Canlyn Catatonia
application/x-shockwave-flash|http://www.youtube.com/v/sCht64VP3C0&hl=en|425|355|movie|http://www.youtube.com/v/sCht64VP3C0&hl=en|wmode|transparent|
Ychydig wythnosau’n ôl, daeth Cerys nôl adre ar S4C. Iawn, dwi’n gwybod ‘mod i ar ei hôl hi braidd - ond i ffan hir oes fel fi, roeddwn i wrth fy modd. Un o’r cwestiynau a ofynnwyd iddi oedd ynghylch Catatonia, a ph’un a welwn ni aduniad ryw ben. Atebodd Cerys y byddai’n hoffi cael cyfle i berfformio caneuon eu halbwm olaf, Paper Scissors Stone, oherwydd iddynt chwalu cyn hyrwyddo honno’n iawn, atgoffodd bod angen sêl bendith y pedwar aelod arall hefyd. Go brin y bydd hynny’n digwydd gwaetha’r modd, gan fod ambell un yn dal dig tuag ati (oce ta, yn ddiawl o pisd off) am ddod â’r berthynas i ben mor ddisymwth ar 21 Medi 2001.
Er hynny, mae gan Catatonia le agos iawn iawn yn fy nghalon o hyd. A diolch i ÎwTiwbaidd, mae ‘na glasuron o orffennol Cŵl Cymru ar gof a chadw. Ac wele perfformiad y band ar lwyfan Jools Holland ychydig flynyddoedd yn ôl, gydag un o’r caneuon serch gorau erioed gan un o’r grwpiau gorau erioed, Strange Glue…ond mi fuaswn i’n deud hynny baswn? Mwynhewch!

Posted by in 17:03:27
a forceful style, It’s great.