Friday, 15 August 2008

Cyfeiriad newydd!


Dwi di gorfod ymfudo oherwydd problema technegol ddiawl, felly ewch i:

www.shitclic.blogspot.com
Posted by Gog y Cwm at 10:59:31 | Permanent Link | Comments (0) |

Saturday, 28 June 2008

Gwell hwyr...

Ydw, dwi'n ôl wedi trwmgwsg y gwanwyn. Neu pwl o ddiogi/dim mynadd/can't bî ârsd. O, a gwyliau yn Basel a Genefa cyn bwrlwm rhyw gystadleuaeth bêl-droed neu'i gilydd. Felly, dyma fynd ati i ddiweddaru'r hyn o flog yn fwy rheolaidd yn sgil ceisiadau gan ambell un. Wel, gan un. Felly'n arbennig i ti Mar, dyma ailafael ynddi. Tan y pwl nesaf o ddiogi...etc etc.



 


Posted by Gog y Cwm at 17:36:09 | Permanent Link | Comments (0) |

Wyneb newydd yn blodeuo


                             Logo rhaglenni gwyrdd S4/C

Ddwy flynedd yn ôl, bu cryn ffys a ffwdan pan benderfynodd S4C roi'r farwol i un o'i rhaglenni mwyaf poblogaidd. Roedd llinellau ffôn Taro'r Post yn eirias, a'r wasg yn llawn llythyrau blin. Gwelwyd garddwyr yn hogi'u sisyrnau torri rhosod, a fflyd o dractors torri lawnt yn heidio i Barc Tŷ Glas. Efallai 'mod i'n gorliwio braidd, ond heb os, roedd selogion Clwb Garddio wedi gwylltio'n gacwn. Dim mwy o gynghorion garddio wythnosol gan Manon Eames a'r criw, a dim mwy o Gymraeg graenus Gerallt Pennant - un o'n cyflwynwyr mwyaf profiadol sy'n rhy ddieithr o'r hanner o'n sgriniau teledu. Roedd S4C eisiau dechrau efo llechan lân.


Ac wele Byw yn yr Ardd (Cwmni Da), cyfres gylchgrawn sy'n rhoi mwy o bwyslais ar arddio'n ecogyfeillgar a rhyngweithio â'r gwylwyr gartref. Mae Bethan Gwanas wedi penderfynu crwydro gerddi Cymru yn lle'r cyfandiroedd, gan hel syniadau i'w defnyddio adref yn Ffrwd-y-gwyllt. A draw yn Rhosgadfan, mae'r wyneb newydd Russell Owen Jones wrthi'n palu llain lysiau er mwyn byw'r bywyd hunangynhaliol perffaith. Ac yn sicr, roedd ganddo awgrymiadau difyr i fynd i'r afael â'r gwlithod gythrel sy'n gwledda ar y potiau blodau acw - fel gosod plisg wyau o amgylch y planhigion, neu ddenu'r pethau bach sleimllyd i slochian mewn bowlenaid o gwrw. Dyma'r cymeriad mwyaf cŵl fel ciwcymbr organig a welais erioed. Gyda'i arddull dow-dow, mae'n braf cael cyflwynydd newydd sydd heb fod trwy ysgol brofiad bratiog rhaglenni plant a phobl ifanc y sianel. Eitem ddiddorol arall oedd ymweliad Bethan â Gardd Berlysiau'r Bont-faen ym Mro Morgannwg, sy'n pwysleisio rhinweddau ffisig yr oes o'r blaen - chwyn fel dant y llew i drin anhwylderau'r iau, llygad y wennol fel eli'r llygad, a'r hen wermod lwyd i daclo'r meigryn. Ond fel un a gafodd lymaid o de wermod gan wraig fferm yng Ngharmel flynyddoedd yn ôl, roedd y blas chwerw yn ddigon i achosi cur pen i unrhyw un!

