Friday, 25 April 2008

Cysurwrs Job


Un o ffans swnllyd a meddw Joe Calzaghe yn Vegas


Dyma ni, chwarter ffordd drwy'r flwyddyn sydd eisoes yn dipyn o glasur. Rhwng y paffiwr o Drecelyn, pencampwr dartiau o Ddinbych a'r gantores o Nefyn, Camp Lawn annisgwyl, dathliad dwbl Abertawe, a'r Bluebirds yn hofran i Wembley, ry'n ni'n prysur adael ein hôl ar y byd. Draw dros yr Iwerydd, mae Matthew Rhys yn mynd o nerth i nerth yng nghyfres boblogaidd Brothers & Sisters (E4, bob nos Sul) ac mae buddugwyr BAFTA Gavin and Stacey wrthi'n addasu'r fformat hynod lwyddiannus ar gyfer sianel NBC America. Mae Torchwood ("CSI Cardiff") yn fwy poblogaidd na Doctor Who ar BBC America, tra bod gwylwyr o Siapan i Seland Newydd yn dilyn anturiaethau Tennant a Tate yn y Tardis. Ac mi glywaf eiriau ‘International Velvet' Catatonia yn fy mhen...

Ond howld on Now Jon. Mae un neu ddau sy'n mynnu rhoi stop tap ar y siampên. Ac nid Saeson nac Albanwyr cenfigennus mohonynt chwaith. Y cyntaf yw'r actor o Ferthyr, Richard Harrington. Wrth siarad â'r Western Mail wythnos diwethaf, dywedodd nad yw Doctor Who wedi cael fawr ddim effaith ar y diwydiant yng Nghymru, a bod y cynhyrchwyr yn mewnforio criw Llundain i weithio arni yn stiwdios anferthol Trefforest. Waeth iddi fod wedi'i gosod ym Mirmingham, meddai. Hyn gan actor sydd wedi gorfod mabwysiadu acen Seisnig ar gyfer ei ran yn Holby Blue. Yr ail gysurwr Job yw Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad. Yn lle ymfalchïo yn llwyddiannau'r awdur Russell T Davies a Phennaeth Drama BBC Cymru, Julie Gardner, fe alwodd Ieuan Wyn Jones ar Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC i sicrhau bod mwy fyth o ddramâu gwreiddiol yn hanu o Gymru.

Haws dweud na gwneud, fel y sylweddolais ar gwrs sgriptio yng Nghaerdydd dros y Sul. Un o'r uchafbwyntiau oedd sesiwn gyda'r awdures ysbrydoledig Lucy Gannon a greodd gyfresi poblogaidd fel Peak Practice a Soldier Soldier pan oedd gan ITV adran ddrama gwerth sôn amdani. A gwnaf, mi wnai faddau iddi am ddod â  Robson a Jerome i'r byd. Yn frodor o Swydd Derby, mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Aberteifi ac wedi dotio at ei hwyresau'n parablu'n braf yn Gymraeg. Dywedodd ei bod ar dân eisiau gwerthu cyfres ddrama am y Gymru gyfoes i brif gomisiynwyr BBC ac ITV... ond yn ofer. I ben (bach) bandits y rhwydweithiau, dyw drama Gymreig ddim ar frig eu hagenda ar hyn o bryd. Teg edrych tua Llundain a Manceinion yw hi o hyd i rai..

Falle bod y Cysurwrs Job nes ati wedi'r cwbl.

Posted by Gog y Cwm at 19:58:57 | Permanent Link | Comments (0) |

Clod a bri a bonc!

 

Llongyfarchiadau gwresog i G&S ar ennill dwy wobr BAFTA, am y perfformiwr comedi orau a thlws y gwylwyr - tipyn o gamp i raglen a ddatblygodd o fod yn dipyn o gwlt ar sianel leiafrifol BBC Three i ennill calonnau'r mwyafrif. A thra 'mod i'n croesawu hyn, efallai bod lle i boeni am boblogrwydd rhyfeddol y sioe. Eisoes, mae deiseb ar Gweplyfr yn galw am drydedd gyfres er bod y crewyr yn gobeithio ffarwelio gyda rhifyn Nadoligaidd; tôn ffôn hynod boblogaidd "Oh, what's ocurring?" a'r son arswydus fod Bryn a Nessa (Rob Brydon a Ruth Jones) am ryddhau'r sengl "Islands in the Stream" ar gyfer siartiau'r Dolig. O hec.

