Saturday, 23 February 2008

Camelod a Chalon Lân

Rhaid cyfaddef 'mod i'n hwyr yn ymuno ag ail gyfres Codi Canu (Al Fresco) eleni. Do, fe fwynheais i'r gyfres gyntaf oherwydd ei gwreiddioldeb a'i stamp Cymreig yng nghanol pla o raglenni realiti. Ond wnes i ddim trafferthu troi i wylio'r ail hyd yma, gan 'mod i'n disgwyl mwy o'r un peth a mwy o'r hen wynebau. Sy'n annheg braidd, achos roedd y bedwaredd raglen yn wahanol i'r arfer ac yn mynd â'r gystadleuaeth i lefel a hyd yn oed gwlad wahanol.

Ar ôl i gorau'r Gweilch a'r Sgarlets fod yn cerdd dantio (cr'aduriaid), a'r Gleision yn llwyddo i gyrraedd y brig yng Ngŵyl Gorawl y Gogledd, roedd her tipyn neisiach yn wynebu'r crème de la crème cerddorol. Dewisodd y maestro Owain Arwel Hughes (Alan Sugar y byd canu corawl) 48 o gantorion gorau'r rhanbarthau i ffurfio'r Goruwch Gôr, neu'r ‘Siwpyr Côr' yn ôl y sylwebaeth Americanaidd o ddramatig. Y dasg oedd hedfan i'r Dwyrain Canol am bum niwrnod, diddanu'r dorf a sbarduno carfan Cymru yng nghystadleuaeth rygbi saith bob ochr Dubai.

Dwi'n difaru na fuaswn i wedi ymuno ag un o'r corau rhanbarthol nawr! Oherwydd nid ymarfer mewn rhyw hen festri rynllyd oedd y rhain, ond ger pwll nofio awyr agored y gwesty braf! Roedd hi'n amlwg yn drip hwyliog dros ben, gyda'r uchafbwyntiau'n cynnwys gwylio'r Cymry gwyngalchog ar gefn camelod yn anialwch Arabia, siopa yn y marchnadoedd aur, a smygu peipen shisha yn y caffis fin nos. Roedd unigolion fel Jackie Thomas yn flaenllaw iawn, fel un o'r bobl hyderus hynny sy'n fendith i unrhyw gynhyrchydd sy'n chwilio am gymeriad i gynnal rhaglen awr o hyd.

Un o'r golygfeydd mwyaf cofiadwy oedd honno o'r côr yn canu ar y traeth, a'r haul yn machlud y tu ôl i westy ysblennydd Burj Al Arab yn y cefndir - yr unig westy 7 seren yn y byd! Chawson ni ddim gwybod os mai fan'no yr oedd Eilir Owen Griffiths ac Alwyn Humphreys yn noswylio chwaith. Er gwaetha'u holl ymdrechion swynol, colli fu hanes y cochion... i'r Samoaid eto fyth! Ond roedd ymateb y ffans rygbi eraill o bedwar ban byd, a balchder y ddau arweinydd, yn profi bod y Goruwch Gôr wedi llwyddo i daro'r nodyn cywir yn Dubai bell. A draw yng Nghymru wlyb, roedd Côr Gogledd Cymru yn gorfod dysgu'r pedwerydd darn, sef ffefryn y corau meibion a phob Cymro-oddi-cartref-swp-sâl-o-sentimental - Myfanwy. Y pumed côr yw elfen newydd y gyfres hon, sy'n peri penbleth braidd. Roeddwn i wastad yn credu mai'r Sgarlets oedd tîm rhanbarthol ni'r Gogs, a bod y côr hwnnw eisoes yn ein cynrychioli ni. A pham, o pam, dewis enw mor Daily Post-aidd iddo - Côr Rygbi Gogledd Cymru? Rhag ofn inni feddwl mai cantorion Gogledd Corea ydyn nhw?! 


Posted by Gog y Cwm at 11:57:15 | Permanent Link | Comments (0) |

Beth yn y Byd?

Rhyw bendwmpian oeddwn i pan glywais y newyddion syfrdanol gan griw'r Post Cyntaf. Oedd, roedd hi'n "ddiwedd y byd". Ar ôl sadio a deffro'n iawn, deall mai cyfeirio at bapur newydd dyddiol Cymraeg yr oedden nhw, a'r ffaith nad oedd Llywodraeth y Cynulliad am gyfrannu'r £1 filiwn i wireddu'r freuddwyd hwnnw. Ac unwaith eto, wele'r cyfryngau yn ymdrybaeddu ym methiant y wasg Gymraeg ac yn ymffrostio wrth ddarogan tranc ‘Y Byd'. Mae'r Bîb wedi taflu dŵr oer ar y fenter o'r cychwyn cyntaf, fel petaen ofni colli ei monopoli newyddiaduraeth Cymraeg, ac ITV Wales i'w chanlyn. O leiaf dyna'r argraff ges i gan Y Byd ar Bedwar.