Roedd hon fel chwa o awyr iach i'r rhaglenni garddio hynod fanwl hynny sy'n apelio at arddwyr tan gamp yn bennaf. Hoffais y defnydd celfydd o labeli blodau a phlanhigion fel teitl enwau'r cyfranwyr hefyd. Cafodd cyfeiriad y wefan ei adrodd dro ar ôl tro, a chawsom ein hannog gan Bethan i ddarllen ei blogiadur a chyfrannu cynghorion a lluniau o'n gerddi ni. Dim ond gobeithio na fydd yr holl bwyslais ar we-hebu yn ormod o fwgan i ffans traddodiadol Gerallt Pennant.
Posted by Gog y Cwm at 16:24:09 | Permanent Link | Comments (0) |

Beth yw'r pwynt (i bwynt)?

Un o fanteision, neu anfanteision, adolygu rhaglenni teledu yw'ch bod yn gorfod agor eich meddwl a chanolbwyntio ar bethau na fyddech yn trafferthu sodro'ch pen-ôl ar y soffa i'w gwylio fel arfer. Pynciau sydd ddim fel at eich dant. Rasys ar Garlam (Boomerang) er enghraifft. Digon teg, dwi ddim yn foi ceffylau. Dwi'n taranu tisian a'm llygaid yn llifo fel Rhaeadr Ewynnol pan fyddaf o fewn canllath i ferlen neu ful. Ac yn ail, rhyw barchedig ofn ar ôl clywed y teulu'n sôn droeon am hen ffermwr a laddwyd gan geffyl gwedd flynyddoedd maith yn ôl. A heblaw'r arlwy flynyddol o Aintree, does gen i ddim myned gwylio rasys ceffylau. I mi, rhaid i chi fod yn y fan a'r lle i brofi holl gyffro a berw'r ras. Felly hefyd rasys pwynt-i-bwynt.

Dyma roi'r hen ragfarnau o'r neilltu am y tro, a dilyn rasys Lydstep ger Dinbych-y-pysgod - pumed cyfarfod pwynt-i-bwynt de a gorllewin Cymru. Ac os nad oeddwn i'n frwdfrydig, o leiaf roedd gan y cyflwynwyr Brychan Llŷr a Shân Cothi hen ddigon ohono fel marchogwyr o fri sy'n rhannu stablau ym mro Ogwr. Cawsom ein tywys o amgylch y cwrs cyn ras fawr Lydstep oedd â byd o wahaniaeth i feysydd Cas-gwent a Chaer. Yn syml, tir amaeth cyffredin gyda gwrychoedd a byrnau mawr fel pyst. Ac fel y dywedodd Brychan Llŷr, roedd angen ceffyl dewr a joci medrus (neu honco bost) i garlamu hyd at 40 milltir yr awr i fyny ag i lawr y cwrs. Ac yna uchafbwyntiau'r rasys gwahanol i ferched a dynion a nofis, gyda sylwebaeth ddramatig Wyn Gruffudd a Brychan Llŷr a'i dafod yn y boch braidd wrth i farchogwr anffodus gael ei hyrddio i'r llawr: "Druan â Wil, fydd e ddim yn blês iawn â 'nny". Na finna' chwaith, petai dwsinau o garnau gwyllt yn neidio am y gorau dros fy mhen!

Roedd Shân Cothi yn amlwg yn ei helfen un sydd eisoes yn gyfarwydd ar raglenni Sioe Fawr Llanelwedd bob haf. Cyfeiriodd at yr holl gymeriadau lleol sy'n rhan annatod o'r sin pwynt-i-bwynt, ac sy'n dilyn rasys y tymor o lefydd mor amrywiol â Chilwendeg a Thredegar. Trueni, felly, na chafwyd mwy o sgwrs gyda'r cymeriadau hynny ac eithrio'r ddau ffarmwr fflyrtlyd oedd wedi mopio gyda Davina Con Passionate! Trueni hefyd am iaith y rhan fwyaf o'r cyfweliadau. Gyda jocis fel Isabel Tomprett a Lucy Pearse Rowsell wrthi, mae'n amlwg nad oedd y Gymraeg ar garlam yn y maes hwn.

