Ar derfyn hirddydd…
Tân siafins arall oedd Cape Wrath, oedd yn addo cymaint ond ddim cweit yn siŵr beth oedd yn trïo bod - rhyw Dwin Peaks wedi’i chroesi efo Despryt Howsweiffs. Mae’n amlwg fod Channel 4 yn teimlo’r un peth, gan eu bod nhw wedi rhoi’r fwyell i’r gyfres. Sy’n golygu dim mwy o’r hyfryd Lucy Cohu. Sy’n golygu hefyd na chawn ni fyth wybod y gwir tu ôl i’r gymuned arbrofol hon, a pham ei bod yng nghanol diffeithwch diddiwedd o dywod yn y diwedd wrth i Danny (David Morrissey) ddengyd yn ei gar. Ydy’r newid yn yr hinsawdd wedi cael effaith mor ddramatig â hynna ar dirwedd de Lloegr??

Lucy Cohu
Diolch byth am Heroes (cynhyrchiad NBC America) bob nos Fercher ar BBC2 (cyfres 23 pennod! Ta ta i fywyd cymdeithasol a sgyrsiau ffôn ar y noson honno o rŵan tan Dolig). Ydw, dwi’n gwybod mod i ar ei hôl hi braidd, a’r gyfres gyntaf eisoes wedi’i darlledu ar sianel Sci Fi UK, ond dwi ddim am danysgrifio a llenwi mwy o goffrau boliog Mr Murdoch a Sky. Iawn, ocê, mae’r cymeriadau i gyd yn annaturiol o ddel ond mae hanesion cymhleth pobl gyffredin sy’n debyg i gymeriadau comics Marvel ac sy’n meddu ar rymoedd goruwchnaturiol yn cydio, ac yn dri chwarter awr o ddihangfa a diddanwch pur. Y Mabinogi ym Manhattan os leiciwch chi.

Bydd wyneb cyfarwydd y Brits yn ymddangos ym mhennod 12 y gyfres hon - Christopher Eccleston, fel y cymeriad Claude Rains sydd â’r gallu i droi’n anweledig.
Mi fydd yr Iancs lwcus yn cael gweld yr ail gyfres ar 24 Medi.
Hyn oll pan fo’n Sianel hoff yn dal i ailddarlledu’r Sioe, Steddfod yr Urdd a’r Genedlaethol, Sesiwn Fawr, Llangollen, Jazz Aberhonddu - ac Orji Flynyddol Bryn Terfel toc - yn yr oriau brig. Heb sôn am ffilmiau Y Chwarelwr/Y Weithred bob cyfle gân nhw ar ôl penawdau newyddion naw.
Gwarthus? Siomedig? Ffwcedig.

‘Repeats’ di-ri ar Es-Ffor-Si, sy’n para tra bo Dai