Ar y llaw arall, mae'r comedïwr Steve Coogan a'i gwmni cynhyrchu Baby Cow yn bwriadu cyflwyno cyfres o dair drama-gomedi fer ar gyfer y BBC, gyda Bob Hoskins, Sheila Hancock a Rhys Ifans. Bydd y monologau hanner awr yr un yn cwmpasu rhywun sydd ar fin llofruddio neu am gael eu lladd eu hunain. Yn ‘Six Days One June', bydd Rhys Ifans yn chwarae rhan ffarmwr sy'n ceisio torri'n rhydd o'i deyrn o fam. Rhyw fath o Ffarmwr Ffowc gwaedlyd efallai? Mi fydd hi'n braf gweld y Br.Ifans ar y bocs unwaith eto, yn lle cael ei drin fel gwrthrych serch Sienna Miller gan y tabloids byth a hefyd.



Felly hefyd cyfres ddrama Sex and the Senedd (Caerdydd), sydd wedi cael mwy na'i siâr o sylw gan bapurau Lloegr oherwydd yr olygfa ‘sgwrsio' amheus yn nhai bach y Cynulliad. Sôn am wneud môr a mynydd a hysbys wych i'r sianel Gymraeg ac i gartref llywodraeth Cymru. Diolch i'r drefn nad golygfa gnychu Ryland Teifi a Sue Roderick a gafodd sylw, a oedd yn ddigon i wneud i rywun droi at bali Heartbeat ar nos Sul!

Posted by Gog y Cwm at 19:46:14 | Permanent Link | Comments (0) |

Monday, 21 April 2008

Pwy sy'n perthyn?

Ar ôl plastro'r papurau newydd a hysbysebion lu ar y bocs, gan gynnwys benthyca broliant Jonzey ar Radio Cymru ("o Gymru, i Gymru, gan Gymru, efo un neu ddau o Gymry"), dychwelodd Doctor Who i'n dychryn a'n diddanu bob nos Sadwrn. Ac er 'mod i'n amheus o'r gomedïwraig Catherine Tate yn gymar i David Tennant, roedd hi'n dda ym mhennod fendigedig Pompeii wythnos diwethaf. Mae rhai'n dal i hiraethu am Rose (Billie Piper), a'm nai bum mlwydd oed yn ymwybodol nad oes lle i Martha (Freema Agyeman) yn y Tardis mwyach. Er hynny, trodd 8.4 miliwn o'r ffyddloniaid i wylio'r bennod gyntaf - sy'n ffigur da, er nad cystal â'r record o 13 miliwn a welodd Tom Baker wrth y llyw ym 1979.  

Croesawyd cyfres boblogaidd arall o stabl BBC Wales wythnos diwethaf hefyd. Mae Belonging yn ôl gyda'r gymysgedd arferol o helbulon a hiwmor iach pobol y cwm - gyda golygfeydd a deialog tipyn mwy coch na fersiwn Cwmderi. Mae'n anodd credu mai'r flwyddyn nesaf fydd degfed pen-blwydd y gyfres, a fydd yn ffarwelio gyda ffilm arbennig yn ôl y sôn. Efallai y bydd mwy o'r Lewisiaid, teulu craidd y cyfresi gwreiddiol, yn dychwelyd i'w cynefin bryd hynny gan mai dim ond Ceri Lewis (Eve Torchwood Myles) a'i mab Jake sy'n byw ym Mryncoed bellach. On'd oedden nhw'n ddyddiau da, gyda'r penteulu Margaret Lewis yn codi stŵr wrth garu â motobeiciwr ifanc, a'r triongl serch rhwng Ruth Lewis, ei merch a Moz! Collais rywfaint o ddiddordeb wedi chwalu'r teulu Lewis, a dyw cymeriadau newydd fel Des ag Asbo (Rebecca Harries, neu Sali Mali mewn hwdi!) a theulu'r dafarn heb gydio gymaint. Efallai ei bod hi'n ddoeth dod â'r cyfan i ben yn ei flas.

