Wednesday, July 11, 2007

Newydd dorri!

Mae’n swyddogol! Dyma Kylie ‘Kinky Boots’ a David Tennant wrthi’n ffilmio pennod arbennig, awr o hyd, o anturiaethau’r Doc ar gyfer noson Dolig ‘leni. Go dda’r hen hogan. Dim ond gobeithio y bydd hi fwy llwyddiannus na’r gomediwraig Catherine Tate y llynedd.

 

Posted by Gog y Cwm in 21:42:35 | Permalink | Comments (1) »

Y felan a fi

A’r haul wedi mynd ar streic eleni, a phob dydd fel glan’ gaea bron, mae’r teli bocs wedi cael mwy o iws na’r arfer. Ond mae S4C yn dal i drio’n darbwyllo ei bod hi’n haf o hyd, gyda darllediadau lu o’r Sesiwn, Sioe a Steddfod ar y gweill (ac ailddangosiadau ar Ddigidol o rwan tan Dolig). A waeth pa mor boblogaidd ydi Mr Llanilar, mae dwbl dos o DJ ar nos Lun (ailddarllediad Cefn Gwlad a chyfres newydd Rasys gefn-wrth-gefn) yn mynd â phethau braidd rhy bell. ‘Da ni’n gwybod fod Dai yn licio hel ei fol, ond mae ‘na ffasiwn beth â “gormod o bwdin” yn yr achos yma!

Diolch i’r drefn am ddramâu newydd yn yr iaith fain, felly - sy’n dipyn o syndod o gofio mai sioeau realiti sy’n bla fel arfer ‘radeg yma o’r flwyddyn. A diawch, mae ‘na rwbath at ddant pawb bob noson o’r wythnos.

 Nos Sul - The Commander (ITV). Byth ers i Jane Tennison roi’r gorau i ddatrys llofruddiaethau erchyll rhwng smôcs a joch o wisgi, mae Lynda La Plante wedi trio efelychu llwyddiant byd-eang Prime Suspect gyda rhagor o gyfresi ditectif. Roedd Trial & Retribution yn plesio, ond dwi ddim mor siŵr am hon. Falle mai’r prif gymeriad sydd ar fai, gan fod y Prif Gopyn caled, oeraidd, Clare Blake (Amanda Redman) yn gwneud i Magi Thatcher ymddangos fel hen fodryb ffeind. Dyw hyd yn oed DCI Doug James (Mark Lewis-Jones o’r Rhos, deintydd a diawl drwg Con Passionate!) heb lwyddo i wneud iddi wenu eto… os na fydd y ddau’n meithrin perthynas caru-gasáu ac yn rhannu gwely erbyn diwedd y gyfres, hynny yw. Er hynny, mae ‘na ddigon o stamp Lynda La Plante yn hon i wneud i mi wylio wythnos nesa. 

Gyda llaw, braf gweld Mark Lewis-Jones yn cael cadw’i acen Gymreig yn lle cogio bod yn Sais dosbarth canol, da, fel Richard Harrington yn Holby Blue.   

‘Da ni’n camu i fyd tywyllach fyth nos Fawrth yn Cape Wrath (cydgynhyrchiad Ecosse Films a sianel gebl Showcase America ar gyfer Channel 4), wrth gael ein tywys gyda’r teulu Brogan dan fygydau i’w cartref newydd ym Meadowlands. Teulu ar ffo sydd wedi gorfod mabwysiadu enwau a thras cwbl newydd fel rhan o gynllun gwarchod tystion. Down i ddeall fod holl drigolion y gymuned ryfedd hon hefyd dan warchodaeth, a bod gan bawb lond gwlad o gyfrinachau. Mae’n lle delfrydol, braf, ar yr olwg gyntaf - darn o New England yng nghanol Lloegr wledig, tai pren mawr a moethus, gerddi twt, Merc a Lexus ym mhob dreif, dim llanast na llanciau Chav-llyd ar y strydoedd. Delfryd Daily Mail.

Ond ’sdim dianc i fod. Does neb yn mentro i’r byd mawr cas y tu hwnt i ffiniau’r dref, ac mae rhyw arolygwyr di-wyneb yn cadw llygad barcud ar drigolion yr hafan honedig hon. ‘Sdim rhyfedd fod y penteulu, Danny Brogan (David Morrisey), yn paranoid. Erbyn diwedd y bennod gyntaf 1 awr 40 munud o hyd (ffiw!), mae’r darlun delfrydol yn chwilfriw wrth i Danny Brogan dagu’r labrwr a’r cythrel lleol, Jack, i farwolaeth yng nghanol ymosodiad rhywiol ar ei drawswisgwr o fab. Mae gan Danny Brogan waed ar ei ddwylo yn Iwtopia hyd yn oed…

Mae rhai wedi cymharu’r gyfres â The Prisoner a Twin Peaks. Lol botas. Roedd clasur David Lynch gyfuniad perffaith o’r dwys a’r digri, heb sôn am gerddoriaeth hudolus Angelo Badalamenti a’r hyfryd Sherilyn Fenn. Mae fersiwn Channel 4 yn debycach i Brookside 2007.

