewn clamp o stiwdio fawr glinigaidd â sgriniau teledu dan oleuadau glas llachar, byrddaid o bobl yma ac acw, braidd dim awyrgylch na chydberthynas rhwng Huw Chiswell a Meinir Gwilym, a cherddorfa fyw yn boddi’r lleisiau. Rhyw fersiwn awr o hyd o’r slot ar raglenni Bandit ers talwm, lle’r oedd ‘gwesteion arbennig’ yn mwrdro clasuron roc a phop Cymraeg. Yn wir, (unig) uchafbwynt y rhaglen oedd y clip o Meic yn perfformio ‘Môr o Gariad’ gyda’i gitâr mewn tafarn fyglyd ryw ugain mlynedd yn ôl. A chyda rhaglenni eraill y gyfres yn rhoi llwyfan i ganeuon Maffia, Endaf Emlyn, Tecwyn Ifan, Hogia’r Wyddfa, Edward H, Geraint Lövgreen ac Arfon Wyn, mae’n amheus gen i a fydd eu dilynwyr pybyr yn gwerthfawrogi’r ailbobiad hwn yn lle gweld a chlywed yr artistiaid gwreiddiol wrthi.
O leia ges i flas ar y cwrw.