Y Doc, y Brawd a’r Canwr
Cofiwch yr amser a’r dyddiad - 6.20 o’r gloch nos Sadwrn, 5 Ebrill ar BBC One. Ydy, mae Doctor Who yn ôl am bedwaredd gyfres. Mae’r hysbysebion i’w gweld eisoes (gyda broliant BBC Wales yn benthyca slogan Jonezy Radio Cymru “o Gymru, i Gymru, am Gymru, dros Gymru” etc), a chryn edrych ymlaen am awran o ddihangfa lwyr. Ac eto, mae gen i f’ofnau ac amheuon ynglŷn â’r gyfres hon. Fel y dywedodd Siôn, fy nai bum mlwydd oed wythnos ddiwethaf, “dydi Martha ddim arno fo ‘ŵan”. Hen ben ar sgwydda’ ifanc. Yn hytrach, Catherine Tate fydd cymar David Tennant eleni. Fel ddeudais i, mae gen i gryn amheuon ohoni. ‘Sdim dwywaith ei bod hi’n berfformwraig gomedi heb ei hail - a dyna’r drwg falle. Roedd ei pherfformiad tafod-yn-y-boch ym mhennod Dolig 2006 (The Runaway Bride) yn adleisio ei chymeriadau comig yn ormodol, a ddim yn argyhoeddi. Ond dyna ni. Efallai y cawn ni’n siomi ar yr ochr orau. Fel arall oedd hi pan ymddangosodd Ceilliau Miniog (fel y bedyddiwyd Kylie gan fy mós ffraeth!) yn rhifyn Nadolig diwethaf. Ar ôl cymaint o edrych ymlaen, fe brofodd y benfelen fach pam nad yw wedi “actio” llawer ers gadael Ramsay Street.
Newyddion drwg i ffans Matthew Rhys. Os oeddech chi’n un o ffyddloniaid (prin) Brothers and Sisters llynedd (fel Anti Delythwen o’r swyddfa acw) mae Channel 4 yn mynd i brofi’ch amynedd i’r eithaf. Ar ôl cael eu siomi gyda’r ffigurau gwylio, a gwympodd o 2.22 miliwn am y bennod gyntaf i ryw 600,000 tua’r diwedd, mae’r bosys teledu wedi rhoi chwip dîn iddi trwy ddarlledu’r ail gyfres i slot marwaidd 11 o’r gloch nos Sul, 30 Mawrth, ar E4. O diâr. Efallai bydd gan Anti Delyth lygaid panda yn y swyddfa ‘cw ar foreau Mawrth o hyn ymlaen…

Newyddion gwell i ffans Cân i Gymru (ym, na, sgin i’m clem pwy ‘da chi). Cyhoeddodd Uned 5 fod Aled Myrddin wedi cyrraedd y brig yn Dhún na nGall. Llongyfarchion eto, ond ble mae’r hanes ar newyddion radio a theledu Cymraeg? I feddwl bod S4C yn rhoi cymaint o fri i’r gystadleuaeth flynyddol â gwobr ariannol o £10,000; mae’r diffyg sylw i’r llwyddiant Celtaidd yn od ar y naw.
Mi fyddai’n gwylio efo’r miliynau eraill, heb os… ond gyda rhywfaint o sinigiaeth y tro yma.

‘Da ni’n ‘bovvered’ efo cymar newydd Doctor Who?
Newyddion drwg i ffans Matthew Rhys. Os oeddech chi’n un o ffyddloniaid (prin) Brothers and Sisters llynedd (fel Anti Delythwen o’r swyddfa acw) mae Channel 4 yn mynd i brofi’ch amynedd i’r eithaf. Ar ôl cael eu siomi gyda’r ffigurau gwylio, a gwympodd o 2.22 miliwn am y bennod gyntaf i ryw 600,000 tua’r diwedd, mae’r bosys teledu wedi rhoi chwip dîn iddi trwy ddarlledu’r ail gyfres i slot marwaidd 11 o’r gloch nos Sul, 30 Mawrth, ar E4. O diâr. Efallai bydd gan Anti Delyth lygaid panda yn y swyddfa ‘cw ar foreau Mawrth o hyn ymlaen…

Ac mae’r bumed sianel am wneud yr un peth i’m hoff gyfres gomedi ers oes pys, 30 Rock, trwy ei symud i’r is-sianeli digidol Five US/Five Life/Fiver yn ddiweddarach eleni. Diolch byth ‘mod i wedi buddsoddi mewn Sky+ felly.
Pam, o pam eu bod nhw’n gwneud hyn? Beth yw’r pwynt talu symiau sylweddol ar fewnforion Americanaidd, dim ond i’w cuddio nhw yn oriau mân y bore wedyn? Efallai bod hyn yn rhatach na chynhyrchu dramâu a chomedïau cynhenid.