Sôn am raglen negyddol. Roedd y cynhyrchwyr yn amlwg wedi penderfynu troi Ned Thomas o Gwmni Dyddiol Cyf. yn destun sbort o'r dechrau'n deg. Wrth i Geraint Evans ei holi a'i stilio, hoeliwyd y camera mor agos arno i'w ddal yn chwysu ac atal dweud ei atebion. Iawn, mae angen codi cwestiynau am fenter sydd wedi cael cefnogaeth ariannol darpar-danysgrifwyr, ac mae'r oedi parhaus cyn cyhoeddi'r copi cyntaf yn ddiflas ar y naw. Ond dadl unochrog iawn a gafwyd, gydag un cyfrannwr ar ôl y llall yn dod o'r stabl amheugar. Byddai'n rhaglen decach a fwy diddorol o lawer pe bai wedi trafferthu cymharu'r sefyllfa â phapurau newydd mewn ieithoedd lleiafrifol eraill fel y Fasgeg. Pa wersi gallai criw ‘Y Byd' ei ddysgu ganddynt, beth yw'r trefniadau dosbarthu a faint gymorth ariannol a darllenwyr sydd i'r fersiynau printiedig ac ar-lein? Yr unig eiriau optimistaidd oedd rhai'r golygydd y papur dyddiol Gwyddelig, Lá Nua, a ddywedodd wrth Ned Thomas am beidio petruso cymaint, mynd amdani a gweld sut aiff pethau yn y flwyddyn gyntaf. Chwa o awyr iach mewn hanner awr o godi'r felan.

Ac ar ddiwrnod cyhoeddiad Rhodri Glyn, roeddwn i'n disgwyl mwy o drafodaeth frwd ar CF99. Ond na. Cafodd rhagetholiadau ‘super-duper-tsunami-Tuesday' yr Unol Daleithiau fwy o sylw. A chyda'r BBC Cymru wedi anfon Aled Huw ac Owain Clarke i ohebu ar ran rhaglenni Newyddion S4C a'r bwletinau radio, mae'n amlwg bod rhaid manteisio ar bob cyfle i'w defnyddio yno. Sy'n codi cwestiwn pwysig. Ydy Mrs Jones Llanrug yn malio pwy ddaeth i'r brig yn nhalaith Maryland? Ydyn ni wir eisiau clywed am y cythrel cystadlu rhwng Clinton ac Obama yn ddyddiol bron? Oes cyfiawnhad dros ddefnyddio arian y drwydded deledu i anfon Huw Edwards a llond awyren o ohebwyr eraill i gyfro stori fydd yn para tan fis Tachwedd o leiaf? Ry'n ni'n fwy cyfarwydd â gwleidyddiaeth y Tŷ Gwyn na Senedd Bae Caerdydd y dyddiau hyn. Blaenoriaethau bois, blaenoriaethau!



Posted by Gog y Cwm at 11:51:32 | Permanent Link | Comments (0) |

Bwrw Bol

Mae'n llawn dop yn y gampfa acw. Dwsinau o gyrff chwyslyd yn rhedeg, beicio, rhwyfo a sgïo am y gorau ar y peiriannau slic i gyfeiliant swnllyd MTV. Ac wrth droi am adref, mae arogl byrgyrs a pizza o'r bwytai draws ffordd yn llenwi fy ffroenau. O wel, sglods a sesiwn ddwbl yn y pwll nofio nos fory...


Ond nid jôc yw hi i Betsan Rees. Nid mympwy flwyddyn newydd yw'r gampfa iddi hi, ond anghenraid. I'r ferch ifanc 32 oed o Gwm Tawe, mae'n frwydr ddyddiol yn erbyn temtasiynau bwyd. Mae ei phwysau 23 stôn yn effeithio ar ei hiechyd a'i hapusrwydd. Yn ei geiriau hi hun, mae'n "ffed yp".
  Ar ôl cael ei gwrthod am driniaeth i steplo ei stumog, penderfynodd fynd i'r afael â'i phroblem gorfwyta gyda chymorth therapydd a hyfforddwr personol. Ac fel petai hynny ddim yn ddigon, roedd camerâu'r gyfres O'r Galon (Fflic) yno i gofnodi pob deigryn a diawlineb ar hyd y daith. Siaradodd Betsan yn boenus o onest am gael ei bwlio gan griw o ferched ysgol, ac ymateb athrawes ddi-hid a ddywedodd mai ei thewdra oedd yn gyfrifol am hynny yn y lle cyntaf. Cafodd un gnoc bersonol ar y ôl y llall wedyn wrth golli ei thad, marwolaeth anamserol ei brawd a'i ffrind gorau Aled o ganser lymffomaidd, a diagnosis diweddar ei mam â chlefyd Parkinson. Dywedodd Betsan mai bwyd oedd ei ffrind, yn ei chysuro a'i chadw i fynd yn y dyddiau du.


Mae'n eironig felly mai cynllunydd ffasiwn yw Betsan wrth ei galwedigaeth. Cyfaddefodd fod ei phwysau wedi effeithio ar ei gwaith. Roedd y diwydiant, meddai, yn hoffi'r pecyn tenau perffaith i gyd-fynd â'r ddelfryd ‘size zero' bondibethma. Er hynny, dangosodd ei gallu i chwerthin pan ddywedodd fod un o'i choesau'n pwyso mwy na'r fodeles ‘berffaith' oedd yn stumio'n slafaidd i'r camera o'i blaen.


