Aberstalwm
Mae’r syniad y tu ôl i Lle Aeth Pawb? (Cwmni Da) yn un eithaf syml, ac am unwaith, yn wreiddiol i S4C. Canfod hen lun, a chanfod y stori y tu ôl i’r llun. A dyma ddilyn Alun yn ceisio casglu criw’r llun gwreiddiol ynghyd, trwy biciad i’r dafarn leol neu bori drwy hen gofrestr ysgol, a ffonio ffrindiau eraill yng ngŵydd y camera - hen dric gwael y cynhyrchwyr i’n siarsio eu bod yn sgwrsio ar hap. Daeth yr hogs i’r fei fesul tipyn - y rhan fwyaf yn dal i fyw yn eu milltir sgwâr (“hogia Dre Pwllheli”), eraill wedi bwrw gwreiddiau cyn belled â Southampton, Lloegr, a De Dakota, yr Unol Daleithiau. Roedd Richard bellach yn dysgu yn ei hen ysgol uwchradd, ac Abner y ffarmwr braidd yn anghysurus wrth ddychwelyd i safle’r hen ysgol a oedd yn wrthun iddo ers talwm. Ond y cymeriad mwyaf diddorol oedd Wil, labrwr di-waith o Garndolbenmaen, a’r unig un a siaradodd yn onest o flaen camera mewn gwirionedd. Tra’r oedd eraill yn trafod pynciau saff, hapus, fel priodi a’r plantos, roedd Wil yn wahanol. Roedd wedi colli sawl cyfle mewn bywyd, meddai. Difarodd beidio â gwneud cystal yn yr ysgol, a pheidio ag ymuno â’r fyddin er mwyn plesio’i rieni. Cafodd bwl o iselder. Ond gyda help Dewi ei fab saith oed, pêl-droediwr o fri, dywedodd fod ganddo rywbeth i edrych ymlaen ato. Cafwyd awgrym o dristwch arall hefyd, yn achos disgybl disglair fu farw ar y môr. Ond ni ymhelaethwyd ymhellach i hynny, gan i’r rhaglen ganolbwyntio’n hytrach ar y criw 30 oed yn stumio o flaen camera i’r un ffotograffydd eto. Wedi’r cwbl, dyddiau hapus yw dyddiau ysgol i fod ynte? Ond ar ôl i’r criw camera adael, a’r hogia’ wedi gorffen hel straeon a’r caniau cwrw, ’sgwn i faint o gysylltiad fydd rhyngddynt eto?

Ddim yn siŵr be dwi’n feddwl o’r rhaglen yma.
Dio’m yn grêt i fod yn onest.
Mae’n rhyfeddol o debyg i eiriau’r gan “Y Gwyliau” gan Tynal Tywyll.
Diolch am y blog gwych ‘ma!
Everytime i read your article, i will keep thinking for a long time.