Saturday, February 23, 2008

Beth yn y Byd?

Rhyw bendwmpian oeddwn i pan glywais y newyddion syfrdanol gan griw’r Post Cyntaf. Oedd, roedd hi’n “ddiwedd y byd”. Ar ôl sadio a deffro’n iawn, deall mai cyfeirio at bapur newydd dyddiol Cymraeg yr oedden nhw, a’r ffaith nad oedd Llywodraeth y Cynulliad am gyfrannu’r £1 filiwn i wireddu’r freuddwyd hwnnw. Ac unwaith eto, wele’r cyfryngau yn ymdrybaeddu ym methiant y wasg Gymraeg ac yn ymffrostio wrth ddarogan tranc ‘Y Byd’. Mae’r Bîb wedi taflu dŵr oer ar y fenter o’r cychwyn cyntaf, fel petaen ofni colli ei monopoli newyddiaduraeth Cymraeg, ac ITV Wales i’w chanlyn. O leiaf dyna’r argraff ges i gan Y Byd ar Bedwar.

Sôn am raglen negyddol. Roedd y cynhyrchwyr yn amlwg wedi penderfynu troi Ned Thomas o Gwmni Dyddiol Cyf. yn destun sbort o’r dechrau’n deg. Wrth i Geraint Evans ei holi a’i stilio, hoeliwyd y camera mor agos arno i’w ddal yn chwysu ac atal dweud ei atebion. Iawn, mae angen codi cwestiynau am fenter sydd wedi cael cefnogaeth ariannol darpar-danysgrifwyr, ac mae’r oedi parhaus cyn cyhoeddi’r copi cyntaf yn ddiflas ar y naw. Ond dadl unochrog iawn a gafwyd, gydag un cyfrannwr ar ôl y llall yn dod o’r stabl amheugar. Byddai’n rhaglen decach a fwy diddorol o lawer pe bai wedi trafferthu cymharu’r sefyllfa â phapurau newydd mewn ieithoedd lleiafrifol eraill fel y Fasgeg. Pa wersi gallai criw ‘Y Byd’ ei ddysgu ganddynt, beth yw’r trefniadau dosbarthu a faint gymorth ariannol a darllenwyr sydd i’r fersiynau printiedig ac ar-lein? Yr unig eiriau optimistaidd oedd rhai’r golygydd y papur dyddiol Gwyddelig, Lá Nua, a ddywedodd wrth Ned Thomas am beidio petruso cymaint, mynd amdani a gweld sut aiff pethau yn y flwyddyn gyntaf. Chwa o awyr iach mewn hanner awr o godi’r felan.

Ac ar ddiwrnod cyhoeddiad Rhodri Glyn, roeddwn i’n disgwyl mwy o drafodaeth frwd ar CF99. Ond na. Cafodd rhagetholiadau ‘super-duper-tsunami-Tuesday’ yr Unol Daleithiau fwy o sylw. A chyda’r BBC Cymru wedi anfon Aled Huw ac Owain Clarke i ohebu ar ran rhaglenni Newyddion S4C a’r bwletinau radio, mae’n amlwg bod rhaid manteisio ar bob cyfle i’w defnyddio yno. Sy’n codi cwestiwn pwysig. Ydy Mrs Jones Llanrug yn malio pwy ddaeth i’r brig yn nhalaith Maryland? Ydyn ni wir eisiau clywed am y cythrel cystadlu rhwng Clinton ac Obama yn ddyddiol bron? Oes cyfiawnhad dros ddefnyddio arian y drwydded deledu i anfon Huw Edwards a llond awyren o ohebwyr eraill i gyfro stori fydd yn para tan fis Tachwedd o leiaf? Ry’n ni’n fwy cyfarwydd â gwleidyddiaeth y Tŷ Gwyn na Senedd Bae Caerdydd y dyddiau hyn. Blaenoriaethau bois, blaenoriaethau!

Posted by Gog y Cwm in 10:51:32
Comments

Leave a Reply