                                                   Cothi a Jess

Posted by Gog y Cwm at 16:16:36 | Permanent Link | Comments (0) |

Bilić, Roli a Kylie



Mi fydd hi'n haf a hanner i fabolgampwyr cadair freichiau eleni. Rhwng Ewro 2008, y tenis a'r Gemau Olympaidd mi fydd yr ardd fel jyngl, y car dan fynydd o lwch, y cynhaeaf ar ei hanner a'r barbeciw'n segur. Mae'n bleser gwylio'r cystadlu o dir mawr Ewrop eleni, yn absenoldeb heip a jingoistaidd Jac Sais a llwyddiant cenhedloedd bychain fel Croatia dan arweiniad Slaven Bilić. Ond waeth inni heb ag ymhyfrydu yn absenoldeb Rooney gan nad ydy Ramsey a'r giang yno chwaith. Er hynny, trueni nad oes yna raglen wythnosol arbennig gan griw Sgorio i roi'r ongl Gymraeg ar bethau. Ac er nad wyf am godi hen, hen, grachod, mae'r bêl hirgron yn amlwg iawn ar S4C eto'r haf hwn. Efallai bod cynnal Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn bluen yn het Cymru, ond faint ohonon ni sydd wir eisiau gwylio gêm fyw rhwng Iwerddon a Seland Newydd yn ystod yr oriau brig? Er 'mod i'n barod i wylio uchafbwyntiau'r brif garfan a'u hymdrechion glew yn yr ail brawf yn Ne Affrica, dwi ddim mor barod i wylio rwtsh fel Rowland ac Eleri ar y Boks. Yr unig beth clyfar am hon oedd ei theitl. Os oedd cynhyrchwyr Avanti wedi gobeithio efelychu llwyddiant Jonathan, heb y dyn ei hun yn Hemisffer y De, fe wnaethon nhw glamp o gamsyniad. Roedd hyd yn oed Nigel Owens wedi'i dallt hi a'i heglu i ddyfarnu gemau Seland Newydd. Roedd hi'n boenus gwylio Eleri Siôn yn dilyn sgript hiwmor tŷ bach ac actio'r cymeriad strêt wrth i Rowland ‘Roli' Phillips chwarae'r bili-ffŵl arferol. Gyda chymaint o bwyslais ar jôcs rhechu a thrôns Mr Phillips, mae'n addas dweud bod hon yn gachfa go iawn.

Ymddiheuriadau am yr iaith, ond dwi newydd wylio ail bennod o gyfres newydd Tipyn o Stad. Beiwch Iona (Janet Aethwy) yn enwedig, sy'n bytheirio fod y cyngor wedi'i symud o ‘Faes-Jî' i Faes Menai. Ar ôl cael ei thraed yn rhydd o'r carchar, mae'n cael ei thraed dani ar y stâd drwy werthu mwg drwg i griw o hogia ysgol. Gyda thafod miniog a wyneb miniocach, dyw hon ddim yn ddynes i'w chroesi. A gwae Susan druan, sy'n troi'i thrwyn ar y "rafins" newydd drws nesaf am "dynnu'r lle i lawr yn ofnadwy". Mae Elen Gwynne yn ei helfen fel y snob o fam ifanc sy'n ymhyfrydu yn ei chyfoeth newydd ar ôl ennill y bingo. Ond mae ei byd pinclyd perffaith yn chwalu'n rhacs wrth i'w merch bymtheg oed, Kylie, gyhoeddi ei bod yn feichiog yn ei pharti syrpreis. Chav-tastic! 

                                        Cofi Hills 90210

Read more...
Posted by Gog y Cwm at 16:11:28 | Permanent Link | Comments (0) |

Friday, 25 April 2008

Cysurwrs Job


Un o ffans swnllyd a meddw Joe Calzaghe yn Vegas


Dyma ni, chwarter ffordd drwy'r flwyddyn sydd eisoes yn dipyn o glasur. Rhwng y paffiwr o Drecelyn, pencampwr dartiau o Ddinbych a'r gantores o Nefyn, Camp Lawn annisgwyl, dathliad dwbl Abertawe, a'r Bluebirds yn hofran i Wembley, ry'n ni'n prysur adael ein hôl ar y byd. Draw dros yr Iwerydd, mae Matthew Rhys yn mynd o nerth i nerth yng nghyfres boblogaidd Brothers & Sisters (E4, bob nos Sul) ac mae buddugwyr BAFTA Gavin and Stacey wrthi'n addasu'r fformat hynod lwyddiannus ar gyfer sianel NBC America. Mae Torchwood ("CSI Cardiff") yn fwy poblogaidd na Doctor Who ar BBC America, tra bod gwylwyr o Siapan i Seland Newydd yn dilyn anturiaethau Tennant a Tate yn y Tardis. Ac mi glywaf eiriau ‘International Velvet' Catatonia yn fy mhen...

