Friday, December 7, 2007

Mawredd Mawr!

Cais i gwmni Al Fresco os gwelwch yn dda. Ga’ i ddod ar brofiad gwaith pan fyddwch chi’n recordio’r bedwaredd gyfres o Mawr? Dwi’n giamstar ar wneud coffi, ac yn yrrwr pwyllog pan fydd angen cludo’r criw ar leoliad o amgylch y brifddinas. Ond peidiwch â disgwyl i mi gadw’n dawel yn y cefndir. Dim ffiars o beryg. Achos mi fyddai’n g’lana chwerthin am y gorau o wylio castiau cymeriadau’r Fast Show Cymraeg.


Cafwyd dechrau addawol iawn gyda pharodi o’r ffilmiau byrion hynny sy’n cyflwyno rhaglenni’r Sianel - y bygis golff a’u tebyg. Gwelwyd y camera yn tremio’n araf i ddangos goleuadau pier Penarth yn fflachio cyn cael eu ffiwsio gan ddau ddyn go chwithig yr olwg - sef prif actorion ac awduron y gyfres, Tudur Owen ac Iwan John - â’r logo blaensleisiog MAW/R ar y sgrîn wrth gwrs. Mae rhai o’r hen stejars yma o hyd, fel PC Leslie Wyn sy’n cael ei hun mewn mwy o lanast na phrif gopyn Heddlu’r Gogledd, a chriw rhaglen ddychmygol i blant, Dyna Hwyl! sydd mor ddi-chwaeth ag erioed yn yr 80au. Oedd Bilidowcar gynt mor ŵ-ŷ-misus-aidd â hyn? Ond ar y cyfan, mae myrdd o gymeriadau a sefyllfaoedd newydd yn y gyfres newydd (gyda rhai’n fwy llwyddiannus na’i gilydd - roedd y sgets ‘Dewch i Ddawnsio’ yn llusgo braidd - faint o jôcs allwch chi wneud o ddawnswyr rhwmba’n rhechu?!). Dyna chi’r parodi o raglenni Trebor Edwards ers talwm, gyda’r ddeuawd yn pwyso ar eu ffyn bugail wrth forio canu ‘Wele’n sefyll rhwng y myrtwydd’ cyn colli’u ffordd yn llwyr ar ôl i chwa o wynt chwythu’r dudalen â’r geiriau hollbwysig. Ac wele’r ddau yn ei la-la-la-io hi mewn cytgord perffaith, cyn gorffen gyda bonllefau o ‘Bread of Heaven’ megis ffans meddwol Stadiwm y Mileniwm. Gwych.

Dwi’n siŵr fod trefnwyr teithiau yn diawlio’r sgriptwyr am eu portreadu fel rhai sy’n byw a bod dan wely haul, yn slochian pina coladas, smocio fel stemar, a meddyliau mor frwnt â landrofer mewn cae lleidiog. Croeso i Beryl, Cheryl a Meryl, a gafodd wahoddiad i gynghori pobl ar sut i drefnu’r gwyliau delfrydol ar raglen radio Hywel a Nia - er gwaetha’r ffaith bod un o’r triawd orenaidd yn meddwl mai Jônsi oedd yr holwr, a chamgymryd Nia Roberts fel y ddynes-gwneud-panad. Yn wir, mae’r gyfres megis A-Y o’r Sêr Cymraeg gyda rhai fel Beth Robert, Heulwen Haf ac Arfon Haines yn gwneud ymddangosiadau cameo. A braf gweld Gwenllian Jones yn ôl i ddangos ei doniau comedi ar ôl  sbel yn Awstralia. Prawf bod pen bandits y Sianel wedi maddau iddi ar ôl rhegi ar raglen fyw i blant, Noc Noc, sbel yn ôl. Diawch, mae hynny’n swnio fel sgets yno’i hun. Dyna Hwyl!

Yr amryddawn Tudur Owen -
sydd ar fin cyflwyno sioe siarad newydd yn lifrai campus PC Leslie Wyn yn fuan ar S4C

Posted by Gog y Cwm at 18:09:44 | Permalink | Comments (1) »