O leiaf mae gan True Dare Kiss (BBC1, nos Iau) dalp go lew o hiwmor du rhag ofn i’r felan fynd yn drech na’r gwyliwr druan. Hanes pedair chwaer a brawd o Fanceinion sy’n cwrdd â’i gilydd eto yn angladd eu tad, ar ôl colli cysylltiad am ugain mlynedd. Unwaith eto, mae gan bawb rywbeth i’w guddio, a rhyw ias yn perthyn i hen gartre’r teulu nid annhebyg i aelwyd Norman Bates. Mae pob pennod yn gorffen gyda hyd yn oed mwy o gwestiynau a chymhlethdodau - gwych!

O! am gyfres debyg yn y Gymraeg. Drama ias a chyffro, neu ddrama afaelgar am deulu anghonfensiynol. Ro’n i wrth fy modd hefo Arachnid (2001), drama dditectif goruwchnaturiol oedd ‘mlaen ar nosweithiau Sul. Felly hefyd Pris y Farchnad (1993), saga arwerthwyr cefnog yn Sir Gâr, cyn i’r cyfarwyddwr Tim Lyn a’r storïwyr lyncu pils asid a mynd dros ben llestri braidd erbyn y gyfres olaf. Ac er gwaetha holl heip a gwobrau BAFTA Cymru (blwyddyn wael mae’n rhaid), roedd Fondue, Rhyw a Deinosors yn rhy honco bost i mi hyd oed.

O wel. Beryg mai adar brith Cwmderi fydd hi am y tro.

 

 

Posted by Gog y Cwm in 21:20:40 | Permalink | Comments (3)

Tuesday, July 3, 2007

Doctor Minogue

 

“Especially for you” gan Dai a Kylie - yn eich siop recordiau leol Nadolig 2007 

Newydd da o lawenydd mawr! Bydd Cymraes alltud enwocaf Maesteg yn serennu mewn pennod arbennig o Doctor Who y Nadolig hwn, Voyage of the Damned. Yn ôl si papur newydd Ddy Syn, fe fydd hi’n actio rhan gweinyddes ar fwrdd llong y Titanic a welwyd yn taro yn erbyn y Tardis ar ddiwedd pennod ola’r gyfres ddiweddara nos Sadwrn 31 Mehefin - a ddaeth i ben gyda golygfeydd eto fyth o Ganolfan y Mileniwm a’r bur hoff Fae, a 9 miliwn o wylwyr selog. Cadwch lygad allan am David Tennant a Miss Minogue yn ddiweddarach y mis hwn, pan fydd strydoedd Caerdydd yn cael eu ‘Doligeiddio. Mae’r sgwennwr Russell T Davies yn addo mai hon fydd “pennod Nadolig gorau a mwyaf uchelgeisiol hyd yma”. Edrych ‘mlaen yn eiddgar…

A thra bod Kylie yn stiwdios Llandaf, beth am ymddangosiad arbennig ar Pobol y Cwm noson Dolig, fel ffrind Cai ag Emma o Oz bell?

Yn y cyfamser, mae’r chwaer gyfres Torchwood (aka CSI Cardiff) wedi codi gwrychyn y Cêdiffians. Bnawn Sul diwetha, aeth BBC Wêls ati i fomio hen lys barn ar Stryd Westgate, nepell o Stadiwm y Mileniwm. Hynny prin deuddeg awr ar ôl digwyddiadau dramatig maes awyr Glasgow. Clyfar iawn(!) Cawn weld ffrwyth eu llafur ffrwydrol ar BBC2 ryw ben flwyddyn nesaf.

Y Bib yn creu llanast - a helynt - ar Stryd Westgate, Caerdydd

A thra ‘mod i wrthi, yn tydi’r cyfryngau wedi mynd dros ben llestri braidd efo terfysgwrs drama Llundain a Glasgow?  Wrth bendilio o BBC News 24 i Sky News ddydd Sadwrn, roedd penawdau breision fel “TERROR ATTACK ON UK” yn fflachio’n ddramatig ar y sgrîn a’r cyflwynwyr sobor o ddifrifol yn ymddwyn fel petai “9/11″ neu “7/7″ arall newydd daro Prydain. Calliwch hogia. Mae gan bobl Prydain fwy o ofn cael eu mygio ar y ffordd adref, sy’n fygythiad llawer mwy real na bomia-gneud nytars Islamaidd. 

O leiaf mae hanesion yr hulpan Paris Hilton wedi diflannu o’r newyddion teledu am y tro…

 

Posted by Gog y Cwm in 20:06:44 | Permalink | Comments (1) »