Monday, 31 March 2008

Canlyn Catatonia


application/x-shockwave-flash|http://www.youtube.com/v/sCht64VP3C0&hl=en|425|355|movie|http://www.youtube.com/v/sCht64VP3C0&hl=en|wmode|transparent|

Ychydig wythnosau'n ôl, daeth Cerys nôl adre ar S4C. Iawn, dwi'n gwybod 'mod i ar ei hôl hi braidd - ond i ffan hir oes fel fi, roeddwn i wrth fy modd. Un o'r cwestiynau a ofynnwyd iddi oedd ynghylch Catatonia, a ph'un a welwn ni aduniad ryw ben. Atebodd Cerys y byddai'n hoffi cael cyfle i berfformio caneuon eu halbwm olaf, Paper Scissors Stone, oherwydd iddynt chwalu cyn hyrwyddo honno'n iawn, atgoffodd bod angen sêl bendith y pedwar aelod arall hefyd. Go brin y bydd hynny'n digwydd gwaetha'r modd, gan fod ambell un yn dal dig tuag ati (oce ta, yn ddiawl o pisd off) am ddod â'r berthynas i ben mor ddisymwth ar 21 Medi 2001.

Er hynny, mae gan Catatonia le agos iawn iawn yn fy nghalon o hyd. A diolch i ÎwTiwbaidd, mae 'na glasuron o orffennol Cŵl Cymru ar gof a chadw. Ac wele perfformiad y band ar lwyfan Jools Holland ychydig flynyddoedd yn ôl, gydag un o'r caneuon serch gorau erioed gan un o'r grwpiau gorau erioed, Strange Glue...ond mi fuaswn i'n deud hynny baswn? Mwynhewch!

Posted by Gog y Cwm at 18:03:27 | Permanent Link | Comments (0) |

Friday, 28 March 2008

Y Doc, y Brawd a'r Canwr

Cofiwch yr amser a'r dyddiad - 6.20 o'r gloch nos Sadwrn, 5 Ebrill ar BBC One. Ydy, mae Doctor Who yn ôl am bedwaredd gyfres. Mae'r hysbysebion i'w gweld eisoes (gyda broliant BBC Wales yn benthyca slogan Jonezy Radio Cymru "o Gymru, i Gymru, am Gymru, dros Gymru" etc), a chryn edrych ymlaen am awran o ddihangfa lwyr. Ac eto, mae gen i f'ofnau ac amheuon ynglŷn â'r gyfres hon. Fel y dywedodd Siôn, fy nai bum mlwydd oed wythnos ddiwethaf, "dydi Martha ddim arno fo 'ŵan". Hen ben ar sgwydda' ifanc. Yn hytrach, Catherine Tate fydd cymar David Tennant eleni. Fel ddeudais i, mae gen i gryn amheuon ohoni. 'Sdim dwywaith ei bod hi'n berfformwraig gomedi heb ei hail - a dyna'r drwg falle. Roedd ei pherfformiad tafod-yn-y-boch ym mhennod Dolig 2006 (The Runaway Bride) yn adleisio ei chymeriadau comig yn ormodol, a ddim yn argyhoeddi. Ond dyna ni. Efallai y cawn ni'n siomi ar yr ochr orau. Fel arall oedd hi pan ymddangosodd Ceilliau Miniog (fel y bedyddiwyd Kylie gan fy mós ffraeth!) yn rhifyn Nadolig diwethaf. Ar ôl cymaint o edrych ymlaen, fe brofodd y benfelen fach pam nad yw wedi "actio" llawer ers gadael Ramsay Street.

Mi fyddai'n gwylio efo'r miliynau eraill, heb os... ond gyda rhywfaint o sinigiaeth y tro yma.




'Da ni'n 'bovvered' efo cymar newydd Doctor Who?