Ond howld on Now Jon. Mae un neu ddau sy'n mynnu rhoi stop tap ar y siampên. Ac nid Saeson nac Albanwyr cenfigennus mohonynt chwaith. Y cyntaf yw'r actor o Ferthyr, Richard Harrington. Wrth siarad â'r Western Mail wythnos diwethaf, dywedodd nad yw Doctor Who wedi cael fawr ddim effaith ar y diwydiant yng Nghymru, a bod y cynhyrchwyr yn mewnforio criw Llundain i weithio arni yn stiwdios anferthol Trefforest. Waeth iddi fod wedi'i gosod ym Mirmingham, meddai. Hyn gan actor sydd wedi gorfod mabwysiadu acen Seisnig ar gyfer ei ran yn Holby Blue. Yr ail gysurwr Job yw Dirprwy Brif Weinidog y Cynulliad. Yn lle ymfalchïo yn llwyddiannau'r awdur Russell T Davies a Phennaeth Drama BBC Cymru, Julie Gardner, fe alwodd Ieuan Wyn Jones ar Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC i sicrhau bod mwy fyth o ddramâu gwreiddiol yn hanu o Gymru.

Haws dweud na gwneud, fel y sylweddolais ar gwrs sgriptio yng Nghaerdydd dros y Sul. Un o'r uchafbwyntiau oedd sesiwn gyda'r awdures ysbrydoledig Lucy Gannon a greodd gyfresi poblogaidd fel Peak Practice a Soldier Soldier pan oedd gan ITV adran ddrama gwerth sôn amdani. A gwnaf, mi wnai faddau iddi am ddod â  Robson a Jerome i'r byd. Yn frodor o Swydd Derby, mae hi bellach wedi ymgartrefu yn Aberteifi ac wedi dotio at ei hwyresau'n parablu'n braf yn Gymraeg. Dywedodd ei bod ar dân eisiau gwerthu cyfres ddrama am y Gymru gyfoes i brif gomisiynwyr BBC ac ITV... ond yn ofer. I ben (bach) bandits y rhwydweithiau, dyw drama Gymreig ddim ar frig eu hagenda ar hyn o bryd. Teg edrych tua Llundain a Manceinion yw hi o hyd i rai..

Falle bod y Cysurwrs Job nes ati wedi'r cwbl.

Read more...
Posted by Gog y Cwm at 19:58:57 | Permanent Link | Comments (0) |

Clod a bri a bonc!

 

Llongyfarchiadau gwresog i G&S ar ennill dwy wobr BAFTA, am y perfformiwr comedi orau a thlws y gwylwyr - tipyn o gamp i raglen a ddatblygodd o fod yn dipyn o gwlt ar sianel leiafrifol BBC Three i ennill calonnau'r mwyafrif. A thra 'mod i'n croesawu hyn, efallai bod lle i boeni am boblogrwydd rhyfeddol y sioe. Eisoes, mae deiseb ar Gweplyfr yn galw am drydedd gyfres er bod y crewyr yn gobeithio ffarwelio gyda rhifyn Nadoligaidd; tôn ffôn hynod boblogaidd "Oh, what's ocurring?" a'r son arswydus fod Bryn a Nessa (Rob Brydon a Ruth Jones) am ryddhau'r sengl "Islands in the Stream" ar gyfer siartiau'r Dolig. O hec.

Ar y llaw arall, mae'r comedïwr Steve Coogan a'i gwmni cynhyrchu Baby Cow yn bwriadu cyflwyno cyfres o dair drama-gomedi fer ar gyfer y BBC, gyda Bob Hoskins, Sheila Hancock a Rhys Ifans. Bydd y monologau hanner awr yr un yn cwmpasu rhywun sydd ar fin llofruddio neu am gael eu lladd eu hunain. Yn ‘Six Days One June', bydd Rhys Ifans yn chwarae rhan ffarmwr sy'n ceisio torri'n rhydd o'i deyrn o fam. Rhyw fath o Ffarmwr Ffowc gwaedlyd efallai? Mi fydd hi'n braf gweld y Br.Ifans ar y bocs unwaith eto, yn lle cael ei drin fel gwrthrych serch Sienna Miller gan y tabloids byth a hefyd.



