Wednesday, April 2, 2008

Yr Angel Ioan

Tra bod Matthew Rhys yn serennu yn y Stêts, a sianel ABC America wedi ordro trydedd gyfres o’i ddrama boblogaidd, mae ei gyn-fflatmêt yn dawel ar y naw. Heblaw am ffilmiau Fantastic Four, be’n union mae’r llanc o Lwytgoed yn ei wneud yn LA?

Wel, mae’n debyg fod Ioan Gruffudd wedi cael y brif ran mewn cyfres ddrama newydd sbon ar sianel CBS, o’r enw The Meant to Be’s - drama ramantus lle mae Mr Gruffudd yn fentor neu’n dywysydd i angel sy’n dychwelyd i helpu ni feidrolion y Ddaear i wella’n bywydau. Wel, meidrolion Americanaidd o leiaf. Rhyw fath o Highway to Heaven ar gyfer yr 21ain ganrif efallai, cyfres oedd ‘mlaen ar bnawniau Sul ar HTV flynyddoedd yn ôl.

Mae’n swnio’n eithaf tebyg i gyfres gartwnaidd Anna Friel (Beth Jordache Brwcseid i chi a fi!) sydd ar y gweill ar ITV1, Pushing Daisies, am berchennog bwyty sydd a’r ddawn o ddod a phobl yn ôl o farw-fyw. O leiaf mae ‘na wreiddioldeb yn perthyn i ddramâu Americanaidd y dyddiau hyn, yn wahanol iawn yr ochr yma i’r ‘Pond’. Epiliad sâl o gyfresi dramâu hirhoedlog yw’r norm ym Mhrydain, rhwng sbin-offs Casualty fel Holby City a Holby Blue. Beth nesaf? Holby High?! A’n gwaredo, mae gynnon ni’r sgrwtshbeth sebonllyd Waterloo Road yn barod.



Yr hwdi o Hollywood

Posted by Gog y Cwm at 18:03:09 | Permalink | Comments (1) »