Gwell hwyr…

Logo rhaglenni gwyrdd S4/C
Ddwy flynedd yn ôl, bu cryn ffys a ffwdan pan benderfynodd S4C roi’r farwol i un o’i rhaglenni mwyaf poblogaidd. Roedd llinellau ffôn Taro’r Post yn eirias, a’r wasg yn llawn llythyrau blin. Gwelwyd garddwyr yn hogi’u sisyrnau torri rhosod, a fflyd o dractors torri lawnt yn heidio i Barc Tŷ Glas. Efallai ‘mod i’n gorliwio braidd, ond heb os, roedd selogion Clwb Garddio wedi gwylltio’n gacwn. Dim mwy o gynghorion garddio wythnosol gan Manon Eames a’r criw, a dim mwy o Gymraeg graenus Gerallt Pennant - un o’n cyflwynwyr mwyaf profiadol sy’n rhy ddieithr o’r hanner o’n sgriniau teledu. Roedd S4C eisiau dechrau efo llechan lân.
Ac wele Byw yn yr Ardd (Cwmni Da), cyfres gylchgrawn sy’n rhoi mwy o bwyslais ar arddio’n ecogyfeillgar a rhyngweithio â’r gwylwyr gartref. Mae Bethan Gwanas wedi penderfynu crwydro gerddi Cymru yn lle’r cyfandiroedd, gan hel syniadau i’w defnyddio adref yn Ffrwd-y-gwyllt. A draw yn Rhosgadfan, mae’r wyneb newydd Russell Owen Jones wrthi’n palu llain lysiau er mwyn byw’r bywyd hunangynhaliol perffaith. Ac yn sicr, roedd ganddo awgrymiadau difyr i fynd i’r afael â’r gwlithod gythrel sy’n gwledda ar y potiau blodau acw - fel gosod plisg wyau o amgylch y planhigion, neu ddenu’r pethau bach sleimllyd i slochian mewn bowlenaid o gwrw. Dyma’r cymeriad mwyaf cŵl fel ciwcymbr organig a welais erioed. Gyda’i arddull dow-dow, mae’n braf cael cyflwynydd newydd sydd heb fod trwy ysgol brofiad bratiog rhaglenni plant a phobl ifanc y sianel. Eitem ddiddorol arall oedd ymweliad Bethan â Gardd Berlysiau’r Bont-faen ym Mro Morgannwg, sy’n pwysleisio rhinweddau ffisig yr oes o’r blaen - chwyn fel dant y llew i drin anhwylderau’r iau, llygad y wennol fel eli’r llygad, a’r hen wermod lwyd i daclo’r meigryn. Ond fel un a gafodd lymaid o de wermod gan wraig fferm yng Ngharmel flynyddoedd yn ôl, roedd y blas chwerw yn ddigon i achosi cur pen i unrhyw un!
Roedd hon fel chwa o awyr iach i’r rhaglenni garddio hynod fanwl hynny sy’n apelio at arddwyr tan gamp yn bennaf. Hoffais y defnydd celfydd o labeli blodau a phlanhigion fel teitl enwau’r cyfranwyr hefyd. Cafodd cyfeiriad y wefan ei adrodd dro ar ôl tro, a chawsom ein hannog gan Bethan i ddarllen ei blogiadur a chyfrannu cynghorion a lluniau o’n gerddi ni. Dim ond gobeithio na fydd yr holl bwyslais ar we-hebu yn ormod o fwgan i ffans traddodiadol Gerallt Pennant.
Dyma roi’r hen ragfarnau o’r neilltu am y tro, a dilyn rasys Lydstep ger Dinbych-y-pysgod - pumed cyfarfod pwynt-i-bwynt de a gorllewin Cymru. Ac os nad oeddwn i’n frwdfrydig, o leiaf roedd gan y cyflwynwyr Brychan Llŷr a Shân Cothi hen ddigon ohono fel marchogwyr o fri sy’n rhannu stablau ym mro Ogwr. Cawsom ein tywys o amgylch y cwrs cyn ras fawr Lydstep oedd â byd o wahaniaeth i feysydd Cas-gwent a Chaer. Yn syml, tir amaeth cyffredin gyda gwrychoedd a byrnau mawr fel pyst. Ac fel y dywedodd Brychan Llŷr, roedd angen ceffyl dewr a joci medrus (neu honco bost) i garlamu hyd at 40 milltir yr awr i fyny ag i lawr y cwrs. Ac yna uchafbwyntiau’r rasys gwahanol i ferched a dynion a nofis, gyda sylwebaeth ddramatig Wyn Gruffudd a Brychan Llŷr a’i dafod yn y boch braidd wrth i farchogwr anffodus gael ei hyrddio i’r llawr: “Druan â Wil, fydd e ddim yn blês iawn â ‘nny”. Na finna’ chwaith, petai dwsinau o garnau gwyllt yn neidio am y gorau dros fy mhen!
Roedd Shân Cothi yn amlwg yn ei helfen un sydd eisoes yn gyfarwydd ar raglenni Sioe Fawr Llanelwedd bob haf. Cyfeiriodd at yr holl gymeriadau lleol sy’n rhan annatod o’r sin pwynt-i-bwynt, ac sy’n dilyn rasys y tymor o lefydd mor amrywiol â Chilwendeg a Thredegar. Trueni, felly, na chafwyd mwy o sgwrs gyda’r cymeriadau hynny ac eithrio’r ddau ffarmwr fflyrtlyd oedd wedi mopio gyda Davina Con Passionate! Trueni hefyd am iaith y rhan fwyaf o’r cyfweliadau. Gyda jocis fel Isabel Tomprett a Lucy Pearse Rowsell wrthi, mae’n amlwg nad oedd y Gymraeg ar garlam yn y maes hwn.

