Friday, 25 April 2008

Cysurwrs Job


Un o ffans swnllyd a meddw Joe Calzaghe yn Vegas


Dyma ni, chwarter ffordd drwy'r flwyddyn sydd eisoes yn dipyn o glasur. Rhwng y paffiwr o Drecelyn, pencampwr dartiau o Ddinbych a'r gantores o Nefyn, Camp Lawn annisgwyl, dathliad dwbl Abertawe, a'r Bluebirds yn hofran i Wembley, ry'n ni'n prysur adael ein hôl ar y byd. Draw dros yr Iwerydd, mae Matthew Rhys yn mynd o nerth i nerth yng nghyfres boblogaidd Brothers & Sisters (E4, bob nos Sul) ac mae buddugwyr BAFTA Gavin and Stacey wrthi'n addasu'r fformat hynod lwyddiannus ar gyfer sianel NBC America. Mae Torchwood ("CSI Cardiff") yn fwy poblogaidd na Doctor Who ar BBC America, tra bod gwylwyr o Siapan i Seland Newydd yn dilyn anturiaethau Tennant a Tate yn y Tardis. Ac mi glywaf eiriau ‘International Velvet' Catatonia yn fy mhen...

Ond howld on Now Jon. Mae un neu ddau sy'n mynnu rhoi stop tap ar y siampên. Ac nid Saeson nac Albanwyr cenfigennus mohonynt chwaith. Y cyntaf yw'r actor o Ferthyr, Richard Harrington. Wrth siarad â'r Western Mail wythnos diwethaf, dywedodd nad yw Doctor Who wedi cael fawr ddim effaith ar y diwydiant yng Nghymru, a bod y cynhyrchwyr yn mewnforio criw Llundain i weithio arni yn stiwdios anferthol Trefforest. Waeth iddi fod wedi'i gosod ym Mirmingham, meddai. Hyn gan actor sydd wedi gorfod mabwysiadu acen Seisnig ar gyfer ei ran yn Holby Blue. Yr ail gysurwr Job yw Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad. Yn lle ymfalchïo yn llwyddiannau'r awdur Russell T Davies a Phennaeth Drama BBC Cymru, Julie Gardner, fe alwodd Ieuan Wyn Jones ar Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC i sicrhau bod mwy fyth o ddramâu gwreiddiol yn hanu o Gymru.

Haws dweud na gwneud, fel y sylweddolais ar gwrs sgriptio yng Nghaerdydd dros y Sul. Un o'r uchafbwyntiau oedd sesiwn gyda'r awdures ysbrydoledig Lucy Gannon a greodd gyfresi poblogaidd fel Peak Practice a Soldier Soldier pan oedd gan ITV adran ddrama gwerth sôn amdani. A gwnaf, mi wnai faddau iddi am ddod â  Robson a Jerome i'r byd. Yn frodor o Swydd Derby, mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Aberteifi ac wedi dotio at ei hwyresau'n parablu'n braf yn Gymraeg. Dywedodd ei bod ar dân eisiau gwerthu cyfres ddrama am y Gymru gyfoes i brif gomisiynwyr BBC ac ITV... ond yn ofer. I ben (bach) bandits y rhwydweithiau, dyw drama Gymreig ddim ar frig eu hagenda ar hyn o bryd. Teg edrych tua Llundain a Manceinion yw hi o hyd i rai..

Falle bod y Cysurwrs Job nes ati wedi'r cwbl.


Posted by Gog y Cwm at 19:58:57 | Permanent Link | Comments (0) |
Comments
Write a comment