Gwahaniaeth arall rhwng hon a'r gyfres wreiddiol yw'r prinder enwau ‘mawr' o Loegr. Gyda Gwen Taylor (Duty Free), Charles Dale (Coronation Street) a Jesse Birdsall (Eldorado druan) yn rhan o'r cast cychwynnol, y bwriad mae'n debyg oedd apelio at Brydain gyfan. Ond ar ôl sylweddoli nad oedd gan Lundain 'run iot o ddiddordeb fel arfer, daeth pen bandits Llandaf at eu coed a chanolbwyntio ar eu hactorion a'u cynulleidfa gynhenid. A dau o wynebau cyfarwydd y gyfres newydd yw cyn-actorion Pobol y Cwm - gyda Jason/Rhys ap Hywel yn denu sylw'r merched lleol fel hyfforddwr ffitrwydd; a'r Parch Sabrina/Gillian Elisa yn hanner borcyn ar wely massage. Dim gair wrth Sara ac Anti Marian!



Wil a Vanessa (William Thomas a Di Botcher)

Posted by Gog y Cwm at 19:27:23 | Permanent Link | Comments (0) |

Sunday, 13 April 2008

Cwm Llwm?

Mae'r sianel ddigidol arfaethedig yn yr iaith Aeleg, ffrwyth partneriaeth rhwng BBC Alba a Seirbheis nam Meadhanan Gàidhlig, eisiau sioe sebon newydd - rhywbeth tebyg i Machair a ddarlledwyd ar STV rhwng 1992-96. Wrth gwrs, mae'r syniad o ddefnyddio opera sebon fel asgwrn cefn sianel deledu yn hen, hen syniad, ac yn dacteg effeithiol fel porth i ddenu pobl i wylio rhaglenni eraill y sianel honno. Ond mae'n ymddangos fod goruchafiaeth Pobol y Cwm fel prif raglen S4C yn dechrau edwino. Mae'r ffigurau gwylio diweddaraf am yr wythnos hyd at 16 Mawrth yn dangos mai Codi Canu ddaeth i'r brig, er gwaetha shambyls sain y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm; yna'r gyfres ddrama ryfeddol o boblogaidd Teulu (mae priodas yn garantîd o ddenu); a chyfres natur epig Iolo Williams. Digon teg, castiau criw Cwmderi oedd pump o raglenni mwyaf poblogaidd y Deg Uchaf (ynghyd â ffigurau ailddarlledu'r pnawniau canlynol ac omnibws y Sul), ond roedd adeg pan arferai penodau unigol ddenu dros gan mil yn gyson - a nod rhaglenni eraill oedd curo PYC. Bellach, mae Dai Jôs yn fwy poblogaidd na Dai Ashurst bob tro y ceir cyfres newydd o Cefn Gwlad. Dyma'r Deg Uchaf:

1. CODI CANU             (SUL)                          101,000

2. TEULU                    (SUL)                          100,000

3. NATUR CYMRU         (LLUN)                         94,000

4. POBOL Y CWM         (IAU)                           85,000

5. POBOL Y CWM         (MERCHER)                   76,000

6. POBOL Y CWM         (LLUN)                         76,000

7. POBOL Y CWM         (GWENER)                    71,000

8. JONATHAN               (GWENER)                   69,000

9. CERYS NôL ADRE       (MAWRTH)                  65,000

10. POBOL Y CWM         (MAWRTH)                  63,000

Dim lladd er mwyn lladd ar PYC ydw i. Yn wir, hon yw'r unig sioe sebon dwi'n ei gwylio'n rheolaidd bellach. Mae straeon difyr y dyddiau hyn yn cynnwys perthynas gymhleth Nesta/Hywel/Ffion, carwriaeth Kevin a Sheryl, y Deri ar ei newydd wedd, a chymeriadau newydd fel Gaynor Evans, pennaeth Ysgol y Mynach a'i ddwy ferch (sy'n actoresau syndod o dda, o gofio'r plant prennaidd sydd fel arfer yn bla ym myd sebon). Ac mae'n braf croesawu Eileen (Sera Cracroft) yn ôl i Benrhewl. Ar y llaw arall, mae cymeriadau wedi gadael Cwmderi fel y Marie Celeste yn ddiweddar, rhwng Stacey, Julie, Kath, Jason, Katie, Erin a Sabrina; ac mae ganddi'r arferiad anffodus o gyflwyno cymeriadau o nunlle a'u hanfon i dir neb wedyn - Evie a Rhian Haf sy'n dod i'r cof. Ac mae 'na golli cyfle a photensial aruthrol gyda chymeriadau cryf eraill, fel yr archddihiryn Ieuan Griffiths a'i wraig Hazel. Er gwaetha'r gwelliannau mawr, mae arna i ofn fod PYC wedi colli lot fawr o'r ffyddloniaid ers canol y nawdegau, pan roedd Cwmderi'n gartref i gangstyrs, gwerthwyr cyffuriau a lapddawnswyr. Neu efallai bod trefniant seiloffon-a-phiano-plant-Yamaha uffernol Owen Powell (Mr Waw Ffactor, gynt o Catatonia) o'r arwyddgan yn ddigon i wneud i bobl droi am Deadenders.



