O Eurovision i Wembley


Ydy, mae criw Caerdydd (Fiction Factory) yn ôl am gyfres newydd o ddeg pennod. Tra mod i’n croesawu hyn, dwi’n cwestiynu amseru S4C. Roedd hi wedi’i theilwra’n berffaith i slot ‘ieuenctid’ nos Iau gynt gyda Bandit ac ati. Ond tydi antics trigolion y ddinas fawr ddrwg ddim yn apelio at bawb o bell ffordd, yn enwedig cynulleidfaoedd traddodiadol, craidd, S4C. Y Palmant Aur a’u tebyg sy’n plesio ar nosweithiau Sul, nid palmentydd tyllog Ciardiff.
Serch hynny, mae Caerdydd wedi dod i oed ers y gyfres simsan gyntaf, ffrwyth partneriaeth aflwyddiannus rhwng Fiction Factory a chwmni teledu Gwyddelig. Y syniad gwreiddiol oedd gosod y ddrama yng Nghaerdydd a Dulyn. Cafodd y BBC brofiad tebyg wrth geisio gefeillio Pobol y Cwm â’r sebon Wyddeleg Ros na Rún, gyda’r nod o ddod â chriw o Galway i Gwmderi cyn i’r syniad fynd i’r gwellt - cwlwm Celtaidd myn diân i!.
Gyda sgriptiau Cymraeg gwreiddiol yn lle cyfieithiadau, a chymeriadau sydd wedi hen ennill eu plwyf, mae yna well siâp ar y drydedd gyfres. Nid bod y cymeriadau i gyd yn neis ar y naw chwaith. Mae Elen (Rhian Green) wedi datblygu o fod yn fyfyrwraig beniog y cyfresi cyntaf i fod yn gyfryngast ystrydebol sy’n anffyddlon i’w chymar a’i chyn-ddarlithydd coleg, Mike (Julian Lewis Jones). Mae Peter (Ryland Teifi) yn mynd ar chwâl wrth golli gafael ar ei deulu bregus, gyda’i frawd dan glo a’i chwaer yn ceisio torri’n rhydd oddi wrtho. Teimlad cymysg sydd gennyf o ddawn actio Ryland Teifi, sy’n dueddol o WEIDDI EI LINELLAU’N ORDDRAMATIG ar brydiau. Ond hei, mae’n debyg ei fod yn ffefryn gyda’r ledis, felly pwy ydw i i farnu?
Ond y gorau o bell ffordd yw Osian (Gareth Pierce), sydd wedi ffeirio’i barchus arswydus swydd yn y Cynulliad am y casino ac sy’n dechrau magu hyder o’r diwedd. Ar ôl dioddef gweld ei dad ei hun yn bachu merch ei freuddwydion, mae’r ci tawel hwn yn dechrau brathu o’r diwedd. Da’r hogyn.

Byddai’n brafiach gweld mwy o amrywiaeth y prif gymeriad hefyd - Caerdydd. Does dim hanner digon o olygfeydd o eiconau’r brifddinas, o Barc Cathays i Barc y Rhath, Stryd Womanby a’r City (Shitty?) Arms, Heol y Frenhines a Heol Eglwys Fair. Fel arall, waeth i’r fflatiau drudfawr a digymeriad fod ym marina Abertawe neu Ddoc Fictoria Caernarfon ddim.

Wel, mae’n debyg fod Ioan Gruffudd wedi cael y brif ran mewn cyfres ddrama newydd sbon ar sianel CBS, o’r enw The Meant to Be’s - drama ramantus lle mae Mr Gruffudd yn fentor neu’n dywysydd i angel sy’n dychwelyd i helpu ni feidrolion y Ddaear i wella’n bywydau. Wel, meidrolion Americanaidd o leiaf. Rhyw fath o Highway to Heaven ar gyfer yr 21ain ganrif efallai, cyfres oedd ‘mlaen ar bnawniau Sul ar HTV flynyddoedd yn ôl.
Mae’n swnio’n eithaf tebyg i gyfres gartwnaidd Anna Friel (Beth Jordache Brwcseid i chi a fi!) sydd ar y gweill ar ITV1, Pushing Daisies, am berchennog bwyty sydd a’r ddawn o ddod a phobl yn ôl o farw-fyw. O leiaf mae ‘na wreiddioldeb yn perthyn i ddramâu Americanaidd y dyddiau hyn, yn wahanol iawn yr ochr yma i’r ‘Pond’. Epiliad sâl o gyfresi dramâu hirhoedlog yw’r norm ym Mhrydain, rhwng sbin-offs Casualty fel Holby City a Holby Blue. Beth nesaf? Holby High?! A’n gwaredo, mae gynnon ni’r sgrwtshbeth sebonllyd Waterloo Road yn barod.