Felly hefyd cyfres ddrama Sex and the Senedd (Caerdydd), sydd wedi cael mwy na'i siâr o sylw gan bapurau Lloegr oherwydd yr olygfa ‘sgwrsio' amheus yn nhai bach y Cynulliad. Sôn am wneud môr a mynydd a hysbys wych i'r sianel Gymraeg ac i gartref llywodraeth Cymru. Diolch i'r drefn nad golygfa gnychu Ryland Teifi a Sue Roderick a gafodd sylw, a oedd yn ddigon i wneud i rywun droi at bali Heartbeat ar nos Sul!

Read more...
Posted by Gog y Cwm at 19:46:14 | Permanent Link | Comments (0) |

Monday, 21 April 2008

Pwy sy'n perthyn?

Ar ôl plastro'r papurau newydd a hysbysebion lu ar y bocs, gan gynnwys benthyca broliant Jonzey ar Radio Cymru ("o Gymru, i Gymru, gan Gymru, efo un neu ddau o Gymry"), dychwelodd Doctor Who i'n dychryn a'n diddanu bob nos Sadwrn. Ac er 'mod i'n amheus o'r gomedïwraig Catherine Tate yn gymar i David Tennant, roedd hi'n dda ym mhennod fendigedig Pompeii wythnos diwethaf. Mae rhai'n dal i hiraethu am Rose (Billie Piper), a'm nai bum mlwydd oed yn ymwybodol nad oes lle i Martha (Freema Agyeman) yn y Tardis mwyach. Er hynny, trodd 8.4 miliwn o'r ffyddloniaid i wylio'r bennod gyntaf - sy'n ffigur da, er nad cystal â'r record o 13 miliwn a welodd Tom Baker wrth y llyw ym 1979.  

Croesawyd cyfres boblogaidd arall o stabl BBC Wales wythnos diwethaf hefyd. Mae Belonging yn ôl gyda'r gymysgedd arferol o helbulon a hiwmor iach pobol y cwm - gyda golygfeydd a deialog tipyn mwy coch na fersiwn Cwmderi. Mae'n anodd credu mai'r flwyddyn nesaf fydd degfed pen-blwydd y gyfres, a fydd yn ffarwelio gyda ffilm arbennig yn ôl y sôn. Efallai y bydd mwy o'r Lewisiaid, teulu craidd y cyfresi gwreiddiol, yn dychwelyd i'w cynefin bryd hynny gan mai dim ond Ceri Lewis (Eve Torchwood Myles) a'i mab Jake sy'n byw ym Mryncoed bellach. On'd oedden nhw'n ddyddiau da, gyda'r penteulu Margaret Lewis yn codi stŵr wrth garu â motobeiciwr ifanc, a'r triongl serch rhwng Ruth Lewis, ei merch a Moz! Collais rywfaint o ddiddordeb wedi chwalu'r teulu Lewis, a dyw cymeriadau newydd fel Des ag Asbo (Rebecca Harries, neu Sali Mali mewn hwdi!) a theulu'r dafarn heb gydio gymaint. Efallai ei bod hi'n ddoeth dod â'r cyfan i ben yn ei flas.

Gwahaniaeth arall rhwng hon a'r gyfres wreiddiol yw'r prinder enwau ‘mawr' o Loegr. Gyda Gwen Taylor (Duty Free), Charles Dale (Coronation Street) a Jesse Birdsall (Eldorado druan) yn rhan o'r cast cychwynnol, y bwriad mae'n debyg oedd apelio at Brydain gyfan. Ond ar ôl sylweddoli nad oedd gan Lundain 'run iot o ddiddordeb fel arfer, daeth pen bandits Llandaf at eu coed a chanolbwyntio ar eu hactorion a'u cynulleidfa gynhenid. A dau o wynebau cyfarwydd y gyfres newydd yw cyn-actorion Pobol y Cwm - gyda Jason/Rhys ap Hywel yn denu sylw'r merched lleol fel hyfforddwr ffitrwydd; a'r Parch Sabrina/Gillian Elisa yn hanner borcyn ar wely massage. Dim gair wrth Sara ac Anti Marian!