Yr unig dro y gwelsom ymateb perthynas neu ffrind i'r broblem oedd yn yr olygfa rhwng Betsan a'i mam yn y lolfa gartref. Roedd Betsan yn naturiol eisiau pob anogaeth a chwarae teg gan ei mam a oedd, ar y llaw arall, yn fwy o realydd ac yn siarad plaen - fel mae mamau. Y canlyniad oedd tensiwn ac ymateb pigog, pwdlyd y ferch. Oedd, roedd hi wedi cymryd camau breision trwy golli chwe stôn mewn wyth mis, ond fel y dywedodd ei mam, dim ond Betsan all ddyfalbarhau a helpu ei hun.


Efallai bod yma ddeunydd rhaglen arall am Bethan, a Bryan ‘Yogi Davies' wedi'r ddamwain rygbi, gan gynhyrchwyr y gyfres ddogfen wych hon.
 


Obsesiwn y pwysau perffaith

Posted by Gog y Cwm at 11:46:45 | Permanent Link | Comments (0) |

Plaid Angharad Mair

Anghofiwch am blaid wleidyddol newydd y Gwyneddigion. Mae gan Geredigion Blaid y Bobl hefyd, dan arweiniad Angharad Mair. Efallai bod ganddi fwriad i adael stiwdios Tinopolis am y Senedd pren-a-llechi yn y Bae? Felly'r oedd pethau'n ymddangos ar Pawb a'i Farn (BBC Cymru) nos Iau ddiwethaf beth bynnag.

Roedd cyflwynwraig boblogaidd Wedi 7 yn amlwg yn taro tant gyda'r gynulleidfa, ac yn llwyddo i ddenu llawer mwy o gymeradwyaeth na'r hen wleidyddion llwyd oedd wedi ymuno â seiat Dewi Llwyd ym Mhafiliwn y Bont. Buasai peiriant ‘clap-o-meter' wedi chwalu'n rhacs jibidêrs bob tro'r oedd Angharad Mair wrthi. Fel yn ei cholofn yn y papur Sul cenedlaethol, roedd hi'n dweud pethau oedd wrth fodd y gynulleidfa Gymraeg, wledig. Er enghraifft, penderfyniad dadleuol rhyw arolygwr anhysbys yng Nghaerdydd i wrthod tri chais cynllunio gan Gymry Cymraeg Ceredigion, a'r angen i ddifa moch daear sy'n lledu TB yng nghadarnle'r diwydiant llaeth. Diawch, roedd y ddau wleidydd, Rhodri Glyn Thomas a Paul Davies (pwy?) yn eilbeth i Ms Mair; ac Efa Gruffudd Jones, prif weithredwraig yr Urdd, yn ddi-son-amdani! A chafwyd bonllefau o chwerthin ar ôl i wyneb cyfarwydd lleol, Lyn Ebenezer, awgrymu y dylid "difa'r cadwraethwyr" er mwyn datrys problemau cefn gwlad.

Dyna sy'n dda am raglen drafod S4C. Barn ddi-flewyn-ar-dafod pobl gyffredin, anwleidyddol gywir - yn ffermwyr, athrawon a myfyrwyr chweched dosbarth hyderus - am bynciau o bwys lleol a chenedlaethol, o gymharu â chynulleidfa fwy ecsentrig ac ymhongar ‘middle-England-aidd' Question Time. Wrth gwrs, mae safon y drafodaeth yn dibynnu ar newyddion mawr y dydd. Os yw hi'n dlawd o ran sgandals seneddol, yna mae perygl i'r drafodaeth droi'n blwyfol ar y naw. Ac mae'n sicr yn fwy poblogaidd na CF99, sy'n cael ei darlledu'n rhy hwyr i rai ohonom. Syndod oedd deall bod Pawb a'i Farn bellach yn bymtheg oed. Os felly, pam nad yw'r Bîb wedi rhoi cot o baent ffres i'r gyfres? Beth am deitlau agoriadol newydd, sét newydd a - a feiddia'i awgrymu hyn - cyflwynydd newydd? Er cystal hwyl mae Dewi Llwyd ddibynadwy, saff, yn ei gael o lywio'r drafodaeth, alla i ddim peidio â meddwl weithiau fod angen gwaed newydd. Beth am gyflwynydd gwadd bob wythnos? Rhywun â thafod miniog a mwy o dân yn ei fol? Mae Bethan Rhys Roberts yn rhy ddieithr o'r hanner yn y cyfryngau Cymraeg. Neu beth am rywun arall â chefndir newyddiadurol a gwleidyddol sy'n fistar cron ar gorddi'r dyfroedd? Rwy'n cynnig Rod Richards. Oes yna rywun yn eilio?



                                               ... Aelod Cynulliad y dyfodol?

Posted by Gog y Cwm at 11:38:02 | Permanent Link | Comments (0) |