Tuesday, October 23, 2007

Ec Eff Naw Deg Naw

Asu, o’n i ‘di gwylltio. Wedi ‘nghythruddo a’m dadrithio’n lân. Sy’n gwneud dim lles o gwbl i’m mhwysau gwaed na’r hen ystrydeb amdanom ni bobl gwallt coch. Dyna lle’r o’n i nos Fercher diwethaf, bron â cholli cynnwys y botel gwrw ar y carped wrth weiddi ‘ATEBWCH Y BLYDI CWESTIWN!’ i’r sgrîn o’m blaen. O’n i’n gwybod dylwn i fod wedi sticio efo’r gyfres ddrama ffantasi Americanaidd, Heroes, yn lle ffantasi wleidyddol Cymru.

CF99 oedd y rhaglen euog, ymgais ddiweddara’r BBC i ffeindio rhywbeth diddorol i’w ddweud am wleidyddiaeth. Cafwyd dechrau digon addawol, gyda graffeg a cherddoriaeth drendi à la Bandit yn ein cyflwyno ni i Bethan Rhys Roberts smart yng nghysgod simdde fawr ein senedd-dy secsi. Dyma fyd o wahaniaeth i’r Dewi Llwyd siwtiog yn stiwdio syber Maniffesto ar bnawniau Sul diog. Diawch, roedd hyd yn oed yr Aelodau Cynulliad wedi diosg eu teis ac yn edrych yn hamddenol braf. Rhy hamddennol o beth uffar.

Pwnc llosg yr wythnos oedd cyhoeddiad y Canghellor Alistair Darling ynglŷn â faint o arian oedd ar gael i Gymru o goffrau San Steffan, a’r ffaith nad oedd y ffigurau’n taro deuddeg. Ar un llaw, roedd Peter Hain yn brolio fod Llywodraeth y Cynulliad yn cael 2.4% yn fwy o arian, a’r Gweinidog Cyllid Andrew Davies yn ddweud mai cynnydd o 1.8% sydd yn y gyllideb Gymreig ar gyfer y tair blynedd nesaf. Rŵan, mae hyd yn oed rhywun mor rhifyddol ddi-glem â fi (dosbarth set 3 yn Ysgol Dyffryn Conwy, a thri chynnig i basio Maths TGAU) yn gwybod fod rhywbeth yn drewi fan hyn. A dyma Bethan Rhys Roberts yn ceisio mynd i’r afael â’r mater gyda’r Llywydd Dafydd Elis Thomas, ac Alun Davies AC Llafur (neé Plaid Cymru). Ond er holi a stilio, a defnyddio arian siocled i geisio gwneud ei phwynt, toedd neb fawr callach. Roedd agwedd Dafydd Êl yn ddilornus a dweud y lleiaf, trwy wfftio’r holwraig a phwysleisio bod ein bod ni bellach yn gwneud pethau’n wahanol yn sgil sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol (a finna’n meddwl ein bod ni’n dal yn gorfod mynd ar ofyn Lloegr, yn niffyg grym go iawn i godi trethi a phasio deddfau). Yn wir, roedd ystum ac osgo’r Arglwydd gydol y rhaglen yn awgrymu fod ganddo bethau rheitiach i’w gwneud na siarad siop ar nos Sadwrn bach…

Aeth Bethan Rhys ar drywydd sgwarnog arall efo trydydd gwestai’r noson wedyn, yr anwydog Eleanor Burnham, trwy ofyn a oedd am herio arweinyddiaeth Mike German. A gafwyd ateb strêt? A gafodd gŵyr Toshack lwyddiant yng Nghyprus? Does ryfedd fod Vaughan Roderick wedi dianc ar ei wyliau ar ôl cydgyflwyno un rhaglen yn unig o’r gyfres hyd yma.

Efallai tydi hanner awr o gyfweliadau pytiog ddim yn ddigon mewn wythnos. Efallai nad yw’r cyflwynwyr yn ddigon Paxman-aidd o daer efo’r rhai mewn grym. Efallai nad oes gan y gwylwyr fawr o ddiddordeb am 9.30 nos Fercher. Ond mae rhaglen debyg i hon a Dragon’s Eye yn hollbwysig, fel fforwm drafod i gael - neu drïo cael - ateb plaen gan yr ACau sy’n atebol inni, ac sy’n cael lle braf iawn tua’r Bae ar ein traul ni.


Posted by Gog y Cwm at 18:32:08 | Permalink | Comments (1) »