Wil a Vanessa (William Thomas a Di Botcher)

Read more...
Posted by Gog y Cwm at 19:27:23 | Permanent Link | Comments (0) |

Sunday, 13 April 2008

Cwm Llwm?

Mae'r sianel ddigidol arfaethedig yn yr iaith Aeleg, ffrwyth partneriaeth rhwng BBC Alba a Seirbheis nam Meadhanan Gàidhlig, eisiau sioe sebon newydd - rhywbeth tebyg i Machair a ddarlledwyd ar STV rhwng 1992-96. Wrth gwrs, mae'r syniad o ddefnyddio opera sebon fel asgwrn cefn sianel deledu yn hen, hen syniad, ac yn dacteg effeithiol fel porth i ddenu pobl i wylio rhaglenni eraill y sianel honno. Ond mae'n ymddangos fod goruchafiaeth Pobol y Cwm fel prif raglen S4C yn dechrau edwino. Mae'r ffigurau gwylio diweddaraf am yr wythnos hyd at 16 Mawrth yn dangos mai Codi Canu ddaeth i'r brig, er gwaetha shambyls sain y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm; yna'r gyfres ddrama ryfeddol o boblogaidd Teulu (mae priodas yn garantîd o ddenu); a chyfres natur epig Iolo Williams. Digon teg, castiau criw Cwmderi oedd pump o raglenni mwyaf poblogaidd y Deg Uchaf (ynghyd â ffigurau ailddarlledu'r pnawniau canlynol ac omnibws y Sul), ond roedd adeg pan arferai penodau unigol ddenu dros gan mil yn gyson - a nod rhaglenni eraill oedd curo PYC. Bellach, mae Dai Jôs yn fwy poblogaidd na Dai Ashurst bob tro y ceir cyfres newydd o Cefn Gwlad. Dyma'r Deg Uchaf:

1. CODI CANU             (SUL)                          101,000

2. TEULU                    (SUL)                          100,000

3. NATUR CYMRU         (LLUN)                         94,000

4. POBOL Y CWM         (IAU)                           85,000

5. POBOL Y CWM         (MERCHER)                   76,000

6. POBOL Y CWM         (LLUN)                         76,000

7. POBOL Y CWM         (GWENER)                    71,000

8. JONATHAN               (GWENER)                   69,000

9. CERYS NôL ADRE       (MAWRTH)                  65,000

10. POBOL Y CWM         (MAWRTH)                  63,000

Dim lladd er mwyn lladd ar PYC ydw i. Yn wir, hon yw'r unig sioe sebon dwi'n ei gwylio'n rheolaidd bellach. Mae straeon difyr y dyddiau hyn yn cynnwys perthynas gymhleth Nesta/Hywel/Ffion, carwriaeth Kevin a Sheryl, y Deri ar ei newydd wedd, a chymeriadau newydd fel Gaynor Evans, pennaeth Ysgol y Mynach a'i ddwy ferch (sy'n actoresau syndod o dda, o gofio'r plant prennaidd sydd fel arfer yn bla ym myd sebon). Ac mae'n braf croesawu Eileen (Sera Cracroft) yn ôl i Benrhewl. Ar y llaw arall, mae cymeriadau wedi gadael Cwmderi fel y Marie Celeste yn ddiweddar, rhwng Stacey, Julie, Kath, Jason, Katie, Erin a Sabrina; ac mae ganddi'r arferiad anffodus o gyflwyno cymeriadau o nunlle a'u hanfon i dir neb wedyn - Evie a Rhian Haf sy'n dod i'r cof. Ac mae 'na golli cyfle a photensial aruthrol gyda chymeriadau cryf eraill, fel yr archddihiryn Ieuan Griffiths a'i wraig Hazel. Er gwaetha'r gwelliannau mawr, mae arna i ofn fod PYC wedi colli lot fawr o'r ffyddloniaid ers canol y nawdegau, pan roedd Cwmderi'n gartref i gangstyrs, gwerthwyr cyffuriau a lapddawnswyr. Neu efallai bod trefniant seiloffon-a-phiano-plant-Yamaha uffernol Owen Powell (Mr Waw Ffactor, gynt o Catatonia) o'r arwyddgan yn ddigon i wneud i bobl droi am Deadenders.



