Friday, October 5, 2007

Mon dieu Gary a Beti!

Druan â Beti George. ‘Nôl ym mis Awst, awgrymais y byddai’n braf gweld y ddarlledwraig brofiadol yn ôl ar y sgrin. Rhaglen adolygu byd y celfyddydau, efallai, neu fersiwn teledu o’i sioe siarad fytholwyrdd ar y radio. Ond sbin-off Cwpan Rygbi’r Byd? Nefar in Iwrop.

Roedd Monde Gary a Beti (Sunset + Vine Cymru) yn swnio’n dda ar bapur, a minnau’n disgwyl trafodaeth fywiog o glybiau rygbi gwadd, tebyg i Scrum V gyda Jason Mohammad. Ond yr hyn a gawsom mewn gwirionedd oedd dau gyflwynydd a dau westai mewn stiwdio wag, a barn eildwym Gwyn a Derwyn Jones a glywyd eisoes yn ystod y darllediadau byw. Anogwyd ni’r gwylwyr droeon i decstio, e-bostio neu ffonio gyda’n sylwadau, ond chlywyd na bŵ na be gan neb heblaw criw clwb rygbi Aberteifi, a Dai Ashurst yn fyw o Lydaw. Roedd tawelwch yn diasbedain drwy’r stiwdio pan dorrodd y cysylltiadau ffôn, wyneb y Bonwr Slaymaker yn bictiwr o “beth yffach wy’n neud ‘ma?!” a Beti yn gwenu’n ddewr gyda winc o anogaeth gan Clive Rowlands o’r ystlys. Yn fyr, smonach lwyr a gwers berffaith ar sut i beidio â chynhyrchu rhaglen fyw. Ro’n i’n meddwl y bydden nhw’n rhoi’r ffidil yn y to ar ôl ffradach Ffiji, ond na. Mae ‘na fwy i ddod! Felly, setlwch ar y soffa a sbecian rhwng eich dwylo i fwynhau un o raglenni gwaethaf-gorau S4C ers Tipit!

Sdicia at fyd ffilmiau tro nesa’ Slaymaker

O gomedi anfwriadol, i ddrama gomedi newydd bob nos Iau am naw, sy’n dilyn hynt a helynt trigolion brith stad o dai yn hen fro’r chwareli. Mae’r amserlen yn hollbwysig, gan fod yma ddigonedd o hiwmor ŵ-ŷ-misus a golygfa o ben ôl Tudur Owen ym Man Del (Tonfedd Eryri) i wneud i Mrs Jones Llanrug gochi at ei chlustiau. Mae rhai wedi cyfeirio ati fel Tipyn o Stad heb y laffs, eraill yn dweud mai dyma’r fersiwn Cymraeg o Shameless. Hmmm. Yn y bennod gyntaf, mae Sol (Huw Garmon) yn labrwr parod ei gymwynas i bawb arall ond ei gariad, Toyah (Rhian Blythe), sy’n ysu am gael dechrau magu teulu. Roedd y bennod gyntaf yn glasur o gamddealltwriaeth, gyda Sol yn trïo’i orau glas i gadw Dan drws nesaf (perchennog y dywededig ben ôl) yn sobor er lles ei blant ond yn llwyddo i wneud pethau’n ganmil gwaeth gyda’i seidcic o frawd iau, Tal (Iwan Charles). Wn i ddim beth ydy diben Eilir Jones fel y dyn dall hyd yma, felly dal i wylio amdani.

I aralleirio Gareth Jenkins, “bernwch chi fi ar ôl y bennod olaf”.

Croesawyd hen ffefryn arall, Ar y Lein (Telesgôp), yn ôl ar yr un noson. Dechreuodd siwrnai ddiweddara Bethan Gwanas ym Mrasil ar drywydd y cyhydedd. Ond nid merch ar y cei yn Rio mohoni. Bu’n chwysu chwartia yng nghanol torf o filiwn yng ngŵyl grefyddol fwya’r wlad, Círio de Nazaré, mynd am dro gefn liw nos i weld crocodeil efo llanc o’r enw Rambo, a chael reid ar gefn byffalo dŵr o’r enw Rambo (un arall!). Aeth mor belled â chanmol cig byffalo fel dewis rhagorach a mwy maethlon na’n Gwartheg Duon cynhenid ni. Gair i gall, Bethan - cadwa’n ddigon pell o fart Dolgella’ am sbel!

 

Posted by Gog y Cwm at 19:06:26 | Permalink | Comments (1) »