Newyddion drwg i ffans Matthew Rhys. Os oeddech chi'n un o ffyddloniaid (prin) Brothers and Sisters  llynedd (fel Anti Delythwen o'r swyddfa acw) mae Channel 4 yn mynd i brofi'ch amynedd i'r eithaf. Ar ôl cael eu siomi gyda'r ffigurau gwylio, a gwympodd o 2.22 miliwn am y bennod gyntaf i ryw 600,000 tua'r diwedd, mae'r bosys teledu wedi rhoi chwip dîn iddi trwy ddarlledu'r ail gyfres i slot marwaidd 11 o'r gloch nos Sul, 30 Mawrth, ar E4. O diâr. Efallai bydd gan Anti Delyth lygaid panda yn y swyddfa 'cw ar foreau Mawrth o hyn ymlaen...



Ac mae'r bumed sianel am wneud yr un peth i'm hoff gyfres gomedi ers oes pys, 30 Rock, trwy ei symud i'r is-sianeli digidol Five US/Five Life/Fiver yn ddiweddarach eleni. Diolch byth 'mod i wedi buddsoddi mewn Sky+ felly.


Pam, o pam eu bod nhw'n gwneud hyn? Beth yw'r pwynt talu symiau sylweddol ar fewnforion Americanaidd, dim ond i'w cuddio nhw yn oriau mân y bore wedyn? Efallai bod hyn yn rhatach na chynhyrchu dramâu a chomedïau cynhenid.



Newyddion gwell i ffans Cân i Gymru (ym, na, sgin i'm clem pwy 'da chi). Cyhoeddodd Uned 5 fod Aled Myrddin wedi cyrraedd y brig yn Dhún na nGall. Llongyfarchion eto, ond ble mae'r hanes ar newyddion radio a theledu Cymraeg? I feddwl bod S4C yn rhoi cymaint o fri i'r gystadleuaeth flynyddol â gwobr ariannol o £10,000; mae'r diffyg sylw i'r llwyddiant Celtaidd yn od ar y naw.

Posted by Gog y Cwm at 21:30:18 | Permanent Link | Comments (0) |

Thursday, 27 March 2008

Americana

 
O wel, dwi wedi ildio iddi. Ar ôl wythnosau o 'styried, oedi, ailfeddwl a phendroni, dwi wedi'i wneud o. Dwi wedi cyfrannu at goffrau Mr Murdoch trwy danysgrifio i Sky+. Ac er gwaetha'r costau cychwynnol (£99 ac yna pecyn gorfodol o leiaf £16 y mis), dwi wrth fy modd. Yn wahanol i'r hen beiriant fideo dlawd, dwi'n gallu recordio rhaglenni digidol bellach heb orfod stryffaglu chwilio am rif y sianel na chwilio a chwalu am dâp fideo gwag. Dwi'n gallu tapio pennod mewn chwinciad, a recordio cyfresi cyfan mewn cachiad. Mae'n debyg i sefyllfa'r ffôn lôn - sut gythgam oeddwn i'n dygymod cyn hyn?? Ac ar ben bob dim, mi ges i beiriannydd Sky Cymraeg ei iaith, sy'n ddigon o syndod yno'i hun heb sôn am 'lawr fa'ma yng nghymoedd y de.


 