Mi fyddai’n gwylio efo’r miliynau eraill, heb os… ond gyda rhywfaint o sinigiaeth y tro yma.

‘Da ni’n ‘bovvered’ efo cymar newydd Doctor Who?

Ac mae’r bumed sianel am wneud yr un peth i’m hoff gyfres gomedi ers oes pys, 30 Rock, trwy ei symud i’r is-sianeli digidol Five US/Five Life/Fiver yn ddiweddarach eleni. Diolch byth ‘mod i wedi buddsoddi mewn Sky+ felly.
Pam, o pam eu bod nhw’n gwneud hyn? Beth yw’r pwynt talu symiau sylweddol ar fewnforion Americanaidd, dim ond i’w cuddio nhw yn oriau mân y bore wedyn? Efallai bod hyn yn rhatach na chynhyrchu dramâu a chomedïau cynhenid.
Un o gyfresi anhepgor Sky+ ar hyn o bryd yw Mad Men (bob nos Sul ar BBC4). Cyfres orwych gan Matthew Weiner, cynhyrchydd ac awdur cyfresi olaf The Sopranos, a enillodd dwy wobr Golden Globes 2007 am y ddrama orau, a’r actor gorau mewn drama deledu. Jon Hamm oedd yr actor dan sylw, a fo ydy Don Draper - un o gyfarwyddwyr asiantaeth hysbysebu Sterling Cooper, Madison Avenue, (sy’n esbonio teitl y gyfres) yn Efrog Newydd y 1960au. Byd o swyddfeydd myglyd, lle mae dynion croenwyn dosbarth canol yn rheoli yn y swyddfa a’r stafell wely, a lle mae’r merched yn sicr o’u lle fel ysgrifenyddesau a gwragedd tŷ. Byd o smocio sigarets Lucky Strike fel stemar ac wfftio adroddiadau’r Readers Digest am beryglon tybaco, byd y bariau coctel ac yfed a gyrru, byd lle mae pobl dduon yn gweithio yn y stafell gotiau ac yn glanhau’r tai bach. A’r cyfan yn digwydd ac yn dadlennu mewn ¾ awr hamddenol braf, lle nad yw’r cyfarwyddwr yn rhuthro o olygfa i olygfa nac yn ofni seibiau a golygfeydd hirion. Gwrthgyferbyniad llwyr i Dirty Sexy Money, sydd wedi’i ddileu o’m Sky+ er gwaethaf pedigrî actio fel Peter Krause (Six Feet Under) a Donald Sutherland, mewn drama-gomedi dros ben llestri am gyfreithiwr ifanc i deulu gwarthus o gefnog yn Efrog Newydd. Rhyw Dynasty ar speed, os leiciwch chi.

A chan fod y bali Bîb yn dal i chwarae mig hefo amserlen Damages, diolch byth fod gen i Sky+ i gofnodi gweddill y gyfres fendigedig hon sy’n prysur tynnu tua’i therfyn gwaedlyd. Gyda mwy o droadau annisgwyl na gwaith ffordd yr A470 ym Mlaenau Ffestiniog y dyddiau hyn, mae tynged y twrna ifanc Ellen Parsons (Rose Byrne) dan law’r arch-ast Patty Hews (Glenn Close) yn hoelio’r sylw o wythnos i wythnos.

