Crïo. Dyna’r cof cyntaf sydd gen i o wylio S4C. Crïo mewn siom wrth i Forus y Gwynt ac Ifan y Glaw gadw reiat efo trosglwyddydd teledu mynydd Conwy, a gwrthod gadael i’r teli bocs ddangos cartŵn hirddisgwyliedig Superted. Trwy lwc, fe lwyddodd Smotyn i daflu’i lwch hud a dod â’r tedi bêr yn fyw ar y sgrîn i achub y byd - a’r Gymraeg - ar nos Lun, 1 Tachwedd 1982. Chwarter canrif yn ddiweddarach, mae Siôn a Deio, fy neiaint, wedi mopio hefo Sali Mali a Sam Tân, ac mae cynlluniau ar y gweill i sefydlu sianel arbennig Planed Plant i fynd ben-ben â’r ugain o sianeli plant Saesneg sydd ar soser Sky. Ydy, mae ‘Sbrec’ wedi dod i oed.
Roedd y Sianel ‘mlaen o hyd yn tŷ ni. Os oeddwn i a’m chwaer yn ebychu “bô-ring”, byddai ‘nhad yn pwysleisio ei bod hi’n ddyletswydd arnon ni i wylio’r arlwy Gymraeg yn lle’r sothach Saesneg. Felly, roedd gwylio S4C yn ddigwyddiad teuluol iawn mewn degawd lle’r oedd popeth fel pe baent yn dod o stabl HTV - yr hen stejar Cefn Gwlad, llu o gyfresi comedi a chân Caryl, sioeau sebon Coleg a Dinas (1985-1991) a oedd ymhell o flaen ei hamser cyn i’r Bae bondibethma ddod yn ffasiynol, a ffonio i geisio bachu tegell neu dostiwr Cyfle Byw gan y cwisfeistr Gareth Roberts ar nosweithiau Sul. A dwi’n cofio fy chwaer yn cael ei hel i’r gwely, a finnau’n cael aros ar fy nhraed i fwynhau Minafon (1984-1990) hefo hiwmor Hyw Twm a Magi, yr hen drwyn Gwen Ellis a’r JR Cymraeg, Dic Pŵal.
Mae hiwmor wedi bod yn bwnc difrifol i’r Sianel o’r cychwyn cyntaf. Roedd Hafod Henri (gyda Gari Williams a Gaynor Morgan-Rees) yn ffefryn cynnar, ond Hafod Haidd ar y llaw arall yn haeddu cael ei gadael ar y domen dail. Roedd Teulu’r Mans (1988-1991) megis marmite teledu Cymraeg (perthynas caru/casáu), ac am bob C’mon Midffîld, bu erchyllbethau fel Eric (Roy Noble a Margaret Williams? Nyff sed) a’r Ferch Drws Nesa (a brofodd mai cyflwyno nid comedi oedd maes Nia Roberts). Ac er gwaethaf pawb a phopeth, mae traddodiad y Noson Lawen yma o hyd.
Degawd o arholiadau ysgol a choleg oedd y 90au i mi, ac addasiadau teledu o fawrion llên Cymru yn ffynhonnell sawl traethawd - o William Jones i Traed mewn Cyffion. Cyfnod pan ddarlledwyd ffilm fawr Gymraeg bob Gŵyl Dewi, gyda’r uchafbwyntiau’n cynnwys perfformiad dirdynnol Beryl Williams fel Nel (1991) gan Meic Povey. Cyfnod o roi S4C ar lwyfan byd-eang, gyda Hedd Wyn yn mynd i Hollywood (1992) a chwarae giamocs gyda’n cendryd Ewropeaidd yn Gemau Heb Ffiniau/Jeux Sans Frontières (1991-94). Dyma ddegawd y sioeau cwis fel Jacpot (1995-99) gyda Kevin Davies a’i odlau ciami; ac un o gomisiynau mwyaf dadleuol y sianel heb os - Heno - rhaglen gylchgrawn amser-brecwast-fin-nos oedd yn gyfuniad o gyfweliadau Saesneg a’r Wenglish ryfeddaf o enau Iestyn Garlick a Siân Thomas. I wneud iawn am hynny, bu’n degawd ffrwythlon iawn o ran dramâu unigryw a phoblogaidd am y Gymru fodern, fel hynt a helynt triawd y garej ac eraill ar stad ddiwydiannol yng Ngwynedd (Pengelli 1994-2001); cwmni cludiant a delwyr cyffuriau yn ymgiprys am fusnes ar arfordir y gogledd (A55 1994-1997); perthynas pobl tre’r porthladd yn Sir Benfro (Halen yn y Gwaed 1993-1996), saga arwerthwyr cefnog y gorllewin (Pris y Farchnad 1992 - 1996, cyn iddi fynd ar chwâl tua’r diwedd), a’r perl o gyfres am bobl y cwm go iawn, Tair Chwaer (1997-1999).
Erbyn heddiw, drama arall Siwan Jones sy’n denu’r cynulleidfaoedd, y clod a’r bri, gan gynnwys gwobr Ewropeaidd Rose d’Or 2007 fel y gyfres sebon/drama ysgafn gorau. Camp Con Passionate yw dangos bod modd i ddrama Gymraeg sefyll ben ac ysgwydd uwchben cynnyrch y byd Eingl-Americanaidd. Ond beth ar y ddaear yw’r tueddiad anffodus, diweddar, o gomisiynu sgriptiau Saesneg fel cyfres gyntaf Caerdydd, y ddrama gomedi Cowbois ac Injans a’r ymdrech comedïol diweddaraf, Man Del? Mae’n peri i rywun aralleirio’r logo newydd, slic, i S4/Cyfieithiad.
Gobeithio na fydd hyn yn gadael gormod o flas cas ar siampên y dathlu ym Mharc Tŷ Glas…