alt : http://www.youtube.com/v/WcRr-Fb5xQo&hl=en


Un o gyfresi anhepgor Sky+ ar hyn o bryd yw Mad Men (bob nos Sul ar BBC4). Cyfres orwych gan Matthew Weiner, cynhyrchydd ac awdur cyfresi olaf The Sopranos, a enillodd dwy wobr Golden Globes 2007 am y ddrama orau, a'r actor gorau mewn drama deledu. Jon Hamm oedd yr actor dan sylw, a fo ydy Don Draper - un o gyfarwyddwyr asiantaeth hysbysebu Sterling Cooper, Madison Avenue, (sy'n esbonio teitl y gyfres) yn Efrog Newydd y 1960au. Byd o swyddfeydd myglyd, lle mae dynion croenwyn dosbarth canol yn rheoli yn y swyddfa a'r stafell wely, a lle mae'r merched yn sicr o'u lle fel ysgrifenyddesau a gwragedd tŷ. Byd o smocio sigarets Lucky Strike fel stemar ac wfftio adroddiadau'r Readers Digest am beryglon tybaco, byd y bariau coctel ac yfed a gyrru, byd lle mae pobl dduon yn gweithio yn y stafell gotiau ac yn glanhau'r tai bach. A'r cyfan yn digwydd ac yn dadlennu mewn ¾ awr hamddenol braf, lle nad yw'r cyfarwyddwr yn rhuthro o olygfa i olygfa nac yn ofni seibiau a golygfeydd hirion. Gwrthgyferbyniad llwyr i Dirty Sexy Money, sydd wedi'i ddileu o'm Sky+ er gwaethaf pedigrî actio fel Peter Krause (Six Feet Under) a Donald Sutherland, mewn drama-gomedi dros ben llestri am gyfreithiwr ifanc i deulu gwarthus o gefnog yn Efrog Newydd. Rhyw Dynasty ar speed, os leiciwch chi.




A chan fod y bali Bîb yn dal i chwarae mig hefo amserlen Damages, diolch byth fod gen i Sky+ i gofnodi gweddill y gyfres fendigedig hon sy'n prysur tynnu tua'i therfyn gwaedlyd. Gyda mwy o droadau annisgwyl na gwaith ffordd yr A470 ym Mlaenau Ffestiniog y dyddiau hyn, mae tynged y twrna ifanc Ellen Parsons (Rose Byrne) dan law'r arch-ast Patty Hews (Glenn Close) yn hoelio'r sylw o wythnos i wythnos.





Glenn Close a Rose Byrne 'Damages' - diawl o dîm da

Posted by Gog y Cwm at 22:40:02 | Permanent Link | Comments (0) |

Rhagrith y Bîb

Tra'r oedd gweddill y genedl yn ymfalchïo yn llwyddiant tîm Toshack yn Lwcsembwrg a Sarajevo neithiwr (26 Mawrth), roedd un pyndit poblogaidd yn fud. Cafodd Leighton James gerdyn goch gan Wales on Saturday ar ôl lladd ar y Bluebirds mewn colofn i'r South Wales Evening Post ac ar donfeddi Real Radio wedyn. Y cwbl wnaeth y Bonwr Leighton oedd gobeithio'r gorau i'w gyd Jac Abertawe, Simon Davey, rheolwr tîm Barnsley yn erbyn Cardiff City yn rownd gynderfynol Cwpan Lloegr yn Wembli. Dadl wantan bosys y Bîb oedd bod ei sylwadau'n groes i bolisi diduedd y Gorfforaeth Ddarlledu Seisnig (EBC).


Os felly, a wnawn nhw plîs wneud yr un peth i John Inverdale - cyflwynydd diduedd(!) rhaglenni Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a oedd wastad yn rhoi'r prif sylw i fethiannau Lloegr uwchlaw llwyddiannau Cymru. Efallai na ddylwn i boeni'n ormodol amdano, gyda sylwebaeth ganmil gwell ar S4C, ond mae'n siŵr ei fod yn mynd dan groen 80% o'r gwylwyr di-Gymraeg fyddai'n dueddol o wylio'r BBC. Anfonwyd gair o gŵyn at gadeirydd BBC Trust gan Chris Bryant, AS Cwm Rhondda sy'n siarad sens am unwaith yn ei fywyd. A chyn gêmau rhyngwladol neithiwr, roedd penawdau newyddion teledu a radio'r EBC yn neilltuo munudau lawer i ganfed cap David ‘dwi isio bod yn Syr' Beckham cyn rhoi mensh bach sydyn i'r Alban a hyd yn oed llai fyth i Gymru.


Mae'r ddadl hon mor hen â phechod wrth gwrs. Ond mae'n warthus nad oes diawl o ddim yn cael ei wneud ar gownt y peth.

 


Un rheol i hwn...
    


.... ac un arall i hwn.