Read more...
Posted by Gog y Cwm at 11:40:30 | Permanent Link | Comments (0) |

Saturday, 12 April 2008

Aberstalwm

Does dim esgus i hen ffrindiau fod yn ddiarth yn oes Facebook. Ac mae'r Sesiwn Fawr, y Sioe a'r Steddfod yn gyrchfan wych i hen gyfeillion bob blwyddyn. Ond pe bawn i'n cael gwahoddiad i fynychu aduniad ffurfiol, dweud diolch ond dim diolch fyddwn i. Achos mae'r syniad o aduniad ysgol yn codi ofn arna'i. Ofn y byddai'r holl brofiad yn groes i'r disgwyliadau, ac yn diweddu'n siom aruthrol. Pwy sydd wedi ysgaru, pwy sydd wedi'i heglu hi o'r ardal, a phwy sydd wedi dod allan i'r byd a'r betws fel Tori. A 'sdim byd gwaeth na chriw o bobl wedi twchu/gwynnu yn ceisio ail-fyw dyddiau ieuenctid ffôl. Ond wnaeth hynny ddim rhwystro Alan Wyn Jones. Yr her oedd dod o hyd i hogia 11 oed a oedd yn cadw reiat o flaen y camera ar ddiwrnod ola'r tymor wrth i ddrysau Ysgol Penrallt, Pwllheli gau am y tro olaf ugain mlynedd yn ôl. Hynny ymhell cyn helynt cau ysgolion Gwynedd heddiw...

Mae'r syniad y tu ôl i Lle Aeth Pawb? (Cwmni Da) yn un eithaf syml, ac am unwaith, yn wreiddiol i S4C. Canfod hen lun, a chanfod y stori y tu ôl i'r llun. A dyma ddilyn Alun yn ceisio casglu criw'r llun gwreiddiol ynghyd, trwy biciad i'r dafarn leol neu bori drwy hen gofrestr ysgol, a ffonio ffrindiau eraill yng ngŵydd y camera - hen dric gwael y cynhyrchwyr i'n siarsio eu bod yn sgwrsio ar hap. Daeth yr hogs i'r fei fesul tipyn - y rhan fwyaf yn dal i fyw yn eu milltir sgwâr ("hogia Dre Pwllheli"), eraill wedi bwrw gwreiddiau cyn belled â Southampton, Lloegr, a De Dakota, yr Unol Daleithiau. Roedd Richard bellach yn dysgu yn ei hen ysgol uwchradd, ac Abner y ffarmwr braidd yn anghysurus wrth ddychwelyd i safle'r hen ysgol a oedd yn wrthun iddo ers talwm. Ond y cymeriad mwyaf diddorol oedd Wil, labrwr di-waith o Garndolbenmaen, a'r unig un a siaradodd yn onest o flaen camera mewn gwirionedd. Tra'r oedd eraill yn trafod pynciau saff, hapus, fel priodi a'r plantos, roedd Wil yn wahanol. Roedd wedi colli sawl cyfle mewn bywyd, meddai. Difarodd beidio â gwneud cystal yn yr ysgol, a pheidio ag ymuno â'r fyddin er mwyn plesio'i rieni. Cafodd bwl o iselder. Ond gyda help Dewi ei fab saith oed, pêl-droediwr o fri, dywedodd fod ganddo rywbeth i edrych ymlaen ato. Cafwyd awgrym o dristwch arall hefyd, yn achos disgybl disglair fu farw ar y môr. Ond ni ymhelaethwyd ymhellach i hynny, gan i'r rhaglen ganolbwyntio'n hytrach ar y criw 30 oed yn stumio o flaen camera i'r un ffotograffydd eto. Wedi'r cwbl, dyddiau hapus yw dyddiau ysgol i fod ynte? Ond ar ôl i'r criw camera adael, a'r hogia' wedi gorffen hel straeon a'r caniau cwrw, 'sgwn i faint o gysylltiad fydd rhyngddynt eto?

Posted by Gog y Cwm at 18:58:15 | Permanent Link | Comments (1) |