Pen-blwydd hapus Emmerdale!
Mae un o hen stejars y byd operâu sebon yn 35 oed. Ar 16 Hydref 1976, agorodd pennod gynta’r gyfres newydd hon gydag angladd Jacob Sugden, gan adael ei weddw Annie (Sheila Mercier) a’i blant Jack, Joe a Peggy - sef y teulu a ddaeth yn sail i Emmerdale Farm ym mhentref Beckindale, yng nghanol dolydd ffrwythlon Swydd Efrog. Diddorol nodi mai o’r Ynys Werdd a ddaeth yr ysbrydoliaeth i’r gyfres, wrth i griw Yorkshire Television sylwi ar boblogrwydd The Riordans ar RTÉ. A thros y blynyddoedd wedyn, parhaodd y Sugdens a chymeriadau eraill fel Mr Wilks ac Amos i ddifyrru’r gynulleidfa selog, oedrannus, a chael ei hanwybyddu i bob pwrpas gan y wasg a’r beirniaid Prydeinig. Tan Nadolig 1994, hynny yw, gyda digwyddiad dramatig a hynod ddadleuol pan ffrwydrodd awyren uwchben y pentref - bum mlynedd ar ôl trychineb Lockerbie. Ffrwydrodd y ffigurau gwylio hefyd i 17 miliwn, cafwyd gwared ar y fferm o’r teitl ac o’r gyfres i bob pwrpas, daeth llu o bobl ddŵad i’r ardal fel y siwpyr-ast Kim Tate nes ailfedyddio’r cyfan yn Dallas of the Dales. Dim mwy o drafod prisiau’r ŵyn ym marchnad Skipdale rownd bwrdd brecwast y Sugdens felly…

Jack Sugden (Clive Hornby) yng nganol dinistr y ddamwain awyren ym 1993 -
blwyddyn yr ailwampio mawr
Erbyn hyn, mae’r hen stejar wedi hen ennill ei phlwyf fel trydydd opera sebon mwyaf poblogaidd Prydain, gan ennill brwydr y gwylwyr yn erbyn Deadenders yn gyson. Sdim dwywaith ei bod wedi bachu ar fformiwla lwyddiannus o gyfuno’r dwys a’r digrif, gyda chymeriadau cryf sy’n ymylu ar fod yn gymeriada pantomeim weithiau. Gweler perchnogion y siop gornel, Viv a Bob Hope, a Paddy’r ffarier, heb sôn am y blydi Dingles. Ac mae ‘na gymaint o gymeriadau campus eraill fel petai Emmerdale yn brifddinas hoyw Swydd Efrog. Weithiau, mae ‘na dueddiad i fynd ar drywydd Brwcseidllyd o beryglus trwy fynd dros ben llestri efo’r holl ddamweiniau ceir difrifol, stormydd angheuol a golygfeydd Towering Inferno-aidd mewn tai a sguboriau bob ychydig fisoedd.

Yr anfarwol Kim Tate a’r dynion yn ei bywyd
Ac wchi be? Maen nhw’n dathlu’r garreg filltir hon gyda phelen ffrwydrol o dân ym mwthyn y Sugdens ar ôl i’r ferch Vicoria gyhuddo ei thad Jack ar gam o ladd ei mam Sarah mewn tân(!) flynyddoedd ynghynt - er mai Andy, ei brawd mabwysiedig daniodd y fatsien go iawn. ‘Da chi dal hefo fi?
Ta waeth, dyma glip o’r gerddoriaeth wreiddiol, pan roedd bywyd yn symlach a lot, lot, arafach, ar fuarth y ffarm. Nos da.
Posted by in 20:49:53
a Great bolg,I need to look into it further.