Hyder yr Hen Ogledd

‘Rebus’ a ‘Taggart’ - yn chwifio baner yr Alban ym mhedwar ban byd
A beth am ein ditectifs Cymreig ni? Yr unig un diweddar sy’n dod i’r cof yw’r Ditectif Prif Arolygydd Noel Bain (Philip Madoc) yn A Mind to Kill, a’r fersiwn cefn-gefn ar S4C, Yr Heliwr (1994-2002), wedi’i seilio ar nofel wreiddiol Lyn Ebenezer. Do, fe gafwyd llwyddiant byrhoedlog y tu hwnt i Glawdd Offa, diolch i slot ar sianel Sky One ac yna Channel 5. Ac mae’n ymddangos fod y Bîb wedi rhoi’r gorau i gynhyrchu cyfresi ‘Cymreig’ ar ôl methiannau niferus fel y sioe sebon Tiger Bay (1997), cyfres am grwner yng nghefn gwlad Powys, Mortimer’s Law (1998) a Jack of Hearts (1999) gyda’r twmffat gwrth-Gymraeg Keith Allen fel swyddog prawf yn Kêdiff.
Ond beth am Torchwood, meddech chi? Iawn, mae Caerdydd yn ganolog i’r gyfres ffugwyddonol hon ac mae’r Gymraes Gwen Cooper (Eve Myles) yn aelod blaenllaw o griw Capten Jack. Ond y gwir amdani yw y gallai’r gyfres fod wedi’i lleoli unrhyw le yn y byd.
Mae Rebus ar y llaw arall mor Albanaidd â bagbibau sgrechlyd a chytew Mars bars.