Posted by Gog y Cwm at 21:16:09 | Permanent Link | Comments (0) |

Tuesday, 25 March 2008

Tra bo dau

alt : http://www.youtube.com/v/BBK2KhgslSo&hl=en
 

Dwi wedi canmol Gavin & Stacey i'r cymylau o'r blaen yn y tudalennau hyn. A chyda'r ail gyfres newydd ddychwelyd i lonni nosweithiau Sul ar BBC Three, mae'n esgus perffaith i roi mensh bach arall i'r perl o gyfres gomedi hon. Gyda chlod a bri gan y British Comedy Awards a'r South Bank Show Awards, a chynulleidfa deilwng o 1.7 miliwn ar sianel ddigidol leiafrifol, mae'n ymddangos fod y mis mêl yn parhau! A newydd ddychwelyd yn ôl o'u mis mêl y mae'r cwpl cariadus, yn syth i groeso mawr gan y ddau deulu a ffrindiau o'r Barri a Billericay, Essex. A'r tro hwn, mae gan y forwyn briodas (Nessa) a'r gwas priodas (Smithy) ran tipyn mwy amlwg fel darpar rieni anfoddog. Mae perthynas cas a chariad y ddau yn destun chwilfrydedd, gyda Nessa yn lleisio ei hofnau am y dyfodol yn ei ffordd gynnil arferol: "He's vile and he's English". Mae Smithy wedi pwdu gyda Gavin ei ffrind gorau am anwybyddu ei negeseuon a galwadau ffôn dros dair wythnos y mis mêl, a Stacey wedi pwdu efo'i mam am gynnig ei hen lofft i Nessa feichiog sydd ar hyn o bryd yn cydfyw gydag aelodau "The Distance" - band newydd tri aelod o Catatonia "and the little Welsh one from Hear'Say". Am ddelwedd hunllefus! Mae Uncle Bryn (Rob Brydon) yr un mor annwyl gyda'i obsesiwn trist â system llywio lloeren ei Citroën Picasso, a Pamela Shipman (Alison Steadman) yn dal i ddioddef bod yn llysieuwraig-cogio-bach er mwyn creu argraff dda ar y teulu-yng-nghyfraith o Gymru. Cymeriadau yr ydych chi'n malio amdanynt, pobl gyffredin â thwtsh o'r absẃrd sydd eto'n gredadwy; cyfres sy'n codi gwên heb orfod dibynnu ar iaith groch na chwarddiad ffals ar dâp. Ac yn ôl canolwr Cymru, Tom Shanklin, roedd ef a'i gydchwaraewyr wrth eu boddau'n gwylio fideos Gavin and Stacey wrth deithio ar fws y garfan i'r sesiynau hyfforddi. Dyna i chi bluen arall yn het y gyfres!

Go brin y caiff Llŷr a Manon gystal fis mêl. Daeth cyfres sebon y Sul, Teulu, i ben gyda'r briodferch yn gadael ei pharti nos er mwyn ymuno â'i brawd-yng-nghyfraith a'i gwir gariad wrth wely angau eu bos/tad siawns yn yr ysbyty. Wedi'ch drysu'n lân? Na phoener, bydd ‘Ewings' Aberaeron yn siŵr o gloddio mwy o dwll iddyn nhw'u hunain erbyn y gyfres nesaf. I mi'n bersonol, un o'r cymeriadau ar y cyrion oedd seren y sioe - Eirlys (Eiry Thomas), hen drwyn y feddygfa â'i thafod siarp sydd eto'n meddwl y byd o Dr John. Ac chyda phwy oedd fy nghydymdeimlad mwyaf? Cleifion y cylch wrth gwrs! A 'styried bod y staff naill ai'n rhy brysur yn slochian siampen ym Mhen-y-cei neu'n chwarae doctors a nyrsys efo'i gilydd, pa ryfedd fod stafell aros y feddygfa'n orlawn?!

Posted by Gog y Cwm at 20:17:03 | Permanent Link | Comments (0) |

Ailfyw'r Oes Aur?

