Friday, 25 April 2008

Clod a bri a bonc!

 

Llongyfarchiadau gwresog i G&S ar ennill dwy wobr BAFTA, am y perfformiwr comedi orau a thlws y gwylwyr - tipyn o gamp i raglen a ddatblygodd o fod yn dipyn o gwlt ar sianel leiafrifol BBC Three i ennill calonnau'r mwyafrif. A thra 'mod i'n croesawu hyn, efallai bod lle i boeni am boblogrwydd rhyfeddol y sioe. Eisoes, mae deiseb ar Gweplyfr yn galw am drydedd gyfres er bod y crewyr yn gobeithio ffarwelio gyda rhifyn Nadoligaidd; tôn ffôn hynod boblogaidd "Oh, what's ocurring?" a'r son arswydus fod Bryn a Nessa (Rob Brydon a Ruth Jones) am ryddhau'r sengl "Islands in the Stream" ar gyfer siartiau'r Dolig. O hec.

Ar y llaw arall, mae'r comedïwr Steve Coogan a'i gwmni cynhyrchu Baby Cow yn bwriadu cyflwyno cyfres o dair drama-gomedi fer ar gyfer y BBC, gyda Bob Hoskins, Sheila Hancock a Rhys Ifans. Bydd y monologau hanner awr yr un yn cwmpasu rhywun sydd ar fin llofruddio neu am gael eu lladd eu hunain. Yn ‘Six Days One June', bydd Rhys Ifans yn chwarae rhan ffarmwr sy'n ceisio torri'n rhydd o'i deyrn o fam. Rhyw fath o Ffarmwr Ffowc gwaedlyd efallai? Mi fydd hi'n braf gweld y Br.Ifans ar y bocs unwaith eto, yn lle cael ei drin fel gwrthrych serch Sienna Miller gan y tabloids byth a hefyd.



Felly hefyd cyfres ddrama Sex and the Senedd (Caerdydd), sydd wedi cael mwy na'i siâr o sylw gan bapurau Lloegr oherwydd yr olygfa ‘sgwrsio' amheus yn nhai bach y Cynulliad. Sôn am wneud môr a mynydd a hysbys wych i'r sianel Gymraeg ac i gartref llywodraeth Cymru. Diolch i'r drefn nad golygfa gnychu Ryland Teifi a Sue Roderick a gafodd sylw, a oedd yn ddigon i wneud i rywun droi at bali Heartbeat ar nos Sul!

Read more...
Posted by Gog y Cwm at 19:46:14 | Permanent Link | Comments (0) |

Tuesday, 03 July 2007

Doctor Minogue

 

"Especially for you" gan Dai a Kylie - yn eich siop recordiau leol Nadolig 2007 

Newydd da o lawenydd mawr! Bydd Cymraes alltud enwocaf Maesteg yn serennu mewn pennod arbennig o Doctor Who y Nadolig hwn, Voyage of the Damned. Yn ôl si papur newydd Ddy Syn, fe fydd hi'n actio rhan gweinyddes ar fwrdd llong y Titanic a welwyd yn taro yn erbyn y Tardis ar ddiwedd pennod ola'r gyfres ddiweddara nos Sadwrn 31 Mehefin - a ddaeth i ben gyda golygfeydd eto fyth o Ganolfan y Mileniwm a'r bur hoff Fae, a 9 miliwn o wylwyr selog. Cadwch lygad allan am David Tennant a Miss Minogue yn ddiweddarach y mis hwn, pan fydd strydoedd Caerdydd yn cael eu 'Doligeiddio. Mae'r sgwennwr Russell T Davies yn addo mai hon fydd "pennod Nadolig gorau a mwyaf uchelgeisiol hyd yma". Edrych 'mlaen yn eiddgar...

A thra bod Kylie yn stiwdios Llandaf, beth am ymddangosiad arbennig ar Pobol y Cwm noson Dolig, fel ffrind Cai ag Emma o Oz bell?

Yn y cyfamser, mae'r chwaer gyfres Torchwood (aka CSI Cardiff) wedi codi gwrychyn y Cêdiffians. Bnawn Sul diwetha, aeth BBC Wêls ati i fomio hen lys barn ar Stryd Westgate, nepell o Stadiwm y Mileniwm. Hynny prin deuddeg awr ar ôl digwyddiadau dramatig maes awyr Glasgow. Clyfar iawn(!) Cawn weld ffrwyth eu llafur ffrwydrol ar BBC2 ryw ben flwyddyn nesaf.

Y Bib yn creu llanast - a helynt - ar Stryd Westgate, Caerdydd

A thra 'mod i wrthi, yn tydi'r cyfryngau wedi mynd dros ben llestri braidd efo terfysgwrs drama Llundain a Glasgow?  Wrth bendilio o BBC News 24 i Sky News ddydd Sadwrn, roedd penawdau breision fel "TERROR ATTACK ON UK" yn fflachio'n ddramatig ar y sgrîn a'r cyflwynwyr sobor o ddifrifol yn ymddwyn fel petai "9/11" neu "7/7" arall newydd daro Prydain. Calliwch hogia. Mae gan bobl Prydain fwy o ofn cael eu mygio ar y ffordd adref, sy'n fygythiad llawer mwy real na bomia-gneud nytars Islamaidd. 

O leiaf mae hanesion yr hulpan Paris Hilton wedi diflannu o'r newyddion teledu am y tro...

Read more...
Posted by Gog y Cwm at 21:06:44 | Permanent Link | Comments (0) |