Mae tymor y gormodedd drosodd ac Ifan Twrci Tenau yn saff am flwyddyn arall. A thymor y gormodedd fuodd hi ar S4C hefyd.
Dyna i chi’r arlwy arferol o fyd y gân, rhwng cyngerdd rhewllyd Carolau Llangollen, cyngerdd epig Dennis a Kiri o Ganolfan y Mileniwm a chyngerdd chwyslyd Dafydd Iwan ac Ar Log o Brifwyl Sir y Fflint. Cafodd rhai o’n cymeriadau sebon Ddolig i’w anghofio, gyda Meical yn gandryll ar ôl i Michelle gyfaddef iddi gael siec o £10,000 fel arian tadolaeth hirhoedlog gan Wyn yn Rownd a Rownd. Roedd blas cas iawn ym mhriodas Pobol y Cwm, wrth i Nesta niwrotig (Catrin Mara), dan anogaeth ei mam sbeitlyd (Morfudd Hughes), ddweud wrth ei chyfnither Ffion ei bod yn disgwyl babi Hywel Llywelyn. Heglodd Jason i Awstralia bell, a chefnodd Kath Jones (Siw Hughes) ar ei theulu a’i thacsis am fywyd gyda’r tarmaciwr crwydrol Johnny Mac.
Bu gormod o bwdin Dai Jones dros yr ŵyl hefyd. Tra’r oedd Cefn Gwlad o Lydaw gyda Chantorion Colin Jones yn plesio, roedd cyfres tair rhan Dai yn y Dŵr yn siomedig ar y naw. Gyda Mr Llanilar yn mynd i’r afael ag un arall o’i ofnau niferus (nofio) yng nghwmni ei hen gyfaill Wil Hafod, mae’n amlwg fod y cynhyrchwyr wedi gobeithio efelychu llwyddiant Dai ar y Piste. Ond yn wahanol i Dai yn y Môr Coch, bu bron i mi foddi mewn diflastod gyda chyfres y gellid fod wedi’i chwtogi i un rhaglen yn hawdd.
Diolch byth, felly, am ddôs o ddiwylliant go iawn yng nghwmni Bois Parc Nest (Apollo). Dyma bortread personol tri brawd o Gastellnewydd Emlyn - Aled Gwyn, T James Jones (Jim) a John Gwilym Jones - sy’n dychwelyd i dalu gwrogaeth i’w hen gynefin a lywiodd eu bywydau personol, proffesiynol a chreadigol am byth. Cawn straeon bendigedig am blentyndod hapus, rhwng chwarae criced ar fuarth y fferm gyda’u mam-gu; canu a dysgu adnod gyda’u mam, a ‘Dat’ yn barddoni ar gefn amlen wrth odro gyda llaw - er gwaetha cwyn rhyw forwyn ynglŷn â’r “hen boetry hyn”. Ond mae rhyw dristwch a hiraeth yn britho’r rhaglen hefyd. Hiraeth am draddodiad y gymanfa ganu, dosbarthiadau cynganeddu T Llew Jones ac eisteddfodau capel oedd yn para tan amser godro ben bore wedyn. Cymdeithas na ddoi fyth yn ôl. A thristwch personol iawn Aled Gwyn wedyn o golli ei wraig Menna a’i wyres fach Gwenan i salwch creulon, a’i sbardunodd i gyfansoddi cerdd fuddugol Eisteddfod Bro Colwyn ’95: “Ei choron hi yw hi, nid fy nghoron i”. Ond mae yma gyfeiriad at droeon trwstan steddfodol hefyd. Dyna chi brofiad John Gwilym o gwrdd â meistres y gwisgoedd (a chymdoges i’r teulu) a ddaeth i’w gyrchu ym Mhrifwyl Maldwyn ’81, ac a oedd yn poeni na fyddai neb gartref i roi’r biniau allan ar gyfer y lori ludw! A hanes coron sigledig Abergwaun ’86, am na aeth Jim ati i fesur ei ben cyn y seremoni fawr. Does dim angen troslais gan ryw actor anhysbys, cerddoriaeth ddramatig na graffeg ffansi yma. Mae lleisiau’r tri yn ddigon. Rhaglen i godi gwên a thynnu deigryn.