 

Am Sadwrn bythgofiadwy. Gŵyr Gatland yn bachu'r bencampwriaeth ganrif ar ôl camp lawn gyntaf Cymru, a 30 mlynedd ers gornest debyg arall yn erbyn Ffrainc. Pawb yn rhyfeddu ar seren wib Shane, yn canmol capteiniaeth Ryan Jones, a thac-tics amddiffynnol Shaun Edwards mor gadarn â gafael haearnaidd China ar Tibet. A diwrnod emosiynol dros ben, o weld Manon a Gwenan Gravell yn camu i'r cae gyda thlws y Goron Driphlyg. Ac i'r rhai di-docyn o'n plith nad oedd am giwio am beint yng nghanol dilyw'r brifddinas, y teli bocs adre amdani. Diolch i griw'r Clwb Rygbi dan arweiniad solet Gareth Roberts, cafwyd darllediad cynhwysfawr o'r gic gyntaf tan y dathliadau tanllyd olaf - er y byddem wedi gwerthfawrogi llai o ddadansoddi/ail-ddangos clipiau'r gorffennol/lladd amser am awr cyn y gêm; a mwy o'r awyrgylch ar strydoedd Caerdydd gyda Sarra Elgan-Easterby a mwy o ganu ac adloniant o'r Stadiwm. Beth am opsiwn ‘botwm coch' ar ddigidol tro nesa, i glywed y corau'n diddanu'r dorf? A diolch hefyd (neu ddim diolch!) i Huw Eic am gyhoeddi mai Côr y Gogledd enillodd gystadleuaeth Codi Canu noson cyn y rhaglen ganlyniadau ei hun!

Wedi'r fuddugoliaeth fawr, roeddwn i'n edrych ymlaen at Noson Chis a Meinir (Cwmni Da) a oedd yn addo sgyrsiau difyr, caneuon a phytiau o'r archif am gerddor arbennig yr wythnos. A phan glywais mai'r trwbadŵr o Solfach oedd y cerddor dan sylw, dyma agor potel o gwrw Tomos Watkin a setlo'n eiddgar ar y soffa. Am siom. Yr hyn a gafwyd mewn gwirionedd oedd fersiynau cantorion eraill - Gwilym Morus, Lleuwen Steffan a'r ddau gyflwynydd - o rai o glasuron Meic Stevens. Oll wedi'u perfformio mewn clamp o stiwdio fawr glinigaidd â sgriniau teledu dan oleuadau glas llachar, byrddaid o bobl yma ac acw, braidd dim awyrgylch na chydberthynas rhwng Huw Chiswell a Meinir Gwilym, a cherddorfa fyw yn boddi'r lleisiau. Rhyw fersiwn awr o hyd o'r slot ar raglenni Bandit ers talwm, lle'r oedd ‘gwesteion arbennig' yn mwrdro clasuron roc a phop Cymraeg. Yn wir, (unig) uchafbwynt y rhaglen oedd y clip o Meic yn perfformio ‘Môr o Gariad' gyda'i gitâr mewn tafarn fyglyd ryw ugain mlynedd yn ôl. A chyda rhaglenni eraill y gyfres yn rhoi llwyfan i ganeuon Maffia, Endaf Emlyn, Tecwyn Ifan, Hogia'r Wyddfa, Edward H, Geraint Lövgreen ac Arfon Wyn, mae'n amheus gen i a fydd eu dilynwyr pybyr yn gwerthfawrogi'r ailbobiad hwn yn lle gweld a chlywed yr artistiaid gwreiddiol wrthi.

O leia ges i flas ar y cwrw.


