Beth yw'r pwynt (i bwynt)?
Dyma roi'r hen ragfarnau o'r neilltu am y tro, a dilyn rasys Lydstep ger Dinbych-y-pysgod - pumed cyfarfod pwynt-i-bwynt de a gorllewin Cymru. Ac os nad oeddwn i'n frwdfrydig, o leiaf roedd gan y cyflwynwyr Brychan Llŷr a Shân Cothi hen ddigon ohono fel marchogwyr o fri sy'n rhannu stablau ym mro Ogwr. Cawsom ein tywys o amgylch y cwrs cyn ras fawr Lydstep oedd â byd o wahaniaeth i feysydd Cas-gwent a Chaer. Yn syml, tir amaeth cyffredin gyda gwrychoedd a byrnau mawr fel pyst. Ac fel y dywedodd Brychan Llŷr, roedd angen ceffyl dewr a joci medrus (neu honco bost) i garlamu hyd at 40 milltir yr awr i fyny ag i lawr y cwrs. Ac yna uchafbwyntiau'r rasys gwahanol i ferched a dynion a nofis, gyda sylwebaeth ddramatig Wyn Gruffudd a Brychan Llŷr a'i dafod yn y boch braidd wrth i farchogwr anffodus gael ei hyrddio i'r llawr: "Druan â Wil, fydd e ddim yn blês iawn â 'nny". Na finna' chwaith, petai dwsinau o garnau gwyllt yn neidio am y gorau dros fy mhen!
Roedd Shân Cothi yn amlwg yn ei helfen un sydd eisoes yn gyfarwydd ar raglenni Sioe Fawr Llanelwedd bob haf. Cyfeiriodd at yr holl gymeriadau lleol sy'n rhan annatod o'r sin pwynt-i-bwynt, ac sy'n dilyn rasys y tymor o lefydd mor amrywiol â Chilwendeg a Thredegar. Trueni, felly, na chafwyd mwy o sgwrs gyda'r cymeriadau hynny ac eithrio'r ddau ffarmwr fflyrtlyd oedd wedi mopio gyda Davina Con Passionate! Trueni hefyd am iaith y rhan fwyaf o'r cyfweliadau. Gyda jocis fel Isabel Tomprett a Lucy Pearse Rowsell wrthi, mae'n amlwg nad oedd y Gymraeg ar garlam yn y maes hwn.