Posted by Gog y Cwm at 11:40:30 | Permanent Link | Comments (0) |

Saturday, 12 April 2008

Aberstalwm

Does dim esgus i hen ffrindiau fod yn ddiarth yn oes Facebook. Ac mae'r Sesiwn Fawr, y Sioe a'r Steddfod yn gyrchfan wych i hen gyfeillion bob blwyddyn. Ond pe bawn i'n cael gwahoddiad i fynychu aduniad ffurfiol, dweud diolch ond dim diolch fyddwn i. Achos mae'r syniad o aduniad ysgol yn codi ofn arna'i. Ofn y byddai'r holl brofiad yn groes i'r disgwyliadau, ac yn diweddu'n siom aruthrol. Pwy sydd wedi ysgaru, pwy sydd wedi'i heglu hi o'r ardal, a phwy sydd wedi dod allan i'r byd a'r betws fel Tori. A 'sdim byd gwaeth na chriw o bobl wedi twchu/gwynnu yn ceisio ail-fyw dyddiau ieuenctid ffôl. Ond wnaeth hynny ddim rhwystro Alan Wyn Jones. Yr her oedd dod o hyd i hogia 11 oed a oedd yn cadw reiat o flaen y camera ar ddiwrnod ola'r tymor wrth i ddrysau Ysgol Penrallt, Pwllheli gau am y tro olaf ugain mlynedd yn ôl. Hynny ymhell cyn helynt cau ysgolion Gwynedd heddiw...

Mae'r syniad y tu ôl i Lle Aeth Pawb? (Cwmni Da) yn un eithaf syml, ac am unwaith, yn wreiddiol i S4C. Canfod hen lun, a chanfod y stori y tu ôl i'r llun. A dyma ddilyn Alun yn ceisio casglu criw'r llun gwreiddiol ynghyd, trwy biciad i'r dafarn leol neu bori drwy hen gofrestr ysgol, a ffonio ffrindiau eraill yng ngŵydd y camera - hen dric gwael y cynhyrchwyr i'n siarsio eu bod yn sgwrsio ar hap. Daeth yr hogs i'r fei fesul tipyn - y rhan fwyaf yn dal i fyw yn eu milltir sgwâr ("hogia Dre Pwllheli"), eraill wedi bwrw gwreiddiau cyn belled â Southampton, Lloegr, a De Dakota, yr Unol Daleithiau. Roedd Richard bellach yn dysgu yn ei hen ysgol uwchradd, ac Abner y ffarmwr braidd yn anghysurus wrth ddychwelyd i safle'r hen ysgol a oedd yn wrthun iddo ers talwm. Ond y cymeriad mwyaf diddorol oedd Wil, labrwr di-waith o Garndolbenmaen, a'r unig un a siaradodd yn onest o flaen camera mewn gwirionedd. Tra'r oedd eraill yn trafod pynciau saff, hapus, fel priodi a'r plantos, roedd Wil yn wahanol. Roedd wedi colli sawl cyfle mewn bywyd, meddai. Difarodd beidio â gwneud cystal yn yr ysgol, a pheidio ag ymuno â'r fyddin er mwyn plesio'i rieni. Cafodd bwl o iselder. Ond gyda help Dewi ei fab saith oed, pêl-droediwr o fri, dywedodd fod ganddo rywbeth i edrych ymlaen ato. Cafwyd awgrym o dristwch arall hefyd, yn achos disgybl disglair fu farw ar y môr. Ond ni ymhelaethwyd ymhellach i hynny, gan i'r rhaglen ganolbwyntio'n hytrach ar y criw 30 oed yn stumio o flaen camera i'r un ffotograffydd eto. Wedi'r cwbl, dyddiau hapus yw dyddiau ysgol i fod ynte? Ond ar ôl i'r criw camera adael, a'r hogia' wedi gorffen hel straeon a'r caniau cwrw, 'sgwn i faint o gysylltiad fydd rhyngddynt eto?