 



Posted by Gog y Cwm at 20:03:52 | Permanent Link | Comments (1) |

Iolo a'r Adar Gleision

 

Ymddiheuriadau i Syr David Attenborough. Roeddwn i wedi bwriadu dilyn cyfres olaf prif naturiaethwr Prydain, Life in Cold Blood, ar y Bîb ond fe aeth fy ffobia yn drech na mi. Roedd un olygfa o'r sglyfath neidr yn ddigon i godi ias a pheri i mi newid sianeli. Does ryfedd 'mod i braidd yn betrusgar o wylio prif naturiaethwr Cymru, Iolo Williams, â'i gyfres newydd Natur Cymru ar nos Lun. Cyn belled nad oes unrhyw greaduriaid llysnafeddog yn ymddangos arni (y dywededig ffobia, nid Aelodau Cynulliad!), mae'n siŵr y trof i'w gwylio eto.




Mae 'na ôl gwario ar hon. O'r golygfeydd Hollywoodaidd o Iolo Williams (mewn trowsus oel, nid siorts cwta, sori ferched a
dynion!) yn sefyll yn dalog ar fryniau a dolydd Cymru, i'r ffrydiau dramatig a'r coedwigoedd yn garped o'r awyr, mae byd o wahaniaeth rhwng hon a'r cyfresi natur amaturaidd a ddarlledwyd yn nyddiau cynnar S4C Digidol. ‘Ffynnon Bywyd' oedd teitl y rhaglen gyntaf, yn dilyn taith afonydd a bywyd gwyllt o'r ucheldiroedd fel Pistyll Llanrhaeadr-ym-Mochnant i lawr i aberoedd y Cob a Chasnewydd. Rhaid canmol gwaith camera Steve Phillips, o'r glas y dorlan ifanc yn pysgota'n aflwyddiannus yn afon Gwy i'r gweision y neidr di-ri yng Nghors Caron. Cafwyd lluniau rhyfeddol o dan y llif hefyd, yn enwedig y llysywod pendwll yn sugno cerrig yr afon â'u cegau i greu llecyn dodwy - megis hŵfyr tanddwr! A draw ym Meirionnydd, llyffantod gwrywaidd yn cicio a chystadlu am y gorau i fachu'r rhai benywaidd - tebyg i nos Sadwrn yn y Bala. A hoffais gyfeiriad smala Iolo Williams at y creaduriaid "estron gwyllt" yn ymweld â Llyn Tegid gefn liw nos, s'yn cael effaith niweidiol ar y boblogaeth gynhenid. Na, nid haid o Brymis neu Sgowsars, ond mhinc - ymwelydd Americanaidd sy'n bla fel y wiwer lwyd, ac sy'n bwyta wyau a lladd cywion bach. Deuoliaeth byd natur felly, yn ei holl hagrwch a harddwch.


Er bod y sylwebaeth yn swnio braidd fel gwersi natur ysgol ers talwm ar adegau, does dim dwywaith fod Iolo Williams yn llefarydd tan gamp. Gyda'i mynegiant clir a chroyw, a'i sgwrsio lawn mor hamddenol â'i gerddediad, mae'n fonws mawr i'r dysgwyr a'r trwm eu clyw. Ond gyda'r holl enwau Cymraeg da ar bryfed, planhigion ac adar a daflwyd atom gydol y rhaglen - rhai enwau dieithr, rhaid cyfaddef - byddai'n braf petaem wedi'u gweld ar y sgrin wrth i Iolo sôn amdanynt, ynghyd â map o'r lleoedd dan sylw.


Braf gweld yr Adar Gleision yn hedfan yn hyderus tua Wembley ar Match of the Day (BBC) brynhawn Sul diwethaf. Diffodd sain y bocs bach a gwrando ar sylwebaeth Dylan Griffiths a Malcolm Allen ar Radio Cymru wnes i. Byddai'n wych o beth petai S4C a'r BBC yn cytuno ar ddarllediad Cymraeg o'r gêm gynderfynol hollbwysig. Wel, pwysig i bawb ond ffans Elyrch Abertawe efallai...

Posted by Gog y Cwm at 19:56:21 | Permanent Link | Comments (0) |

Jôc i Gymru

 

Glywsoch chi'r un am y Cymro uchelgeisiol, hapus, hyderus hwnnw oedd wastad yn gweld yr ochr orau i bopeth?