Glenn Close a Rose Byrne ‘Damages’ - diawl o dîm da
Os felly, a wnawn nhw plîs wneud yr un peth i John Inverdale - cyflwynydd diduedd(!) rhaglenni Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a oedd wastad yn rhoi’r prif sylw i fethiannau Lloegr uwchlaw llwyddiannau Cymru. Efallai na ddylwn i boeni’n ormodol amdano, gyda sylwebaeth ganmil gwell ar S4C, ond mae’n siŵr ei fod yn mynd dan groen 80% o’r gwylwyr di-Gymraeg fyddai’n dueddol o wylio’r BBC. Anfonwyd gair o gŵyn at gadeirydd BBC Trust gan Chris Bryant, AS Cwm Rhondda sy’n siarad sens am unwaith yn ei fywyd. A chyn gêmau rhyngwladol neithiwr, roedd penawdau newyddion teledu a radio’r EBC yn neilltuo munudau lawer i ganfed cap David ‘dwi isio bod yn Syr’ Beckham cyn rhoi mensh bach sydyn i’r Alban a hyd yn oed llai fyth i Gymru.
Mae’r ddadl hon mor hen â phechod wrth gwrs. Ond mae’n warthus nad oes diawl o ddim yn cael ei wneud ar gownt y peth.
Un rheol i hwn…