Posted by Gog y Cwm at 18:58:15 | Permanent Link | Comments (1) |

O Eurovision i Wembley

Mae James Fox wedi cyfansoddi cân bop i ysbrydoli'r Bluebirds ar eu hymweliad cyntaf â rownd gynderfynol Cwpan Lloegr ers 81 o flynyddoedd. Wel, mae o wedi cyfansoddi cân o leia. Pwy meddach chi? Wel, y canwr enwog o'r Bargod Cwm Rhymni siŵr iawn. Dal ddim callach? Hwnnw ddaeth yn bumed ar sioe dalent y Bîb, Fame Academy, 2003; cyn mynd ymlaen i chwifio baner Jac yr Undeb yn Eisteddfod yr Iwrofishyn yn Istanbul 2004 - a dod yn 16eg allan o 24ain am ei drafferth!! Ac ar ôl clywed "Bluebirds Flying High" ar sioe radio Ar y Marc bore 'ma, y peth cyntaf sy'n dod i'r meddwl ydi cyfuniad o arwyddgan Neighbours a chachbeth Rhydian Bowen enillodd Cân i Gymru ychydig flynyddoedd yn ôl. Barnwch drosoch eich hun yma.


 

Posted by Gog y Cwm at 18:46:05 | Permanent Link | Comments (0) |

Drama dda, amseru gwael

Sut mae hi acw ar nos Sul? Sgwennu traethawd neu adroddiad eiliad olaf erbyn drannoeth, smwddio crysau'r wythnos, neu swpera ar y soffa ar frechdanau cig oer amser cinio? Ac ar y teledu, dewis o ganu mawl gydag Aled Jones ac addasiad Jane Austen-aidd arall ar y Bîb. Draw ar ITV, drama arwynebol mewn 'sbytu neu orsaf heddlu yn y 1960au a giamocs rhyw "sêr" honedig ar lawr sglefrio. A'n Sianel hoff? Canu mawl efo Hywel neu Alwyn, rhaglen ling-di-long am fyd natur, a chyfres ddrama ganol-y-ffordd, saff, am...ym, cyfryngis yn snwffian cocên, campau carwriaethol merch ifanc a dyn ddwywaith ei hoed, a gwas priodas yn lapswchan efo brawd-yng-nghyfraith y priodfab.

Ydy, mae criw Caerdydd (Fiction Factory) yn ôl am gyfres newydd o ddeg pennod. Tra mod i'n croesawu hyn, dwi'n cwestiynu amseru S4C. Roedd hi wedi'i theilwra'n berffaith i slot ‘ieuenctid' nos Iau gynt gyda Bandit ac ati. Ond tydi antics trigolion y ddinas fawr ddrwg ddim yn apelio at bawb o bell ffordd, yn enwedig cynulleidfaoedd traddodiadol, craidd, S4C. Y Palmant Aur a'u tebyg sy'n plesio ar nosweithiau Sul, nid palmentydd tyllog Ciardiff. 

Serch hynny, mae Caerdydd wedi dod i oed ers y gyfres simsan gyntaf, ffrwyth partneriaeth aflwyddiannus rhwng Fiction Factory a chwmni teledu Gwyddelig. Y syniad gwreiddiol oedd gosod y ddrama yng Nghaerdydd a Dulyn. Cafodd y BBC brofiad tebyg wrth geisio gefeillio Pobol y Cwm â'r sebon Wyddeleg Ros na Rún, gyda'r nod o ddod â chriw o Galway i Gwmderi cyn i'r syniad fynd i'r gwellt - cwlwm Celtaidd myn diân i!.