Cothi a Jess

Mi fydd hi’n haf a hanner i fabolgampwyr cadair freichiau eleni. Rhwng Ewro 2008, y tenis a’r Gemau Olympaidd mi fydd yr ardd fel jyngl, y car dan fynydd o lwch, y cynhaeaf ar ei hanner a’r barbeciw’n segur. Mae’n bleser gwylio’r cystadlu o dir mawr Ewrop eleni, yn absenoldeb heip a jingoistaidd Jac Sais a llwyddiant cenhedloedd bychain fel Croatia dan arweiniad Slaven Bilić. Ond waeth inni heb ag ymhyfrydu yn absenoldeb Rooney gan nad ydy Ramsey a’r giang yno chwaith. Er hynny, trueni nad oes yna raglen wythnosol arbennig gan griw Sgorio i roi’r ongl Gymraeg ar bethau. Ac er nad wyf am godi hen, hen, grachod, mae’r bêl hirgron yn amlwg iawn ar S4C eto’r haf hwn. Efallai bod cynnal Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn bluen yn het Cymru, ond faint ohonon ni sydd wir eisiau gwylio gêm fyw rhwng Iwerddon a Seland Newydd yn ystod yr oriau brig? Er ‘mod i’n barod i wylio uchafbwyntiau’r brif garfan a’u hymdrechion glew yn yr ail brawf yn Ne Affrica, dwi ddim mor barod i wylio rwtsh fel Rowland ac Eleri ar y Boks. Yr unig beth clyfar am hon oedd ei theitl. Os oedd cynhyrchwyr Avanti wedi gobeithio efelychu llwyddiant Jonathan, heb y dyn ei hun yn Hemisffer y De, fe wnaethon nhw glamp o gamsyniad. Roedd hyd yn oed Nigel Owens wedi’i dallt hi a’i heglu i ddyfarnu gemau Seland Newydd. Roedd hi’n boenus gwylio Eleri Siôn yn dilyn sgript hiwmor tŷ bach ac actio’r cymeriad strêt wrth i Rowland ‘Roli’ Phillips chwarae’r bili-ffŵl arferol. Gyda chymaint o bwyslais ar jôcs rhechu a thrôns Mr Phillips, mae’n addas dweud bod hon yn gachfa go iawn.
Ymddiheuriadau am yr iaith, ond dwi newydd wylio ail bennod o gyfres newydd Tipyn o Stad. Beiwch Iona (Janet Aethwy) yn enwedig, sy’n bytheirio fod y cyngor wedi’i symud o ‘Faes-Jî’ i Faes Menai. Ar ôl cael ei thraed yn rhydd o’r carchar, mae’n cael ei thraed dani ar y stâd drwy werthu mwg drwg i griw o hogia ysgol. Gyda thafod miniog a wyneb miniocach, dyw hon ddim yn ddynes i’w chroesi. A gwae Susan druan, sy’n troi’i thrwyn ar y “rafins” newydd drws nesaf am “dynnu’r lle i lawr yn ofnadwy”. Mae Elen Gwynne yn ei helfen fel y snob o fam ifanc sy’n ymhyfrydu yn ei chyfoeth newydd ar ôl ennill y bingo. Ond mae ei byd pinclyd perffaith yn chwalu’n rhacs wrth i’w merch bymtheg oed, Kylie, gyhoeddi ei bod yn feichiog yn ei pharti syrpreis. Chav-tastic!

Cofi Hills 90210