Ymddiheuriadau i Syr David Attenborough. Roeddwn i wedi bwriadu dilyn cyfres olaf prif naturiaethwr Prydain, Life in Cold Blood, ar y Bîb ond fe aeth fy ffobia yn drech na mi. Roedd un olygfa o’r sglyfath neidr yn ddigon i godi ias a pheri i mi newid sianeli. Does ryfedd ‘mod i braidd yn betrusgar o wylio prif naturiaethwr Cymru, Iolo Williams, â’i gyfres newydd Natur Cymru ar nos Lun. Cyn belled nad oes unrhyw greaduriaid llysnafeddog yn ymddangos arni (y dywededig ffobia, nid Aelodau Cynulliad!), mae’n siŵr y trof i’w gwylio eto.

Mae ‘na ôl gwario ar hon. O’r golygfeydd Hollywoodaidd o Iolo Williams (mewn trowsus oel, nid siorts cwta, sori ferched a dynion!) yn sefyll yn dalog ar fryniau a dolydd Cymru, i’r ffrydiau dramatig a’r coedwigoedd yn garped o’r awyr, mae byd o wahaniaeth rhwng hon a’r cyfresi natur amaturaidd a ddarlledwyd yn nyddiau cynnar S4C Digidol. ‘Ffynnon Bywyd’ oedd teitl y rhaglen gyntaf, yn dilyn taith afonydd a bywyd gwyllt o’r ucheldiroedd fel Pistyll Llanrhaeadr-ym-Mochnant i lawr i aberoedd y Cob a Chasnewydd. Rhaid canmol gwaith camera Steve Phillips, o’r glas y dorlan ifanc yn pysgota’n aflwyddiannus yn afon Gwy i’r gweision y neidr di-ri yng Nghors Caron. Cafwyd lluniau rhyfeddol o dan y llif hefyd, yn enwedig y llysywod pendwll yn sugno cerrig yr afon â’u cegau i greu llecyn dodwy - megis hŵfyr tanddwr! A draw ym Meirionnydd, llyffantod gwrywaidd yn cicio a chystadlu am y gorau i fachu’r rhai benywaidd - tebyg i nos Sadwrn yn y Bala. A hoffais gyfeiriad smala Iolo Williams at y creaduriaid “estron gwyllt” yn ymweld â Llyn Tegid gefn liw nos, s’yn cael effaith niweidiol ar y boblogaeth gynhenid. Na, nid haid o Brymis neu Sgowsars, ond mhinc - ymwelydd Americanaidd sy’n bla fel y wiwer lwyd, ac sy’n bwyta wyau a lladd cywion bach. Deuoliaeth byd natur felly, yn ei holl hagrwch a harddwch.
Er bod y sylwebaeth yn swnio braidd fel gwersi natur ysgol ers talwm ar adegau, does dim dwywaith fod Iolo Williams yn llefarydd tan gamp. Gyda’i mynegiant clir a chroyw, a’i sgwrsio lawn mor hamddenol â’i gerddediad, mae’n fonws mawr i’r dysgwyr a’r trwm eu clyw. Ond gyda’r holl enwau Cymraeg da ar bryfed, planhigion ac adar a daflwyd atom gydol y rhaglen - rhai enwau dieithr, rhaid cyfaddef - byddai’n braf petaem wedi’u gweld ar y sgrin wrth i Iolo sôn amdanynt, ynghyd â map o’r lleoedd dan sylw.
Braf gweld yr Adar Gleision yn hedfan yn hyderus tua Wembley ar Match of the Day (BBC) brynhawn Sul diwethaf. Diffodd sain y bocs bach a gwrando ar sylwebaeth Dylan Griffiths a Malcolm Allen ar Radio Cymru wnes i. Byddai’n wych o beth petai S4C a’r BBC yn cytuno ar ddarllediad Cymraeg o’r gêm gynderfynol hollbwysig. Wel, pwysig i bawb ond ffans Elyrch Abertawe efallai…