Gyda sgriptiau Cymraeg gwreiddiol yn lle cyfieithiadau, a chymeriadau sydd wedi hen ennill eu plwyf, mae yna well siâp ar y drydedd gyfres. Nid bod y cymeriadau i gyd yn neis ar y naw chwaith. Mae Elen (Rhian Green) wedi datblygu o fod yn fyfyrwraig beniog y cyfresi cyntaf i fod yn gyfryngast ystrydebol sy'n anffyddlon i'w chymar a'i chyn-ddarlithydd coleg, Mike (Julian Lewis Jones). Mae Peter (Ryland Teifi) yn mynd ar chwâl wrth golli gafael ar ei deulu bregus, gyda'i frawd dan glo a'i chwaer yn ceisio torri'n rhydd oddi wrtho. Teimlad cymysg sydd gennyf o ddawn actio Ryland Teifi, sy'n dueddol o WEIDDI EI LINELLAU'N ORDDRAMATIG ar brydiau. Ond hei, mae'n debyg ei fod yn ffefryn gyda'r ledis, felly pwy ydw i i farnu?

Ond y gorau o bell ffordd yw Osian (Gareth Pierce), sydd wedi ffeirio'i barchus arswydus swydd yn y Cynulliad am y casino ac sy'n dechrau magu hyder o'r diwedd. Ar ôl dioddef gweld ei dad ei hun yn bachu merch ei freuddwydion, mae'r ci tawel hwn yn dechrau brathu o'r diwedd. Da'r hogyn.





Byddai'n brafiach gweld mwy o amrywiaeth y prif gymeriad hefyd - Caerdydd. Does dim hanner digon o olygfeydd o eiconau'r brifddinas, o Barc Cathays i Barc y Rhath, Stryd Womanby a'r City (Shitty?) Arms, Heol y Frenhines a Heol Eglwys Fair. Fel arall, waeth i'r fflatiau drudfawr a digymeriad fod ym marina Abertawe neu Ddoc Fictoria Caernarfon ddim.

   
Posted by Gog y Cwm at 18:14:30 | Permanent Link | Comments (0) |

Wednesday, 02 April 2008

Yr Angel Ioan

Tra bod Matthew Rhys yn serennu yn y Stêts, a sianel ABC America wedi ordro trydedd gyfres o'i ddrama boblogaidd, mae ei gyn-fflatmêt yn dawel ar y naw. Heblaw am ffilmiau Fantastic Four, be'n union mae'r llanc o Lwytgoed yn ei wneud yn LA?

Wel, mae'n debyg fod Ioan Gruffudd wedi cael y brif ran mewn cyfres ddrama newydd sbon ar sianel CBS, o'r enw The Meant to Be's - drama ramantus lle mae Mr Gruffudd yn fentor neu'n dywysydd i angel sy'n dychwelyd i helpu ni feidrolion y Ddaear i wella'n bywydau. Wel, meidrolion Americanaidd o leiaf. Rhyw fath o Highway to Heaven ar gyfer yr 21ain ganrif efallai, cyfres oedd 'mlaen ar bnawniau Sul ar HTV flynyddoedd yn ôl.

Mae'n swnio'n eithaf tebyg i gyfres gartwnaidd Anna Friel (Beth Jordache Brwcseid i chi a fi!) sydd ar y gweill ar ITV1, Pushing Daisies, am berchennog bwyty sydd a'r ddawn o ddod a phobl yn ôl o farw-fyw. O leiaf mae 'na wreiddioldeb yn perthyn i ddramâu Americanaidd y dyddiau hyn, yn wahanol iawn yr ochr yma i'r ‘Pond'. Epiliad sâl o gyfresi dramâu hirhoedlog yw'r norm ym Mhrydain, rhwng sbin-offs Casualty fel Holby City a Holby Blue. Beth nesaf? Holby High?! A'n gwaredo, mae gynnon ni'r sgrwtshbeth sebonllyd Waterloo Road yn barod.





Yr hwdi o Hollywood

Posted by Gog y Cwm at 19:03:09 | Permanent Link | Comments (0) |

Tuesday, 01 April 2008

Strange Glue

alt : http://www.youtube.com/v/sCht64VP3C0&hl=en
Ma' isio gras efo'r dechnoleg fodern weithiau. Roedd y bali blog wedi pwdu efo fi ddoe, ac yn chwarae Ffwl Ebrill wrth wrthod dadlwytho'r fideo fel ro'n i wedi'i obeithio. Hei lwc eto!


Posted by Gog y Cwm at 21:46:47 | Permanent Link | Comments (0) |