O fyd steddfodol i fyd selebs yn Sioe PC Leslie Wyn (Boomerang) ar noson San Steffan. Do, mae plisman campus Cricieth wedi llwyddo i gael ei sioe ei hun ar y bocs megis Jonathan Ross Cymraeg. Mae ganddo hyd yn oed ei fand ei hun o’r enw Two Asbos on Probation! Ac fel Mr Ross, mae’r rhaglen yn frith o fwyseiriau lle mae’r gwesteion dewr/dwl yn destun gwawd a thafod miniog, anfwriadol, Mr Wyn. Mae ambell wyneb cyfarwydd yng nghanol cynulleidfa Llangefni, fel Jonsi (“hefo hwn fydda i’n codi’n bora”), Elin Fflur (“ma’ chwaer fi’n addolio chdi”) a Malcolm Alan sydd “efo mwy o points na Wrecsam” wrth gyfeirio at ei drwydded yrru. Ac mae’r cyflwynydd wedi gwirioni’n lân ar rannu soffa efo Rhodri Ogwen ac yn bachu ar y cyfle i’w gofleidio mewn eitem o’r enw ‘Hygio Hwdi’ fel rhan o nod yr heddlu o wrando a bod yn agosach at y bobl gyffredin. A gwae Heledd Cynwal am gyfeirio at liw-haul-gwneud y dyn ei hun… Does dim dwywaith mai Tudur Owen yw un o brif ddigrifwyr Cymraeg ar hyn o bryd, a bod un o’i greadigaethau gorau yn haeddu ei raglen ei hun. Ond peidiwch â gofyn i mi fod yn un o’r gynulleidfa, rhag ofn i mi gochi cymaint â ’ngwallt.
Blwyddyn arall, rhaglen arall am Batagonia. O na! meddech chi. Ar ôl rhaglenni arbennig o’r paith gan Aled Jones a Matthew Rhys yn y gorffennol, tro Eiry Palfrey yw hi nawr. Ond roedd Poncho Mam-gu (Tracrecord) yn werth ei gweld. Cyfuniad effeithiol o ffilm ddogfen a drama sydd yma, wedi’i seilio ar atgofion teuluol am wraig dra arbennig ar droad yr ugeinfed ganrif - Ellen Thomas, neu Nel Fach y Bwcs. Hanes teulu a ddenwyd gan ddelfryd Michael D Jones o’r Wladfa Gymreig, a’r cyfle i brynu can erw o dir am £12 mewn man gwyn man draw saith mil o filltiroedd i ffwrdd - ond a wynebodd paith didostur o ddrain a cherrig. Hanes Nel, merch y teulu, a aberthodd ei phlentyndod i gadw tŷ a magu ei brodyr a’i chwiorydd yng nghanol unigeddau’r paith, ac a siomwyd dro ar ôl tro gan ddynion. Ond dysgodd i garu ei gwlad fabwysiedig hefyd, a meithrin perthynas glos gyda brodorion gwreiddiol Patagonia - gan gyfnewid bara am y poncho, neu siôl arbennig, yn rhodd o gyfeillgarwch oes gan yr Indiaid. Ac mae’r hanesyn hyfryd am yr Indiaid yn adrodd “poco bara” (darn o fara) yn rhan o lên gwerin y Wladfa heddiw. Fiw i chi beidio â chael eich cyffwrdd gan yr olygfa emosiynol tua’r diwedd, pan ddaw Eiry Palfrey wyneb yn wyneb ag un o ddisgynyddion Pennaeth yr Indiaid a gyflwynodd y Poncho gwreiddiol i’w nain.