Wednesday, October 17, 2007

Califfornia Dreamin’

 

Mae ‘rhen Dai yn ôl! Dai Duchovny, hynny yw. Wedi blynyddoedd o ymchwilio i graduriaid anesboniadwy’r arallfyd, osgoi’r Cigarette Man sinistr, trïo rhoi gwên ar wep syber Dana Scully; ac actio mewn ffilmiau anghofiadwy; mae ei yrfa bellach wedi cael ail-wynt gyda’r gyfres gomedi Californication. Hanes Hank Moody (dim ond yr Iancs fyddai’n bathu’r fath enw), awdur rhwystredig (swnio’n gyfarwydd) sydd wedi dadrithio’n llwyr ar ôl i’w nofel lwyddiannus gael ei throi’n ffilm ramantus chwydlyd gyda Tom a Katie, ac sydd bellach yn cael cynnig mân-swyddi sgwennu fel ‘blogio’ (swnio’n gyfarwydd eto!) - ac felly’n disgyn i drobwll o iselder, goryfed, a bachu fodan gwahanol bob nos (ddim mor gyfarwydd…). Ac wele sawl golygfa ddoniol o Hank yn mwynhau pleserau’r cnawd, cyn mynd braidd yn rhy bell wrth chwarae doctors a nyrsys hefo merch dinboeth sy’n digwydd bod yn un o ffrindiau ei ferch ei hun. Cachu hwch.


Mae’r gyfres eisoes wedi denu sylw am y rhesymau anghywir, ac wedi pechu’r Awstraliaid o bawb - yn enwedig am yr olygfa freuddwydiol agoriadol lle’r oedd Hank yn cael ‘bendith’ arbennig gan leian horni mewn eglwys. Mae ambell feirniaid cartref fel Alessandra Stanley wedi lladd arni  yn y New York Times hefyd, trwy honni nad yw’n nemor ddim ond ymateb gwrywaidd i Sex and the City oedd yn bychanu’r bois ac yn eu trin fel teganau rhyw.


Bid a fo am hynny, mae hiwmor tywyll y gyfres yn gafael wrth ddarlunio rhagrith a gwacter bywyd Hollywood sydd lawn mor berthnasol i’r obsesiwn Prydeinig â gwacter bywyd “sêr” pop, pêl-droed, operâu sebon a Posh Spice. 


Gyda llaw - cyhoeddodd y Bonwr Duchovny ei fod ynta, Gillian Anderson, a Chris Carter (crewr y gyfres wreiddiol) am ddod ynghyd o’r diwedd i wneud ffilm arall o’r Ffeiliau X ar gyfer y pictiwrs yn 2009.
Newyddion gwych!

Californication, 10 o’r gloch nos Iau, Five


Posted by Gog y Cwm in 18:30:55
Comments

Leave a Reply