Llygaid sgwâr a blinedig!

Dwi’n filain efo BBC One a Channel Five. Dyma lle rydw ’n dilyn dwy raglen newydd Americanaidd yn slafaidd am y tro cyntaf ers Heroes, a beth sy’n digwydd? Mae’r pen bandits yn penderfynu potsian a’u symud i slotiau gefn liw nos. Ar y Bîb, mae’r gyfres orwych am hen gnawes galed o dwrna yn Efrog Newydd, Damages, lle mae Glenn Close (a enillodd deitl ‘Actores Orau’ yn y Golden Globes eleni) yn gwneud i Cruella De Ville ymddangos fel tedi bêr bach del, wedi symud i nosweithiau Lun am 10.35pm - a chyda phob pennod bron awr o hyd, mae hi braidd yn hwyr er mwyn codi cyn cŵn Caer(dydd) drannoeth. Pam na ffeindian nhw slot gall 9 o’r gloch iddi ar BBC2 neu BBC Four hyd yn oed?
Mae’r bumed sianel, sydd fel arfer yn destun clod (CSI newydd sbon a gwaredwyr mawr Neighbours o’r Bîb), yn fwy euog byth am focha o gwmpas efo’r mewnforion Americanaidd. 30 Rock ydi’r rhaglen gomedi ddoniolaf dwi wedi’i weld ers hydoedd, wedi gosod mewn stiwdio deledu yn adeilad enwog 30 Rockerfeller Plaza, Efrog Newydd (eto!) ac sy’n dilyn hynt a helynt Liz Lemon (Tina Fey), prif sgwennwr sioe gomedi, i gael trefn mâs o anhrefn llwyr yn ei bywyd proffesiynol a chymdeithasol. Rhwng pawb a phopeth, gan gynnwys prif weithredwr ecsentrig y rhwydwaith, Jack Donaghy (Alec Baldwin pesgedig!), mae ganddi fynydd Hiraethog o dasg o’i blaen. Mae’n amlwg fod y ffigurau gwylio’n go giami, gan fod Five wedi’i symud o 10.40 i 11.05pm a’i thynghedu i bydru nes cael ei gwaredu’n llwyr. Damia damia damia nhw.
Stori debyg yw hi yn yr UDA hefyd, gyda Tina Fey yn herian wrth ddiolch “i’r dwsinau o wylwyr am gefnogi’r sioe” wrth dderbyn gwobr Emmy am y Gyfres Gomedi Orau yn 2007.