…. ac un arall i hwn.
Dwi wedi canmol Gavin & Stacey i’r cymylau o’r blaen yn y tudalennau hyn. A chyda’r ail gyfres newydd ddychwelyd i lonni nosweithiau Sul ar BBC Three, mae’n esgus perffaith i roi mensh bach arall i’r perl o gyfres gomedi hon. Gyda chlod a bri gan y British Comedy Awards a’r South Bank Show Awards, a chynulleidfa deilwng o 1.7 miliwn ar sianel ddigidol leiafrifol, mae’n ymddangos fod y mis mêl yn parhau! A newydd ddychwelyd yn ôl o’u mis mêl y mae’r cwpl cariadus, yn syth i groeso mawr gan y ddau deulu a ffrindiau o’r Barri a Billericay, Essex. A’r tro hwn, mae gan y forwyn briodas (Nessa) a’r gwas priodas (Smithy) ran tipyn mwy amlwg fel darpar rieni anfoddog. Mae perthynas cas a chariad y ddau yn destun chwilfrydedd, gyda Nessa yn lleisio ei hofnau am y dyfodol yn ei ffordd gynnil arferol: “He’s vile and he’s English”. Mae Smithy wedi pwdu gyda Gavin ei ffrind gorau am anwybyddu ei negeseuon a galwadau ffôn dros dair wythnos y mis mêl, a Stacey wedi pwdu efo’i mam am gynnig ei hen lofft i Nessa feichiog sydd ar hyn o bryd yn cydfyw gydag aelodau “The Distance” - band newydd tri aelod o Catatonia “and the little Welsh one from Hear’Say”. Am ddelwedd hunllefus! Mae Uncle Bryn (Rob Brydon) yr un mor annwyl gyda’i obsesiwn trist â system llywio lloeren ei Citroën Picasso, a Pamela Shipman (Alison Steadman) yn dal i ddioddef bod yn llysieuwraig-cogio-bach er mwyn creu argraff dda ar y teulu-yng-nghyfraith o Gymru. Cymeriadau yr ydych chi’n malio amdanynt, pobl gyffredin â thwtsh o’r absẃrd sydd eto’n gredadwy; cyfres sy’n codi gwên heb orfod dibynnu ar iaith groch na chwarddiad ffals ar dâp. Ac yn ôl canolwr Cymru, Tom Shanklin, roedd ef a’i gydchwaraewyr wrth eu boddau’n gwylio fideos Gavin and Stacey wrth deithio ar fws y garfan i’r sesiynau hyfforddi. Dyna i chi bluen arall yn het y gyfres!
Go brin y caiff Llŷr a Manon gystal fis mêl. Daeth cyfres sebon y Sul, Teulu, i ben gyda’r briodferch yn gadael ei pharti nos er mwyn ymuno â’i brawd-yng-nghyfraith a’i gwir gariad wrth wely angau eu bos/tad siawns yn yr ysbyty. Wedi’ch drysu’n lân? Na phoener, bydd ‘Ewings’ Aberaeron yn siŵr o gloddio mwy o dwll iddyn nhw’u hunain erbyn y gyfres nesaf. I mi’n bersonol, un o’r cymeriadau ar y cyrion oedd seren y sioe - Eirlys (Eiry Thomas), hen drwyn y feddygfa â’i thafod siarp sydd eto’n meddwl y byd o Dr John. Ac chyda phwy oedd fy nghydymdeimlad mwyaf? Cleifion y cylch wrth gwrs! A ’styried bod y staff naill ai’n rhy brysur yn slochian siampen ym Mhen-y-cei neu’n chwarae doctors a nyrsys efo’i gilydd, pa ryfedd fod stafell aros y feddygfa’n orlawn?!
Am Sadwrn bythgofiadwy. Gŵyr Gatland yn bachu’r bencampwriaeth ganrif ar ôl camp lawn gyntaf Cymru, a 30 mlynedd ers gornest debyg arall yn erbyn Ffrainc. Pawb yn rhyfeddu ar seren wib Shane, yn canmol capteiniaeth Ryan Jones, a thac-tics amddiffynnol Shaun Edwards mor gadarn â gafael haearnaidd China ar Tibet. A diwrnod emosiynol dros ben, o weld Manon a Gwenan Gravell yn camu i’r cae gyda thlws y Goron Driphlyg. Ac i’r rhai di-docyn o’n plith nad oedd am giwio am beint yng nghanol dilyw’r brifddinas, y teli bocs adre amdani. Diolch i griw’r Clwb Rygbi dan arweiniad solet Gareth Roberts, cafwyd darllediad cynhwysfawr o’r gic gyntaf tan y dathliadau tanllyd olaf - er y byddem wedi gwerthfawrogi llai o ddadansoddi/ail-ddangos clipiau’r gorffennol/lladd amser am awr cyn y gêm; a mwy o’r awyrgylch ar strydoedd Caerdydd gyda Sarra Elgan-Easterby a mwy o ganu ac adloniant o’r Stadiwm. Beth am opsiwn ‘botwm coch’ ar ddigidol tro nesa, i glywed y corau’n diddanu’r dorf? A diolch hefyd (neu ddim diolch!) i Huw Eic am gyhoeddi mai Côr y Gogledd enillodd gystadleuaeth Codi Canu noson cyn y rhaglen ganlyniadau ei hun!
Wedi’r fuddugoliaeth fawr, roeddwn i’n edrych ymlaen at Noson Chis a Meinir (Cwmni Da) a oedd yn addo sgyrsiau difyr, caneuon a phytiau o’r archif am gerddor arbennig yr wythnos. A phan glywais mai’r trwbadŵr o Solfach oedd y cerddor dan sylw, dyma agor potel o gwrw Tomos Watkin a setlo’n eiddgar ar y soffa. Am siom. Yr hyn a gafwyd mewn gwirionedd oedd fersiynau cantorion eraill - Gwilym Morus, Lleuwen Steffan a’r ddau gyflwynydd - o rai o glasuron Meic Stevens. Oll wedi’u perfformio mewn clamp o stiwdio fawr glinigaidd â sgriniau teledu dan oleuadau glas llachar, byrddaid o bobl yma ac acw, braidd dim awyrgylch na chydberthynas rhwng Huw Chiswell a Meinir Gwilym, a cherddorfa fyw yn boddi’r lleisiau. Rhyw fersiwn awr o hyd o’r slot ar raglenni Bandit ers talwm, lle’r oedd ‘gwesteion arbennig’ yn mwrdro clasuron roc a phop Cymraeg. Yn wir, (unig) uchafbwynt y rhaglen oedd y clip o Meic yn perfformio ‘Môr o Gariad’ gyda’i gitâr mewn tafarn fyglyd ryw ugain mlynedd yn ôl. A chyda rhaglenni eraill y gyfres yn rhoi llwyfan i ganeuon Maffia, Endaf Emlyn, Tecwyn Ifan, Hogia’r Wyddfa, Edward H, Geraint Lövgreen ac Arfon Wyn, mae’n amheus gen i a fydd eu dilynwyr pybyr yn gwerthfawrogi’r ailbobiad hwn yn lle gweld a chlywed yr artistiaid gwreiddiol wrthi.
O leia ges i flas ar y cwrw.