Naddo, na Rob Brydon chwaith. Oherwydd roedd gan y comedïwr o Abertawe ddelwedd negyddol ar y naw o'i gydwladwyr, fel pobl fythol besimistaidd, dan y felan, oedd bob amser ar bresgripsiwn tuag at ryw aflwydd neu'i gilydd. Ac yntau wedi byw yn Llundain ers bron i 20 mlynedd bellach, dychwelodd i'w famwlad i weld ai ffaith neu ffwlbri noeth oedd y rhagdybiaeth anffodus honno. Roedd Rob Brydon's Identity Crisis (BBC Four) yn daith bersonol, ddifyr, i ddyn mor ansicr o'i hun nes ei fod yn cwestiynu ei hunaniaeth bellach. Cymro neu Sais? Dyna chi gythraul o greisus Mr Picton! Gyda chymorth ei gyfaill Chris Corcoran, cyflwynydd Radio Wales a stand-yp poblogaidd, aeth ati i berfformio tair sioe lwyfan yn trin a thrafod Cymreictod, a chael gair o gyngor ar hyd y daith. Cafwyd barn amrywiol a diddorol, gyda Griff Rhys Jones yn cyfeirio at genedl groendenau sy'n chwilio am eiriau cysurlon ac yn ofn cael ein gwawdio, a John Davies Bwlch-llan yn beio'r traddodiad Piwritanaidd am ein pesimistiaeth gynhenid. Hoffais stori Nicky Wire i ategu hyn, am orfoledd y Manics o glywed fod eu sengl wedi cyrraedd  brig y siartiau Prydeinig; a sobri'n sydyn o sylweddoli iddynt werthu 20,000 yn llai o recordiau na'r targed gwreiddiol. Y gallu rhyfeddol i weld drwg ym mhob da, felly.

Er gwaetha'r darogan gwae gwreiddiol, cafodd Rob Brydon syndod gydag ymateb cadarnhaol cymaint o'i gyd-Gymry. Po fwyaf o amser a dreuliai ar yr ochr iawn i Bont Hafren, po fwyaf cadarnhaol y teimlai - a chanlyniad hynny oedd newid pwyslais ei sioeau comedi. Dechreuodd ddefnyddio'r un jôcs ond gydag agwedd llawer iachach, a llai o fychanu a lladd ar y Taffia. Ac wedi'r sioe olaf, cyfaddefodd Rob yn gwbl ddiffuant wrth ei gyd-actor Ruth Jones (Gavin & Stacey) fod y cyfan wedi bod yn brofiad rhyfeddol o bleserus, ac wedi aildanio ei falchder cenedlaethol a'i gariad at y Gymraeg. Rhaglen dda. Bechod fod y twmffat AA Gill wedi cael ei big wenwynllyd arferol ynddi hefyd. O wel, beryg mai fi sy'n rhy groendenau eto...

Wn i ddim ai chwerthin neu grïo dylwn i wneud gyda chystadleuaeth Cân i Gymru (Avanti). Pob clod i Aled Myrddin ar ei fuddugoliaeth haeddiannol, ond roedd yna berfformwyr ciami iawn ar lwyfan yr Afan Lido eleni - o gân bop am Hedd Wyn gan drydydd aelod o'r ‘Proclaimers', fersiwn Rhosllannerchrugog o Robert Palmer, a chyn-actores aflafar Pobol y Cwm. A faint o arian gafodd ‘panel o feirniaid' dibwrpas fel Rhys Mwyn a Catrin Finch i baldaruo am "safon uchel" pan roedd eu hwynebau'n amlwg y dweud fel arall. Nul points oedd hi'n tŷ ni beth bynnag.



