…ni allaf ddianc rhag hon…
Cafwyd cyfuniad diddorol o atgofion gan gydnabod a chydweithwyr Jennie Eirian, monologau grymus gan Rhian Morgan, ac archifau llun a sain yr oes o’r blaen. Roedd hi bron yn cwmpasu hanes cythryblus Cymru a’r Gymraeg o’r 50au ymlaen, o’r funud y safodd yn enw’r Blaid yng Nghaerfyrddin gan “wneud mincemeat” o’r ymgeiswyr eraill gyda’i meddwl miniog. Gwraig yn cicio yn erbyn y tresi, yn mynnu torri ei chwys ei hun yn erbyn y sefydliad Cymraeg. Daeth hynny i’r amlwg mewn golygfa ddoniol o Jennie (Rhian Morgan) yn taranu’n erbyn Saunders a Gwynfor am gefnogi’r frenhiniaeth, wrth iddi bobi sponges a sgons yn ei chegin yn Aberdâr i gyfeiliant seremoni urddo’r frenhines Elisabeth ar y radio. Roedd hi ar dân eisiau cynnal “brwydr o brotest gwrthfrenhinol”.
Roedd hi’r un mor ddiflewyn ar dafod pan gymrodd awenau wythnosolyn ‘Y Faner’ ym 1979. Cyfeiriodd Emyr Daniel at gyffro newydd yn y wasg Gymraeg dan olygyddiaeth Jennie, cyn i’r berthynas rhyngddi hi a’i darllenwyr suro. Yn ôl Gwilym Owen, meiddiodd â siarad yn wahanol i’r dosbarth canol Cymraeg a dadlau yn erbyn sefydlu S4C rhag i’r iaith gael ei gwthio a’i chuddio mewn rhyw gornel. Roedd yr olygfa ohoni’n gyrru’r Beetle mewn tywydd stormus, a lleisiau’r cyfranwyr yn cofio’r dyddiau du yn drawiadol dros ben. Gyda thanysgrifwyr a chyfranwyr y cylchgrawn yn tynnu’n ôl, teimlai ei bod wedi cael ei hesgymuno. A dyna arwain at olygfa ola’r rhaglen. Ar ôl mynd â phaned i’w gŵr, clirio ar ôl y bechgyn, dywedodd ei bod yn mynd am fàth. Plygodd ei ffedog, a chlôdd ddrws y bathrwm ar y byd am byth. Roedd y ffedog yn ddelwedd amlwg, effeithiol, drwyddi draw - yn symbol o’r wraig weithgar, fyrlymus, oedd “ddim yn medru ymlacio” yn ôl Siôn Eirian ei mab.
Tybed beth fyddai ei barn am ddifaterwch ei chyd-Gymru, a diffyg cefnogaeth ei chyd-Bleidwyr, tuag at sefydlu’r papur newydd dyddiol heddiw? Go brin y byddai Jennie Eirian wedi cadw’n dawel ar y mater. Da ni’n dlotach hebddi.
Perfformiad BAFTAidd gan Rhian Morgan