Cwm Llwm?
1. CODI CANU (SUL) 101,000
2. TEULU (SUL) 100,000
3. NATUR CYMRU (LLUN) 94,000
4. POBOL Y CWM (IAU) 85,000
5. POBOL Y CWM (MERCHER) 76,000
6. POBOL Y CWM (LLUN) 76,000
7. POBOL Y CWM (GWENER) 71,000
8. JONATHAN (GWENER) 69,000
9. CERYS NôL ADRE (MAWRTH) 65,000
10. POBOL Y CWM (MAWRTH) 63,000
Dim lladd er mwyn lladd ar PYC ydw i. Yn wir, hon yw’r unig sioe sebon dwi’n ei gwylio’n rheolaidd bellach. Mae straeon difyr y dyddiau hyn yn cynnwys perthynas gymhleth Nesta/Hywel/Ffion, carwriaeth Kevin a Sheryl, y Deri ar ei newydd wedd, a chymeriadau newydd fel Gaynor Evans, pennaeth Ysgol y Mynach a’i ddwy ferch (sy’n actoresau syndod o dda, o gofio’r plant prennaidd sydd fel arfer yn bla ym myd sebon). Ac mae’n braf croesawu Eileen (Sera Cracroft) yn ôl i Benrhewl. Ar y llaw arall, mae cymeriadau wedi gadael Cwmderi fel y Marie Celeste yn ddiweddar, rhwng Stacey, Julie, Kath, Jason, Katie, Erin a Sabrina; ac mae ganddi’r arferiad anffodus o gyflwyno cymeriadau o nunlle a’u hanfon i dir neb wedyn - Evie a Rhian Haf sy’n dod i’r cof. Ac mae ‘na golli cyfle a photensial aruthrol gyda chymeriadau cryf eraill, fel yr archddihiryn Ieuan Griffiths a’i wraig Hazel. Er gwaetha’r gwelliannau mawr, mae arna i ofn fod PYC wedi colli lot fawr o’r ffyddloniaid ers canol y nawdegau, pan roedd Cwmderi’n gartref i gangstyrs, gwerthwyr cyffuriau a lapddawnswyr. Neu efallai bod trefniant seiloffon-a-phiano-plant-Yamaha uffernol Owen Powell (Mr Waw Ffactor, gynt o Catatonia) o’r arwyddgan yn ddigon i wneud i bobl droi am Deadenders.

I like your blog style, and your innovation views about the thing.