£10,000 fel Manna o'r nefoedd i Aled Myrddin


  

Posted by Gog y Cwm at 19:49:13 | Permanent Link | Comments (0) |

…ni allaf ddianc rhag hon…

Mam ffantastig. Cenedlaetholwraig i'r carn. Gwraig sensitif a chymhleth. Areithydd llesmeiriol. Perffeithydd. Rhai o'r geiriau a ddefnyddiwyd i ddisgrifio un o ffigurau amlyca'r Gymru Gymraeg rhwng y 1950au a'r 80au cynnar, Jennie Eirian Davies. Ac yn y ddrama ddogfen Jennie (Cambrensis), cawsom gipolwg ar fyd a gwaith y wraig brysur, liwgar o Lanpumsaint a ddaeth i ben mor ddisymwth o drist ym 1982. Beth yn y byd a barodd i rywun a ymddangosai fel ymgorfforiad o barchusrwydd byd y Pethe - yn feirniad eisteddfodol, golygydd y Faner, Llywydd Merched y Wawr - i gymryd gorddos o dabledi a wisgi ym màth ei chartref? A minnau'n rhy ifanc i gofio'r stori'n iawn, dyma droi at y rhaglen hon am ychydig o atebion.

Cafwyd cyfuniad diddorol o atgofion gan gydnabod a chydweithwyr Jennie Eirian, monologau grymus gan Rhian Morgan, ac archifau llun a sain yr oes o'r blaen. Roedd hi bron yn cwmpasu hanes cythryblus Cymru a'r Gymraeg o'r 50au ymlaen, o'r funud y safodd yn enw'r Blaid yng Nghaerfyrddin gan "wneud mincemeat" o'r ymgeiswyr eraill gyda'i meddwl miniog. Gwraig yn cicio yn erbyn y tresi, yn mynnu torri ei chwys ei hun yn erbyn y sefydliad Cymraeg. Daeth hynny i'r amlwg mewn golygfa ddoniol o Jennie (Rhian Morgan) yn taranu'n erbyn Saunders a Gwynfor am gefnogi'r frenhiniaeth, wrth iddi bobi sponges a sgons yn ei chegin yn Aberdâr i gyfeiliant seremoni urddo'r frenhines Elisabeth ar y radio. Roedd hi ar dân eisiau cynnal "brwydr o brotest gwrthfrenhinol".


Roedd hi'r un mor ddiflewyn ar dafod pan gymrodd awenau wythnosolyn ‘Y Faner' ym 1979. Cyfeiriodd Emyr Daniel at gyffro newydd yn y wasg Gymraeg dan olygyddiaeth Jennie, cyn i'r berthynas rhyngddi hi a'i darllenwyr suro. Yn ôl Gwilym Owen, meiddiodd â siarad yn wahanol i'r dosbarth canol Cymraeg a dadlau yn erbyn sefydlu S4C rhag i'r iaith gael ei gwthio a'i chuddio mewn rhyw gornel. Roedd yr olygfa ohoni'n gyrru'r Beetle mewn tywydd stormus, a lleisiau'r cyfranwyr yn cofio'r dyddiau du yn drawiadol dros ben. Gyda thanysgrifwyr a chyfranwyr y cylchgrawn yn tynnu'n ôl, teimlai ei bod wedi cael ei hesgymuno. A dyna arwain at olygfa ola'r rhaglen. Ar ôl mynd â phaned i'w gŵr, clirio ar ôl y bechgyn, dywedodd ei bod yn mynd am fàth. Plygodd ei ffedog, a chlôdd ddrws y bathrwm ar y byd am byth. Roedd y ffedog yn ddelwedd amlwg, effeithiol, drwyddi draw - yn symbol o'r wraig weithgar, fyrlymus, oedd "ddim yn medru ymlacio" yn ôl Siôn Eirian ei mab.


Tybed beth fyddai ei barn am ddifaterwch ei chyd-Gymru, a diffyg cefnogaeth ei chyd-Bleidwyr, tuag at sefydlu'r papur newydd dyddiol heddiw? Go brin y byddai Jennie Eirian wedi cadw'n dawel ar y mater. Da ni'n dlotach hebddi.


 



Perfformiad BAFTAidd gan Rhian Morgan

Posted by Gog y Cwm at 19:40:09 | Permanent Link | Comments (0) |