Coroni Calzaghe!



Cafwyd dechrau addawol iawn gyda pharodi o'r ffilmiau byrion hynny sy'n cyflwyno rhaglenni'r Sianel - y bygis golff a'u tebyg. Gwelwyd y camera yn tremio'n araf i ddangos goleuadau pier Penarth yn fflachio cyn cael eu ffiwsio gan ddau ddyn go chwithig yr olwg - sef prif actorion ac awduron y gyfres, Tudur Owen ac Iwan John - â'r logo blaensleisiog MAW/R ar y sgrîn wrth gwrs. Mae rhai o'r hen stejars yma o hyd, fel PC Leslie Wyn sy'n cael ei hun mewn mwy o lanast na phrif gopyn Heddlu'r Gogledd, a chriw rhaglen ddychmygol i blant, Dyna Hwyl! sydd mor ddi-chwaeth ag erioed yn yr 80au. Oedd Bilidowcar gynt mor ŵ-ŷ-misus-aidd â hyn? Ond ar y cyfan, mae myrdd o gymeriadau a sefyllfaoedd newydd yn y gyfres newydd (gyda rhai'n fwy llwyddiannus na'i gilydd - roedd y sgets ‘Dewch i Ddawnsio' yn llusgo braidd - faint o jôcs allwch chi wneud o ddawnswyr rhwmba'n rhechu?!). Dyna chi'r parodi o raglenni Trebor Edwards ers talwm, gyda'r ddeuawd yn pwyso ar eu ffyn bugail wrth forio canu ‘Wele'n sefyll rhwng y myrtwydd' cyn colli'u ffordd yn llwyr ar ôl i chwa o wynt chwythu'r dudalen â'r geiriau hollbwysig. Ac wele'r ddau yn ei la-la-la-io hi mewn cytgord perffaith, cyn gorffen gyda bonllefau o ‘Bread of Heaven' megis ffans meddwol Stadiwm y Mileniwm. Gwych.
Dwi'n siŵr fod trefnwyr teithiau yn diawlio'r sgriptwyr am eu portreadu fel rhai sy'n byw a bod dan wely haul, yn slochian pina coladas, smocio fel stemar, a meddyliau mor frwnt â landrofer mewn cae lleidiog. Croeso i Beryl, Cheryl a Meryl, a gafodd wahoddiad i gynghori pobl ar sut i drefnu'r gwyliau delfrydol ar raglen radio Hywel a Nia - er gwaetha'r ffaith bod un o'r triawd orenaidd yn meddwl mai Jônsi oedd yr holwr, a chamgymryd Nia Roberts fel y ddynes-gwneud-panad. Yn wir, mae'r gyfres megis A-Y o'r Sêr Cymraeg gyda rhai fel Beth Robert, Heulwen Haf ac Arfon Haines yn gwneud ymddangosiadau cameo. A braf gweld Gwenllian Jones yn ôl i ddangos ei doniau comedi ar ôl sbel yn Awstralia. Prawf bod pen bandits y Sianel wedi maddau iddi ar ôl rhegi ar raglen fyw i blant, Noc Noc, sbel yn ôl. Diawch, mae hynny'n swnio fel sgets yno'i hun. Dyna Hwyl!

Cyfres o straeon personol iawn a gafwyd yn y ffilm ddogfen hon, yn amrywio o Gareth, perchennog ifanc "yr unig dafarn hoyw" yn y gogledd; i'r cwpl Beca a Gwawr. Roedd y ddwy wedi uno mewn glân bartneriaeth sifil ac eto ddim yn teimlo'n ddigon cyfforddus i gerdded law yn llaw 'lawr y stryd. Roedd Liz o Aberhonddu yn ddigon o gês i gyfaddef ei bod yn ymgnawdoliad o'r lesbiaid ystrydebol (torri'i gwallt yn fyr, cneifio, gwylio tîm rygbi merched yn y mwd) a Catrin o Aberystwyth yn trafod ei bywyd rhywiol fel petai'n trafod y tywydd! Yng nghanol hyn i gyd, bu John Bwlchllan a Richard Crowe yn trafod y cyd-destun hanesyddol a llenyddol, i gyfeiliant cerddoriaeth go sinistr. Doedd dim angen cyfraniad yr ysgolheigion mewn gwirionedd. Roedd hanes y gyflwynwraig/cynhyrchydd/cyfarwyddwraig Nia Dryhurst yn ddifyr ac yn ddigon yno'i hun. Rhyw damaid i aros pryd a gafwyd ganddi rhwng y pytiau personol eraill, o'i deffroad rhywiol o weld Olivia Newton John ar boster ‘Grease' i'r ymdeimlad o ryddid wrth fynd i'r coleg a chefn ar fyw celwydd Caernarfon. A'r tro bach yng nghynffon ei stori ar y diwedd, oedd ei gweld yn chwarae gyda'i mab bach blwydd oed ym Mharc y Rhath - ffrwyth triniaeth IVF lwyddiannus.
Er ei bod braidd yn rhy hir (90 munud), roedd hon fel chwa o awyr iach o gofio fod Cymry Cymraeg yn dueddol o fod yn swil o flaen y sgrin ac ofn pechu'r byd a'r ddynes drws nesaf. Y cyngor ar y diwedd oedd bod hyder a hunan-barch mor bwysig yn y gymdeithas hollgynhwysol, honedig, sydd ohoni heddiw.
Ac i chwalu'r hyder hwnnw'n llwyr, wele'r cyfryngau'n eu portreadu fel y cymeriad pantomeim Carl ar Pobol y Cwm sy'n gwneud i Mr Humphreys Are you being served? ymddangos fel Hulk Hogan.